Gall y rysáit yma gael ei weini fel byrbryd ysgafn unrhyw bryd o'r dydd neu ei weini ar dost trwchus am frecwast iachus a blasus! Mae'n cyfuno bwyd môr lleol o'r Gŵyr gan gynnwys Cocos Penclawdd a Bara Lawr.
Cynhwysion
1 Nionyn mawr wedi'i dorri'n fân
1 Llwy fwrdd o olew
4 Tafell o gig moch
100g Cocos Penclawdd wedi'u coginio
120g Bara lawr
Pupur du
Sudd lemwn
Dull
Gweini: 4 | Amser paratoi: 5 munud | Amser coginio: 15 munud
1. Cynheswch badell ffrio fawr, ychwanegwch yr olew a choginiwch y nionyn am 3-4 munud.
2. Ychwanegwch y cig moch a'i goginio nes ei fod yn grimp.
3. Ychwanegwch y cocos a'u cymysgu yn y bara lawr.
4. Cynheswch yn drylwyr ac ychwanegu pupur du a sudd lemwn.