Cawl neu Lobsgows? Beth bynnag rydych yn ei alw, mae pawb yn cytuno ei fod yn well y diwrnod ar ôl ei baratoi pan fydd yr holl flas wedi datblygu. Mae yna lawer o ryseitiau teuluol ac mae’r ryseitiau yn amrywio o dref i dref ledled Cymru. Mae'n cael ei weini yn aml gyda thalp o fara cartref a chaws Cymreig. Mwynhewch!
Cynhwysion
1 kg Cig Oen Cymreig (gwddf neu ysgwydd), Cig Eidion Cymreig neu Ham
1 Nionyn - wedi'i dorri'n fras
6 Taten - wedi'u plicio a'u torri
3 Moron - wedi'u plicio a'u torri
1 Swejen fach neu 2 pannas - wedi'u plicio a'u torri
2 Cenhinen - wedi'u golchi a'u sleisio
Persli ffres
Stoc llysiau
Halen a phupur
Dull
Gweini: 6 (fel prif gwrs) | Amser Paratoi: 20 munud | Amser Coginio: 3 awr
1. Rhowch y cig mewn sosban fawr, ei orchuddio â dŵr a'i ferwi dros wres isel am 2-3 awr. Gadewch dros nos i oeri yna y diwrnod canlynol sgimiwch unrhyw fraster sydd wedi codi i'r wyneb.
2. Torrwch y cig oddi ar yr asgwrn ac yna ychwanegwch y tatws, y moron, y swejen neu'r pannas a'u berwi nes eu bod wedi'u coginio. Ychwanegwch fwy o stoc llysiau os oes angen ar y pwynt hwn. Ychwanegwch halen a phupur.
3. Yn olaf, ychwanegwch y cennin wedi'u rhwygo ac ychydig cyn gweini taflwch y persli wedi'i dorri'n fras i mewn. Gallwch dewhau'r cawl os oes angen gyda phast wedi'i wneud â blawd a dŵr neu flawd ceirch mân.
Nodyn: Mae'n well defnyddio darn rhatach o gig ar yr asgwrn i sicrhau blas. Gallwch hefyd weini'r cig ar wahân i'r cawl llysiau.