Os ydych chi’n dipyn o anturiwr adrenalin, yn chwilio am brofiadau newydd, yn mwynhau ymarfer corff, neu’n berson gyda gormodedd o egni sydd angen ei losgi, mae Caerdydd yn le gwych i gael eich ffics ffitrwydd. Byddwch yn siŵr o chwysu chwartiau os byddwch yn dewis rhai o’n hawgrymiadau.
Ble i: sglefrfyrddio
Mae’r parc sglefrfyrddio hwn dan do yn anferth - oddeutu 7,000 troedfedd sgwâr. Mae’n addas ar gyfer pob oed a gallu, gydag opsiynau i sglefrfyrddio’n rhydd, ymuno â dosbarthiadau, derbyn hyfforddiant, llogi offer a chwrdd â phobl newydd. Yn ogystal â’r llethrau, blociau, talcenni, cicwyr symudol a bariau, mae ramp fertigol 11 troedfedd y tu allan ar gyfer sglefrfyrddwyr profiadol (a dewr!).
Mae croeso yma i unrhyw un gydag olwynion sy’n hoffi chwaraeon eithafol, gan gynnwys sgwteri, sglefrolwyr, sglefrfyrddau, beiciau BMX a chadeiriau olwyn eithafol. Mae RampWorld yn lle cyfeillgar lle gallwch ymarfer unrhyw beth o’r sgiliau sylfaenol i’r fflips, triciau cydio a llifanu. Mae ardal siâp powlen, meingefn, rampiau bychain, adrannau stryd a hanner peip. Mae’r pwll sbwng a’r ramp Resi yn gwneud yn siŵr eich bod yn glanio heb wneud niwed i chi eich hun pan fyddwch yn ceisio dysgu sgil newydd.
Ble i: Ddringo
Canolfan Ddringo Dan Do Boulders
Mae Boulders yn lleoliad gwych os ydych chi am gael hwyl a bod yn actif ar eich pen eich hun, gyda ffrindiau neu fel teulu - ac mae'n addas ar gyfer pob oed. Nid oes angen profiad o gwbl arnoch i roi cynnig arni, byddwch yn dringo wal o dan gyfarwyddyd gwych yr hyfforddwyr profiadol mewn chwinciad. Mae’r waliau yn amrywio mewn uchder o 4-12m ac mae offer yn cael ei ddarparu ar eich cyfer.
Ble i: Sglefrio Iâ
Canolfan Iâ Cymru Ice Arena Wales
Dyma gartref tîm hoci iâ enwog y Cardiff Devils. Mae Canolfan Iâ Cymru yn arena bwrpasol gyda dau lawr sglefrio. Mae sesiynau sglefrio iâ ar gael i’r cyhoedd yn ddyddiol, cyrsiau ar gyfer pob gallu, yn ogystal â sesiynau ymarfer sglefrio ffigur. Gallwch ddefnyddio eich esgidiau sglefrio eich hun, neu mae’n bosib llogi pâr yn yr arena.


Ble i: Reidio ar ddŵr
Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd
Dyma’r adnodd dŵr gwyn o safon Olympaidd bwrpasol cyntaf yn y DU, ac mae wedi’i leoli ym Mhentref Chwaraeon Rhyngwladol Caerdydd. Ar safle Canolfan Dŵr Gwyn Rhyngwladol Caerdydd, gallwch gymryd rhan mewn ystod o weithgareddau dŵr yn cynnwys canŵio, caiacio, rafftio dŵr gwyn, tiwbio, padlfyrddio ar eich traed a syrffio tonnau dan do. Mae hwyluswyr wedi’u hyfforddi ar gael i’ch arwain ar eich antur, ond os ydych eisoes yn brofiadol, gallwch wneud unrhyw beth yn eich amser eich hun.


Ble i: Sŵmio mewn go-cartiau
Ydych chi’n hoff o rasio mewn go-cartiau? Bydd eich calon a’ch corff yn llythrennol yn curo wrth i chi rasio yn Teamsport Cardiff, adeilad pwrpasol ar gyfer go-cartio sydd wedi’i leoli ger Heol Casnewydd. Mae’r trac aml lefel hwn yn 500 metr o hyd, gyda’r lonydd syth yn eich caniatáu i godi cyflymder, troadau llym a llydan a digonedd o gyfleoedd i chi wibio heibio'ch ffrindiau. Mae’r go-cartiau 200cc yn medru cyrraedd cyflymder cyfartalog o 40mya, gyda phob lap yn cymryd tua 40 eiliad i’w chwblhau.
Ble i: Redeg a Cherdded
Caerdydd yw’r ddinas ddelfrydol ar gyfer y rhai sy’n hoffi rhedeg neu gerdded. Mae’r gymysgedd o ardaloedd trefol, ardaloedd gwyrdd a llwybrau dynodedig yn golygu fod rhywbeth at ddant pawb. Mae'r Llwybr Taf yn ymestyn o Fae Caerdydd yr holl ffordd i Aberhonddu, gyda dros 50 milltir o lwybrau. Gallwch ei fwynhau mewn adrannau o faint sydd yn addas i chi.
Neu beth am fentro ar hyd Llwybr Arfordir Cymru: cychwynnwch o Warchodfa Natur y Gwlypdiroedd ym Mae Caerdydd, cylchdroi o amgylch Yr Eglwys Norwyeg lle cafodd Roald Dahl e fedyddio, yna croesi’r morglawdd i gyrraedd tref glan môr Penarth.
Os ydych chi’n chwilio am barciau, yna mae Parc Bute, tu ôl i Gastell Caerdydd, yn lle hyfryd i grwydro. Mae Parc y Rhath yn boblogaidd gyda rhedwyr oherwydd bod cylchdaith wastad 5km o hyd o amgylch gerddi rhosod hardd, llyn cychod mawr a’r goleudy adnabyddus. Mae’r daith ar hyd y palmentydd wedi’u goleuo’n dda sy’n ei gwneud yn daith addas ar unrhyw adeg o’r flwyddyn neu gyda’r nos.
Mae hefyd nifer o sesiynau ParkRun yn cael eu trefnu ar draws parciau Caerdydd, gyda llwybrau ym Mharc Bute, Parc Trelái, Grangemoor a Thremorfa. Ewch i wefan ParkRun am fwy o wybodaeth.


Rhagor o syniadau
- Yn sir gyfagos Bro Morgannwg, mae traethau hardd, clogwyni, a thwyni a digonedd o lefydd agored i gerdded, gan gynnwys Arfordir Treftadaeth Morgannwg. Dyma flas ar draethau, siopau a bwytai annibynnol Bro Morgannwg gydag Annes Elwy.
- Ar wibdaith yng Nghaerdydd neu'n newydd i'r brifddinas? Dyma ganllaw i grwydro Caerdydd mewn 24 awr.
- Chwilio am bethau i’w gwneud â chŵn ym mhrifddinas Cymru? Dyma ganllaw o atyniadau sy’n gyfeillgar i gŵn.