Nid dyma’r rysáit draddodiadol ar gyfer bara brith, gan fod y rysáit wreiddiol wedi'i seilio ar fara wedi'i wneud â burum. Fodd bynnag, mae’r fersiwn hwn yn gwneud cacen laith hyfryd gan fod y ffrwythau sych yn cael eu socian dros nos mewn te.

Cynhwysion

400g Ffrwythau cymysg (e.e. Sultanas, rhesins, cyrens)

300ml Te poeth cryf

250g Blawd hunan-godi

1 Llwy de o sbeis cymysg

100g Siwgr muscovado brown tywyll

1 Ŵy, wedi'i guro

Mêl

Dull

Gweini: 8-10 sleisen | Amser paratoi: 15 munud | Amser coginio: 1 awr

1.   Rhowch y ffrwythau sych mewn powlen a thywallt y te dros y ffrwythau. Rhowch y siwgr i mewn a’i droi yn dda. Gadewch i socian am o leiaf 6 awr neu dros nos.

2.   Y diwrnod wedyn rhowch y blawd, y sbeis a’r ŵy yn y cymysgedd a throi (nid oes angen draenio’r te).

3.   Cynheswch y popty i 180 °C / Nwy 4. Leiniwch dun torth 900g gyda phapur pobi ac arllwys y gymysgedd i mewn.

4.    Pobwch am tua 1 awr nes mae'r gacen wedi codi ac wedi’i choginio drwyddi. Gadewch iddi oeri ar rac a storiwch am 2 ddiwrnod cyn ei bwyta. Gweinwch wedi'i sleisio â menyn.

5.   Gellir dyblu'r cymysgedd i wneud 2 dorth a bydd yn cadw am hyd at 7 diwrnod.

6.   Cynheswch ychydig o fêl i dywallt ar ben y gacen gynnes os hoffwch.

Torth o fara brith gyda sleisen wedi ei thorri a menyn arni.

Bara Brith

Straeon cysylltiedig