Mae Bwrdeistref Sirol Caerffili yn sir hir a chul siâp deigryn sy’n ymestyn o'r Bannau Brycheiniog yn y gogledd i faestrefi Caerdydd yn y de. Mae tref Caerffili wedi’i lleoli ar ymyl de-ddwyreiniol y sir, gyda threfi eraill wedi’i lleoli o gwmpas yr Afon Rhymni yn cynnwys Ystrad Mynach, Y Coed Duon, Tredegar Newydd a Bedwas.
Mae’r afon yn llifo drwy ganol y sir, a’r gofod gwyrdd sy’n nodwedd o’r dirwedd yn cynnig golygfeydd godidog a digon o resymau i dreulio amser yn yr awyr agored.
Pethau i'w gwneud yn nhref Caerffili
Mynydd Caerffili
I’r de o dref Caerffili mae godre mynydd Caerffili, ac os ydych yn cerdded i’w gopa, cewch eich gwobrwyo gan olygfeydd sy’n edrych lawr at dros ddinas Caerdydd a’i dociau, Ynysoedd Echni a Rhonech yn aber afon Hafren, Penarth a Lloegr tu hwnt iddyn nhw. Mae bar byrbrydau Mynydd Caerffili yn cynnig amrywiaeth o fwydydd i’ch cynnal wrth i chi grwydro'r llwybrau niferus sy’n ymdroelli o goetir hynafol.
Grym Canoloesol
Yng nghanol y dref, mae Castell Caerffili. Cychwynnwyd adeiladu’r castell yn 1268, a thrwy gydol yr 20fed Ganrif bu gwaith adfer manwl, felly mae’n enghraifft wych o bensaernïaeth filwrol o'r drydedd ganrif ar ddeg. Mae’r replicâu pren enfawr o beiriannau gwarchae a dyfrffosydd cywrain yn ddigon i godi ofn a rhoi teimlad o sut beth oedd bod yn rhan o’r torfeydd canoloesol, wrth i Dywysog Cymru, Llywelyn ap Gruffydd ac Arglwydd y Mers Gilbert de Clare ymladd uwch eu pennau.
Mae Tŵr Cam Cymru - sy’n gwyro mwy na thŵr Pisa hyd yn oed - yn nodwedd hoffus iawn o'r castell - er nad oes sicrwydd os mai ymsuddiant naturiol neu bowdwr gwn y Rhyfel Cartref oedd yn gyfrifol am y gwyriad.
Mae’r castell yn cynnal digwyddiadau arbennig gydol y flwyddyn, sy’n cynnwys crefftau, teithiau a gweithdai felly edrychwch ar restr ‘Be’ sy’n ymlaen’ ar wefan Cadw ar gyfer dyddiadau digwyddiadau.
Gŵyl Caws Mawr Caerffili
Mae Gŵyl Caws Mawr Caerffili wedi bod yn cael ei chynnal ers dros ugain mlynedd, ac mae’n ddathliad o ddiwylliant, treftadaeth, hanes.... a chaws wrth gwrs! Fel arfer mae marchnad gaws pwrpasol wedi’i leoli y tu fewn i wersyll canoloesol lliwgar o fewn muriau’r castell canoloesol. Mae yna stondinau crefft ar ochr y ddyfrffordd, ac ail greadau o wahanol frwydrau i ddiddori’r ymwelwyr. A beth well na cherddoriaeth, dawnswyr, corau, ffair a thân gwyllt i greu awyrgylch gyffrous sy’n denu miloedd o bobl o bob cwr.
Bydd Gŵyl 2022 ychydig yn llai gan fod tir y castell ar gau oherwydd gwaith datblygu. Bydd Gŵyl y Caws Bach felly yn cael ei chynnal ar 3 a 4 Medi yng nghanol y dref, gyda cherddoriaeth, ffair, stondinau bwyd a gweithdai crefft a cherddoriaeth.
Ewch i grwydro
Mae Marchnad Grefft a bwyd Llys y Castell yn cael ei gynnal unwaith y mis yng Nghanolfan Siopa Cwrt y Castell yn ymyl y castell. Mae’r farchnad yn gwerthu cynnyrch o’r sir gan amlaf - dyma'r lle gorau i chi gael blasu’r caws gwyn briwsionllyd.
Cofiwch alw heibio Canolfan Ymwelwyr Caerffili ac yno cewch olygfeydd godidog o’r castell o’r teras, cyngor ar eich ymweliad, gweld yr anrhegion sydd ar werth yn y siop, a thamaid o gacen yn Coffi Vista. Ar y llawr gwaelod, mae Y Galeri, siop sy’n gwerthu gwaith celf a darluniau gan artistiaid lleol.
Yn ystod tymor yr haf, gallwch fynd â’r plant i Barc Morgan Jones yn nhref Caerffili, lle mae pwll sblasio llawn jetiau dŵr. Agorodd y parc hwn yn yr 1930au, ac mae wedi ennill gwobr Baner Werdd fel maes hamdden; heddiw mae iddo ddol o flodau gwyllt, parc sglefr fyrddio, campfa awyr agored, lawnt bowlio, caffi menter gymdeithasol a mwy.
Pethau i'w gwneud yn Sir Caerffili
Mae hanes hir i Sefydliad y Glowyr Coed Duon sydd yng nghanol y fwrdeistref. Cychwynnodd fel neuadd ar gyfer chwarae snwcer, gyda’r arian i dalu amdano yn dod allan o gyflogau’r glowyr, yna fe'i defnyddiwyd ar gyfer perfformiadau, dawnsfeydd amser te a chyfarfodydd undeb. Erbyn heddiw, mae’n ganolfan gelfyddydau poblogaidd lle mae posib gwrando ar gerddoriaeth, comedi, celf a theatr yn yr adeilad rhestredig.
Am gipolwg ar fywyd glofaol, mae’n werth ymweld ag Amgueddfa Dreftadaeth Cwm Aber yn hen dref lofaol Senghennydd. Mae'r amgueddfa a'r ardd goffa gerllaw yn cael eu rhedeg gan grŵp lleol o wirfoddolwyr sy'n awyddus i anrhydeddu hanes glofaol y rhanbarth, ac adrodd hanesion y ddau ffrwydrad pwll glo ofnadwy yng Nglofa'r Universal a laddodd gannoedd o ddynion a bechgyn, a dwsinau o ferlod pwll hefyd. Mae ymweld â'r ardd goffa yn brofiad dwys a dirdynnol.
Mae'r Tŷ Weindio yn Nhredegar Newydd yn amgueddfa sirol ddifyr, lle ceir arddangosfeydd celfyddydol yn ymweld yn ogystal ag arddangosfeydd parhaol sy’n adrodd hanes y Cymoedd drwy fywydau pobl gyffredin. Fel gyda chymaint o atyniadau Caerffili, mae'r Tŷ Weindio wedi’i leoli ar hen bwll glo, ac yn gartref i'r injan weindio Fictoraidd sy'n dal i weithio ac a fu unwaith yn dod â chewyll y glowyr i fyny ac i lawr o’r pwll.
Am le cofiadwy i aros, mae Under the Oak yn cynnig glampio o’r radd flaenaf, o bebyll saffari a chabanau, gyda thybiau poeth wedi’u tanio â phren, pyllau tân i goginio drostyn nhw, a cheginau mwd i’r plant!
Traciau a llwybrau
Mae bwrdeistref Caerffili yng nghanol gwyrddni mawr Parc Rhanbarthol y Cymoedd, cymdeithas o fannau gwyrddion sy’n ymestyn o ffiniau Lloegr i Gaerfyrddin. Cyfraniad Caerffili yw Coedwig Cwmcarn, Parc Penallta a Chastell Caerffili ei hun.
Roedd llawer o'r ardaloedd yn cael eu cloddio’n drwm, neu’n ganolfannau gweithgynhyrchu, a mae 'r ymdrech i newid y dirwedd i rywbeth newydd ac iach ar gyfer cyfnod newydd o ymwelwyr a thrigolion wedi bod yn sylweddol - er enghraifft, maen nhw wedi bod yn plannu coed yng Nghwmcarn ers 1922!
Coedwig Cwmcarn
Mae Coedwig Cwmcarn ar y ffin â Chasnewydd yn wych ar gyfer beicwyr mynydd mentrus, gyda dau lwybr wedi’i graddio’n goch ‘anodd’ ac un yn ‘eithafol’, yn ogystal á gwasanaeth lifft i wneud y gorau ohonynt. Mae her i’r cerddwr hefyd, gyda theithiau cerdded, gan gynnwys yr un sydd 414 metr i gopa bryngaer Silwraidd Twmbarlwm gyda golygfeydd o fae Caerdydd i un cyfeiriad, a'r Bannau Brycheiniog i’r cyfeiriad arall.
Neu gallwch ddewis taith fwy hamddenol ar hyd Camlas Sir Fynwy ac Aberhonddu, Rhodfa’r Gog, neu lwybr cerdded ar lan yr afon at y llyn. Yno mae caffi a lle chwarae, a gallwch glampio mewn pods, cutiau neu faes gwersylla yng Nghoedwig Cwmcarn, a chwilio am y parth dweud stori a’r ardaloedd picnic ar hyd Rhodfa’r Goedwig.
Parc Penallta
Tra bod llawer o fannau gwyrdd y Cymoedd yn byllau glo neu safleoedd diwydiannol wedi eu hadfywio, cafodd Penallta ei gerfio o domen lo tua deng mlynedd ar hugain yn ôl. Un o’r nodweddion mwyaf hynaws yw Sultan, merlyn y pwll - cloddwaith 200m o hyd a 15m o uchder o geffyl llawn cymeriad yn neidio, sy’n talu gwrogaeth i ferlod pwll y gorffennol, gyda’r ffugenw yn dod gan y merlyn poblogaidd o Lofa Penallta. Gallwch gerdded drosto, eistedd yn ei glust, darganfod y dom yn ei lygaid, yna mynd i’r arsyllfa i gael gweld y cerflun yn ei holl ogoniant.
Mae parciau eraill y gallwch ymweld â nhw hefyd - beth am Barc Cwm Darran ar gyfer llwybrau beicio traws gwlad a dolydd blodau gwylltion? Neu Parc Coetir Bargoed i weld bywyd gwyllt a cherfluniau o amgylch glan yr afon? Mae’r ddau safle wedi eu hail-ddatblygu o lofeydd.
Mae Parc Gwledig Dyffryn Sirhywi yn cynnig taith gerdded hyfryd neu feicio ar hyd hen drac rheilffordd oedd yn cysylltu Tredegar gyda Dociau Casnewydd. Gallwch gerdded o amgylch coetiroedd a glannau afonydd, ac fe ddewch ar draws sawl strwythur treftadaeth, yn cynnwys Capel Babell, lle mae'r bardd, Islwyn, wedi ei gladdu, a Phont Dramffordd Penllwyn, sydd 50 troedfedd o uchder. Dilynwch y Llwybr Celtaidd taith rhif 47 y Rhwydwaith Beicio Cenedlaethol - a chewch eich hun ar Draphont syfrdanol Hengoed gyda’i 16 o fwâu.
Cerdded, marchogaeth a mwd!
Mae gwledd ar gyfer y cerddwyr gydag amrywiaeth o lwybrau hir yn y fwrdeistref. Taith gerdded 32 milltir ar hyd llawr y dyffryn yw Taith Gerdded Glanyrafon Rhymni, yr holl ffordd o flaenddyfroedd Rhymni ger gogledd y fwrdeistref, i Gaerdydd yn y de. Mae'r gylchdaith 28 milltir o hyd, cwm Rhymni, yn gwneud dolen ar hyd traciau cefnffordd a llwybrau coetir ar hyd pen basn Caerffili, gyda golygfeydd ardderchog drwyddi draw.
Mae Canolfan Marchogaeth Sunny Bank, ger Bedwas, yn ysgol farchogaeth ac arena 300-sedd lle gall ymwelwyr wylio cystadlaethau dressage, neidio a thraws gwlad.
Mae Llwybrau Van Road yn barc sy’n cynnwys sawl naid gyda thrac slalom ddeuol i bob oed a gallu ger tref Caerffili. Mae’n rhad ac am ddim i reidio.
Golff a Sba
Mae Bwrdeistref Caerffili yn darparu gwahanol gyrsiau golff gyda golygfeydd gwych.
Mae cyrchfan golff a sba pedair seren Bryn Meadows yn un o gyfrinachau gorau Caerffili (gyda phrisiau rhesymol hefyd). Dewch i fwynhau'r cwrs pencampwriaeth amrywiol 18 twll, y sba moethus, a chael te prynhawn gyda golygfa drawiadol ym mwyty Blas.
Mae gan Fynydd Caerffili gwrs golff 18 twll ei hun - mae Clwb Golff Caerffili yn dyddio’n ôl i 1905, a beth well na choncro’r cwrs ac edrych ar olygfeydd gwych o’r castell a’r dref yr un pryd.
Mae cwrs mynydd 18 twll ar gael yn Bargoed gyda’r meysydd yn fach a chyflym, a golygfeydd hardd o Ddyffryn Darren i Fannau Brycheiniog. Heb fod ymhell mae'r cwrs heriol Clwb Golff y Coed Duon a Chlwb Golff Oakdale sy’n dda i fagu hyder.
Profiadau unigryw
Dylai unrhyw un sy’n hoff o brofiad gwahanol fynd i Faenordy Llancaiach Fawr - amgueddfa fyw lle mae’r adeilad a’r holl staff wedi’u dal yn 1645, lle gewch eich tywys gan weision y Colonel Edward Pritchard. Mae teithiau i ddod o hyd i ysbrydion yn cael eu cynnal yn ystod y gaeaf, a cadwch lygad hefyd ar eu tudalen digwyddiadau am amrywiaeth o weithgareddau, o theatr i blant, i gabaret, o weithdai crefft i flasu bwyd o’r 17eg ganrif.
Am ragor o brofiadau para normal ewch i Morbitoriwm Pontywaun. Tŷ o’r 19eg ganrif ger y gamlas sydd yma, wedi’i lenwi â phob math o drugareddau o lên gwerin, dewiniaeth a meddyginiaethau cynnar. O sborion, i benglogau cerfiedig, hwyaden dau ben a byrddau Ouiji, mae llawer ohonyn nhw ar werth. Os ydych chi am ddysgu sgil anarferol, mae’r Morbitorium yn cynnig dosbarthiadau tacsidermi.
Ac os sylwch chi ar gofgolofn ger y castell sy'n ymddangos fel petai'n gwisgo fez, ie’n wir, cofeb i’r dyn doniol hoffus Tommy Cooper, un o feibion enwocaf Caerffili sydd yno.
Darllen mwy: Pethau i’w gweld a’u gwneud yng Nghymoedd De Cymru