Mae Blaenau Gwent wedi’i leoli ar gyrion y Bannau Brycheiniog lle mae ffordd Blaenau’r Cymoedd yn ffurfio bwa ar draws De Cymru. Gan ei fod ar gyrion ochr ogleddol De Cymru a’i diwydiant, mae yno hanes cyfoethog o gloddio a chynhyrchu haearn a dur. Mae llawer o henebion ac amgueddfeydd yno i ddenu ymwelwyr chwilfrydig sydd am ddysgu mwy am orffennol diddorol yr ardal hon.
Y prif drefi yw Abertyleri, Brynmawr, Glynebwy a Thredegar, a rhyngddynt, mae digonedd o fannau gwyrdd lle gall ymwelwyr grwydro, heicio a seiclo.
Hanes a diwylliant lleol
Bu’r dirwedd hon unwaith yn chwarae rhan flaenllaw yn niwydiant Cymru. Er bod gwaelod y dyffryn yn llawn olwynion pyllau glo, mae mwynlongau haearn a chwareli calchfaen i’w gweld ymhellach i fyny’r dyffryn. Mae’r gweddillion diwydiannol hyn, sydd bellach wedi’u meddalu, wedi’u plethu gyda thir claddu Celtaidd sy’n mynd yn ôl i gyfnod llawer cynharach.
Gall Blaenau Gwent hawlio mai nhw yw cartref y GIG gan i Aneurin Bevan gael ei eni yn Nhredegar. Ef oedd AS Glyn Ebwy a seiliodd ein gwasanaeth iechyd gwerthfawr ar Gymdeithas Cymorth Feddygol Tredegar. Yn lleol mae yna lwybrau sy'n archwilio ei gyrchfannau lleol ac ar hyd ochrau'r mynyddoedd lle bu'n ymarfer ei areithiau. Yn Nhŷ a Pharc Bedwellty mae ffilm amdano ac arddangosfeydd celf llawn balchder, ac yn Number 10 The Circle mae canolfan dreftadaeth newydd yn adrodd hanes sut roddodd stamp Tredegar ar y DU.
Ym Mharc Arael Griffin mae'r Gwarcheidwad, cerflun 20m o uchder i goffau 50 mlynedd ers trychineb cloddio Six Bells yn 1960 pan fu farw 45 o ddynion. Mae eu henwau ar blaciau ar waelod y cerflun. Os hoffech chi ddysgu mwy am y cerflun mae gan y ganolfan dreftadaeth gyfagos yn Nhŷ Ebwy Fach ragor o wybodaeth.
Etifeddiaeth dur a haearn
Roedd cynhyrchu haearn a dur wedi dod â chyfoeth mawr i ddiwydiant De Cymru hyd at y 19eg Ganrif. Mae modd gweld yr etifeddiaeth hyn hyd heddiw yn Nhŷ a Pharc Bedwellty - tŷ crand a gerddi a oedd yn arfer bod yn gartref i reolwyr gwaith haearn Tredegar. Mae’r parc hefyd yn cynnwys y bloc mwyaf o lo yn y byd, wedi’i naddu gan ‘Collier Mawr’ ar gyfer Arddangosfa Fawr 1851.
Tyrau Crwn Nant-y-glo oedd y castell preifat olaf yn y DU a adeiladwyd yn 1816 gan benaethiaid Gwaith Haearn Nant-y-glo. Pwrpas y castell oedd i symboleiddio cryfder, ac amddiffyn rhag y bygythiad posibl o weithwyr yn codi terfysg. Gellir gweld y tyrau o'r tu allan.
Gellir gweld olion diwydiannol pellach yng Ngwaith Haearn Sirhowi a sefydlwyd yn 1778, a oedd erbyn diwedd ei gyfnod yn rhoi golosg i waith haearn Glynebwy. Heddiw, mae’n heneb gofrestredig sy’n cynnwys olion unigryw ffwrnais haearn sydd o bwysigrwydd hanesyddol mawr.
Mae sawl amgueddfa ragorol yno sy’n dod â straeon yr ardal yn fyw, gan gynnwys Amgueddfa Brynmawr a’r Cylch, Amgueddfa Gweithfeydd Glynebwy, Amgueddfa Abertyleri, Amgueddfa Hanes Leol Tredegar a Grŵp Gweithredu Amgueddfa Treftadaeth Blaina.
Cerdded, seiclo a chrwydro
Mae Blaenau Gwent yn llawn llwybrau tawel sy’n arwain cerddwyr ar hyd goetiroedd a dyffrynnoedd cysgodol, ar draws bryniau anghysbell ac o gwmpas llynnoedd gloyw sy’n ei wneud yn lle gwych i ymdrochi ym myd natur. Mae llwybr Ebwy Fach yn llwybr hyfryd 16km sy’n arwain cerddwyr drwy 14 o barciau natur, mannau gwyrdd a safleoedd o bwysigrwydd hanesyddol o amgylch Blaenau Gwent. Mae'r rhain yn cynnwys Parc yr Ŵyl Glynebwy, Beaufort Hill Ponds a Choetiroedd a Llynnoedd Cwmtyleri. Mynydd Coety yw pwynt uchaf y rhanbarth sy’n mesur 1,896 troedfedd (578 m).
Mae Mynwent Cefn Golau Colera sydd wedi’i lleoli ar ochr mynydd i’r gorllewin o Dredegar yn olygfa ingol sy’n rhoi cyfle i chi fyfyrio wrth i chi fynd am dro. Yma, mae dros 200 o hen gerrig beddi, ac mae pob un ohonynt yn dyst i’r bywydau a gollwyd yn ystod epidemig colera yn 1832 ac yn 1849.
Mae Gwarchodfa Natur Dyffryn Distaw, ger Glynebwy, yn hen dirwedd ddiwydiannol arall sydd bellach yn rhan o fyd natur. Yma, mae llwybrau’n arwain drwy goetiroedd a dolydd blodau ac mae modd gweld arddangosfa hardd o glychau’r gog yno yn y gwanwyn. Mae Parc Bryn Bach yn llawn gweithgareddau sy’n addas i’r teulu, gan gynnwys Ceirt Modur llawn cyffro, llwybrau bywyd gwyllt tawel a gweithgareddau dŵr ar y llyn.
Mae yna ambell opsiwn ar gyfer hwyl i'r teulu dan do hefyd. Mae EGNI yn ganolfan gweithgareddau dan do sy'n caniatáu i blant (wedi'u hanelu at blant 5-12 oed) sianelu eu Ninja mewnol - gyda chyrsiau rhwystr, sesiynau NERF a Laser Tag ar gael. Gerllaw mae The Little Role Play Town, lle gall plant ddefnyddio eu dychymyg i fod yn ofodwyr, milfeddygon, gweithio mewn siop trin gwallt neu helpu'r gwasanaethau brys! Mae gan y ddwy ganolfan gaffi, lle gall oedolion blinedig fachu paned wrth wylio'r plant yn rhedeg o gwmpas.
Ble i aros ym Mlaenau Gwent
Does dim curo gwesty pedair seren hanesyddol Tredegar Arms os ydych am aros yng nghanol un o drefi mwyaf diddorol Blaenau Gwent. Cafodd y gwesty ei adnewyddu yn 2019, ac mae deg ystafell wely moethus, dau far a bwyty yno.
Neu, gallwch ddewis y Cambrian Inn ar sgwâr y dref sydd wedi bod yn croesawu teithwyr blinedig ac yn torri syched cwsmeriaid ers dros 200 o flynyddoedd. Mae gan y Premier Inn yng Nglynebwy ystafelloedd glân a chyfforddus; y safon y byddech yn eu disgwyl gan y cwmni adnabyddus hwn.
Bwyta ac yfed ym Mlaenau Gwent
I gael pryd o fwyd mewn tafarn glyd, ewch i’r Castle Inn yng Nglynebwy, y Top House yn Nhrefil neu’r Mountain Air yn Nhredegar. Os oes awydd cyri arnoch chi, bydd y Tamarind yn eich plesio i’r dim.
Mae te prynhawn Bedwellty House & Park yn Nhredegar yn hyfryd, ac maen nhw’n gweini cinio dydd Sul ardderchog hefyd. Morgans Wine Bar yng Nglynebwy yw’r lle perffaith i fynd am goctels dros y penwythnos ac maen nhw’n gweini prydau bwyd blasus mewn amgylchedd fywiog.