Nadolig ym Mae Abertawe

15 Tachwedd 2024 - 04 Ionawr 2025. Mae Gwledd y Gaeaf ar y Glannau Abertawe yn dychwelyd i Barc yr Amgueddfa, gyda Phentref Alpaidd estynedig. Mae llu o atyniadau ac amrywiaeth o fwyd a diod Nadoligaidd. Mae sesiynau hygyrch i sglefrio ar gael yn ystod yr awr gyntaf o sesiynau sglefrio bob dydd Mawrth. 

merch yn sglefrio yn dal cymorth sglefrio pengwiniaid.
Olwyn fawr a golwg gwledd y gaeaf o'r awyr.
sglefrwyr ar rinc sglefrio dan do gyda goleuadau.

 Gwledd Gaeaf ar y Glannau Abertawe

Marchnad Nadolig Caerdydd

14 Tachwedd 2024 - 23 Rhagfyr 2024. Mae Marchnad Nadolig Caerdydd ar Stryd Sant Ioan, Stryd y Gwaith, yr Aes, Stryd y Bryniau a Stryd y Drindod. Mae'n cynnwys cymysgedd cyffrous ac eclectig o arddangoswyr sy'n creu cynnyrch gwreiddiol wedi'i wneud â llaw. 

Darllen mwy: Pethau i’w gwneud yng Nghaerdydd dros y Nadolig

Stondinau marchnad Nadolig yn y nos ac eglwys yn y cefndir.

Marchnad Nadolig Caerdydd

Sioeau Nadolig i'r teulu 

Tachwedd - Rhagfyr 2024. Ymhlith sioeau’r Nadolig yn Theatr y Sherman, a’r rheini’n dechrau yn gynnar ym mis Tachwedd, mae’r sioe deuluol wych A Christmas Carol. I blant bach, ewch i weld Yr Hugan Fach Goch (yn Gymraeg) a Little Red Riding Hood (yn Saesneg).

Yn y Theatr Newydd, bydd tymor y Nadolig yn dechrau ar 13 Tachwedd gyda So This Is Christmas – sioe a fydd yn orlawn o ganeuon yr ŵyl a honno’n addo noson hwyliog tu hwnt i chi. Y clasur Cinderella fydd pantomeim 2024, a hwnnw i’w weld rhwng 7 Rhagfyr 2024 a 5 Ionawr 2025. Ewch â’r holl deulu i gael profiad gwefreiddiol ac i chwerthin lond eich boliau yng nghwmni’r sêr Gethin Jones, Owain Wyn Evans, Mike Doyle, Denquar Chupak a Stephanie Webber.

Ymunwch â Cyw a'i ffrindiau mewn sioe Nadolig llawn hwyl a hud yn Theatr Derek Williams, Y Bala, Galeri, Caernarfon, Neuadd William Aston, Wrecsam, Neuadd y Gwendraeth, Ysgol Bro Teifi, Llandysul, a Theatr y Gate, Caerdydd. 

Ffair Fwyd a Chrefftau Portmeirion

06 - 08 Rhagfyr 2024. Mae Ffair Fwyd a Chrefft Nadolig Portmeirion yn gyfle i flasu a phrynu bwyd a diod leol a phrynu anrhegion Nadolig i ffrindiau a theulu. Yn ogystal â chynnyrch a chrefftau lleol, mae rhaglen lawn o adloniant at ddant pawb.

Nadolig yn Amgueddfa Cymru 

Trwy mis Rhagfyr 2024. Mwynhewch hwyl yr ŵyl yn Amgueddfa Cymru. Dewch i gwrdd â Siôn Corn a’i ffrindiau a chanu carolau yn Sain Ffagan Amgueddfa Werin Cymru, mwynhau Marchnad Nadolig Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, creu crefftau Nadoligaidd yn Amgueddfa Wlan Cymru, a llawer mwy!

Nofio ar Ŵyl San Steffan, Dinbych-y-Pysgod

26 Rhagfyr 2024. Eisiau ffordd newydd o gael gwared o gorfoledd y Nadolig? Beth am gymryd rhan yn y digwyddiad elusennol hwn? Mae bron i 600 o bobl yn rhedeg i'r môr ar draeth y Gogledd yn eu gwisg ffansi ar Ŵyl San Steffan. Wrth gwrs, gallwch ddewis gwylio o'r lan gyda phaned ac aros yn gynnes a sych. Mwy o wybodaeth am Nofio ar y Ŵyl San Steffan, Dinbych-y-Pysgod.

Darllen mwy: Nofio Nadoligaidd yng Nghymru

Nofwyr yn neidio mewn gwisgoedd Siôn Corn.

Nofwyr Gŵyl San Steffan mewn gwisg Nadoligaidd, Dinbych-y-Pysgod

Rasys Nos Galan

31 Rhagfyr 2024. Dathlwch Guto Nyth Brân (Griffith Morgan) ar Nos Galan yn Aberpennar yng Nghymoedd De Cymru gyda Rasys Nos Galan. Ceir nifer o hanesion am Guto, gan gynnwys un y gallai redeg mor gyflym ag aderyn yn hedfan. Bob blwyddyn mae personoliaeth chwaraeon enwog yn cymryd rhan, felly dewch draw i ddarganfod pwy yw nhw eleni! Croeso i chi wisgo gwisg ffansi yn y Ras Hwyl 5 cilomedr. Mwy o wybodaeth am y Rasys Nos Galan

Llun nos o dri dyn wrth fedd gyda phlethdorch a torch fflam.
dau ddyn yn rhedeg mewn digwyddiad rhedeg.
cerflun o ddyn yn rhedeg gyda llinynnau amryliw o oleuadau yn y cefndir.

Rasys Rhedeg Nos Galan

Mwy o ddigwyddiadau ym mis Rhagfyr

21 Tachwedd - 31 Rhagfyr 2024. Llwybr Goleuadau Luminate Wales, Parc Margam. Taith hudolus trwy gerddi a chastell Parc Gwledig Margam. Dilynwch llwybr milltir o hyd Luminate Wales, gyda gosodiadau golau syfrdanol ac elfennau rhyngweithiol gwych i'r plant. 

22 Tachwedd - 24 Rhagfyr 2024. Mae gan Reindeer Lodge, Yr Wyddgrug, profiad saffari ceirw, groto Siôn Corn a sioe theatr, pentref corachod cudd a gweithdy tegannau.

01 Rhagfyr 2024. Santa Dash Caerdydd.

29 Tachwedd - 17 Rhagfyr 2024. Taith Dolig Cracyrs Cabarela

Rhagfyr. Gig Nadolig Bwncath yn Neuadd Ogwen a Gig Nadolig Mared a Malan yn Llofft, Y Felinheli

Straeon cysylltiedig