Yng ngogledd-ddwyrain Sir Gâr, ar lan Afon Tywi, mae tref farchnad Llanymddyfri. Mae’n agos i Barc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog ac i harddwch syfrdanol Mynyddoedd Cambria. Gyda phoblogaeth o tua 2,700, mae’n fach o ran maint ond yn fawr ei hapêl. Mae’n un o drefi gwledig Sir Gâr sy’n denu nifer gynyddol o ymwelwyr, yn enwedig yn 2023, pan ddaeth gŵyl ieuenctid deithiol mwyaf Ewrop, Eisteddfod yr Urdd, i'r dref.
Porthmyn a Pherlysieuwyr
Tref y porthmyn yw Llanymddyfri. Roedd y dref yn fan cwrdd i’r porthmyn a’u gwartheg duon Cymreig cyn iddynt ddechrau ar eu taith hir i’r farchnad. Mae’n dal yn dref farchnad bwysig hyd heddiw, ac mae wedi ei throchi â hanes a threftadaeth y porthmyn. Mae’r cerflun o borthmon y tu ôl i fainc yn agos i Amgueddfa Llanymddyfri a Phorth yr Ymwelwyr, ac mae plac glas ar Stryd Garreg lle safai Banc yr Eidion Du, banc y porthmyn a sefydlwyd yn 1799 gan David Jones, a oedd yn cyhoeddi ei arian papur ei hun yn dangos arwyddlun yr ych du.
Cerflun arall arbennig yw’r cerflun dur o Llywelyn ap Gruffydd Fychan ar y bryn ger Castell Llanymddyfri. Dyma’r lle gorau i gael golygfa o’r dref gyfan (a chymryd hunlun fach!). Yn bum metr o uchder, saif y cerflun modern ochr yn ochr ag adfeilion y castell o’r 12fed ganrif. Fe’i dadorchuddiwyd yn 2001, bron i 600 mlynedd i’r diwrnod y cafoddi Llywelyn ei grogi ar sgwâr y dref gan Harri IV yn 1401, fel cosb am gefnogi Owain Glyndŵr.
Mae Llanymddyfri wedi ei hamgylchynu gan chwedlau lleol hefyd, fel y dihiryn chwedlonol Twm Siôn Cati a oedd yn crwydro Tregaron a’r ardal yn yr 16eg ganrif. Mae hefyd llu o hanes a hen straeon am feddygon Myddfai. Perlysieuwyr oedd y ffisigwyr o’r 12fed ganrif a ddatblygodd gasgliad o foddion meddygol yn y pentref gerllaw. Erbyn heddiw mae canolfan ymwelwyr a neuadd gymunedol Myddfai yn gwerthu cynnyrch harddwch a chanhwyllau ac mae caffi yn gweini cinio a chacennau cartref.
Blas o’r dref
Yn ôl y sôn, ar un adeg roedd gan y dref fwy o dafarndai y pen nag unman arall. Tybir bod mwy na 100 yn y dref i dorri syched y porthmyn yn ystod y 18fed ganrif. Mae llawer yn dal yno hyd heddiw, a diolch i gynnyrch lleol yr ardal amaethyddol gallwch fwynhau bwyd cartref gyda’r cwrw.
Mae Tafarn y Whitehall yn un o’r hynaf ac yn llawn cymeriad. Cewch groeso cynnes yn y dafarn hynafol, a seidr Gwynt y Ddraig ar dap! Mae gan westy’r Castell dân agored clyd yn y lolfa, ac mae’r bwyty yn cynnig bwydlen ffres a modern. Mae Cinio’r Porthmyn yn hynod flasus ac yn cynnwys terîn ham, caws Cymreig ac ŵy Albanaidd.
Bwyty llysieuol poblogaidd yng nghanol y dref yw The Bear, sy’n gweini bwydlen dymhorol ffres a phrydau figan a llysieuol gan gynnwys cawl, cyri a byrgyrs. Am fara a chacennau anhygoel ewch i La Patisserie, a’r lle gorau i brynu cig lleol yw siop gigydd Mathews.
Mae strydoedd Llanymddyfri yn llawn siopau bach diddorol. Mae hen safle un o weisg argraffu cyntaf Cymru, Gwasg y Tonn, yn gwerthu crefftau ac anrhegion hardd yn The Old Printing Office, tra mae’r hen offer printio i’w gweld yn Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan. Yn siop di-blastig y Weigh of Life mae nwyddau bob dydd ar gael i’w prynu fel bo angen, ac mae dewis da o gynnyrch Cymreig gan gynnwys hufen iâ Conti’s, coffi Coaltown a chasgliad o gwrw lleol.
Crwydro’r cyffiniau
Mae'r dref yn fan cyfarfod poblogaidd i bobl sy’n hoffi beicio, cerdded a mwynhau awyr dywyll yr ardal wledig.
Tua 10 milltir o’r dref ym Mannau Sir Gâr mae Llyn y Fan Fach. Mae’r llyn tua milltir bant o’r maes parcio, ac mae llwybr cerdded ato. Mae rhan gyntaf y daith yn addas i bawb ac mae llecyn picnic perffaith yno (wrth fwynhau’r picnic cofiwch adrodd chwedl llên gwerin Morwyn Llyn y Fan Fach). Mae’r daith gylchol heibio Llyn y Fan Fach a Llyn y Fan Fawr yn 13 cilometr ac nid yw’n addas ar gyfer teuluoedd na chadeiriau olwyn a phram.
Ar eich ffordd yn ôl i Lanymddyfri beth am alw yng ngorsaf Bwydo Barcudiaid Coch Llanddeusant? Mae'r safle’n denu dros 50 o farcutiaid a boncathod bob dydd ac mae cuddfan bwrpasol yn eich galluogi i fynd yn agos at yr adar.
Tua 10 milltir i’r cyfeiriad arall mae safle mwyngloddiau aur Dolaucothi. Y Rhufeiniaid gychwynodd chwilio am aur yma 2000 o flynyddoedd yn ôl, ond parhaodd y mwyngloddio hyd 1938. Mae teithiau tywys o’r safle yn rhoi profiad o’r amodau garw yn y gloddfa danddaearol. Cadwch lygaid mas am aur!
Mae gwledd o gestyll yn yr ardal. Mae adfeilion Castell Llanymddyfri yn y dref ac olion Castell Dryslwyn rhwng Llanymddyfri a Chaerfyrddin. Uwchlaw Afon Cennen mae safle eiconig Castell Carreg Cennen yn cynnig golygfeydd hyfryd o gefn gwlad Sir Gâr ac uwchlaw Dyffryn Tywi ger tref Llandeilo mae Castell Dinefwr.
Gwnewch yn siŵr eich bod yn galw yn nhref farchnad unigryw Llandeilo am baned neu bryd o fwyd tra’n y dalgylch. Mae strydoedd llawn bwytai a chaffis annibynnol a siopau bwtîc, ac mae’r tai Sioraidd lliwgar ger y bont yn wirioneddol hardd.
Mae’n hawdd treulio diwrnod cyfan yn crwydro’r 568 erw o flodau, planhigion a choetiroedd yng Ngardd Fotaneg Genedlaethol Cymru. Prif atyniad yr Ardd yw'r gromen wydr anhygoel, ac mae llwybr newydd y Gryffalo yn siŵr o gipio dychymyg y plant. Ar safle’r gerddi mae dros 20 o adar ysglyfaethus i’w gweld yng Nghanolfan Adar Ysglyfaethus Prydain gan gynnwys hebogiaid, barcud coch a bwncath. Gardd hardd arall yw’r ardd dreftadaeth yng nghalon Dyffryn Tywi, Aberglasney. Mae 10 erw o drysorau garddwriaethol gan gynnwys tair gardd furiog i’w darganfod yma, ynghyd â siop a chaffi’n gweni cacennau cartref a the prynhawn.
Am fwy o syniadau am ddyddiau mas yng nghyffiniau Llanymddyfri ewch i wefan Darganfod Sir Gâr.