6ed Gŵyl lwyddiannus i Ŵyl rhif 6 allowfullscreen> Gwelwyd miloedd yn heidio i Bortmeirion ar ddechrau’r mis ar gyfer y 6ed Gŵyl Rhif 6. Roedd cerddoriaeth hynod o amrywiol yno gyda bandiau roc, indie, pop, hip-hop a cherddoriaeth electronig. Ond roedd mwy na cherddoriaeth yno i ddiddanu cynulleidfaoedd - cafwyd sgyrsiau, barddoniaeth, comedi, celfyddyd perfformio a nifer helaeth o fwyd a diod gourmet ar gael i'w flasu. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal yn flynyddol ym mhentref hardd Portmeirion, sydd wrth gwrs yn enwog am ei bensaernïaeth arddull Eidalaidd. Daw enw’r ŵyl o brif gymeriad y sioe deledu cwlt ,'The Prisoner’ a ffilmiwyd yn y pentref yn y 1960au. Hoffi hwn? Rhannwch gyda ffrindiau Eitemau Cysylltiedig Gŵyl Rhif 6 Gwelwyd miloedd yn heidio i Bortmeirion ar ddechrau’r mis ar gyfer y 6ed Gŵyl Rhif 6. Cleddyf Chwedlonol Yn ymweld â lleoliadau allweddol yng Nghymru dros yr Haf. Eisteddfod Sir Fôn 2017 Rhywbeth at ddant pawb! Prydferthwch natur Rhwng y gwylltiroedd eang a'r pentrefi hanesyddol mae Eryri'n lle delfrydol i ddod ar antur. Olympia yn Eryri Mae’r gwrw beicio Dave Brailsford MBE mor frwdfrydig ag erioed am ei hen gynefin yn Eryri. Cestyll Edward y Cyntaf Dewch i weld y cestyll a'r trefi caerog a gododd Edward y Cyntaf yn y Gogledd yn y 13eg ganrif