Pryd wedi'i wneud â chaws Cymreig, mwstard a chwrw lleol. Roedd y pryd yn cael ei galw’n ‘caws wedi’i rostio’ yn y canol oesoedd a 'caws pobi' yn ddiweddarach. Mae’n defnyddio caws wedi’i gratio wedi’i gymysgu â llefrith neu gwrw a mwstard i’w roi ar dost neu datws trwy’u crwyn.
Cynhwysion
225g Caws Cymreig Aeddfed
25g Menyn, wedi'i doddi
1 Llwy fwrdd o Worcestershire Sauce
1 Llwy fwrdd o fwstard
1 Llwy fwrdd o flawd plaen
Pupur du wedi'i falu
4 Llwy fwrdd o gwrw Cymreig
1 Llond llwy fwrdd o fara lawr
4 Tafell o fara trwchus
Dull
Gweini: 4 | Amser paratoi: 10 munud | Amser coginio: 10 munud
1. Gratiwch y caws a'i roi mewn sosban hefo’r menyn, Worcestershire Sauce, mwstard, blawd a phupur. Cymysgwch yn dda dros wres ysgafn. Ychwanegwch y cwrw yn raddol ond peidiwch a gwneud y gymysgedd yn rhy wlyb. Trowch nes ei fod wedi toddi a phan fydd wedi troi’n bast trwchus tynnwch o'r gwres a'i adael i oeri ychydig.
2. Yn y cyfamser tostiwch y bara ar un ochr yn unig ac yna taenwch y bara lawr dros yr ochr wedi'i dostio cyn rhoi’r cymysgedd caws ar ei ben. Griliwch yn ysgafn nes ei fod wedi'i goginio drwyddo a'i frownio'n dda.
3. Gellir gwneud y cymysgedd o flaen llawn a'i gadw yn yr oergell am sawl diwrnod os oes angen.