Castell Cilgerran
Mae dau dŵr Castell Cilgerran yn awgrymu pwysigrwydd strategol Afon Teifi. Rheolwch yr afon, ac fe reolwch ei gallu mawr i gludo llwythi a physgota. Bu’r castell yn destun cweryl rhwng lluoedd Cymru a Lloegr am ddwy ganrif cyn iddo gael ei amddifadu yng nghanol y 14eg ganrif. Mae’r adfeilion yn drawiadol o hyd, a’r rheini mewn llecyn hyfryd ar glogwyn uwchben yr afon, dair milltir i fyny’r afon o’i efaill, Castell Aberteifi, lle’r awn yn nes ymlaen.
Ceunant Teifi
Mae nifer o lwybrau i lawr yr afon o Gilgerran drwy ysblander Ceunant Teifi. Y pellaf yr ewch i ffwrdd o’r afon, y rhwyddaf (a’r mwyaf diogel) yw'r llwybrau. Mae’r llwybr isaf – ar hyd yr afon ei hun – yn gul, yn llithrig ac yn lletchwith, felly peidiwch â mynd ar ei gyfyl os ydych yn ansicr eich cerddediad. Cofiwch chi, hwn yw’r llwybr a ddefnyddiwyd gan gwryglwyr ers canrifoedd – ac maen nhw’n dal i’w gerdded yn ystod y nos, a hithau fel y fagddu, yn cario eu cychod ar eu cefnau. Y ffordd orau o werthfawrogi hyfrydwch y Ceunant yw teithio ar yr afon ei hun – mae Heritage Canoes yn cynnig teithiau tywysedig o’u canolfan ger Canolfan Natur Cymru.

Canolfan Natur Cymru
Mae Gwarchodfa Natur Corsydd Teifi yn gartref i Ganolfan Natur Cymru, sydd wedi creu milltiroedd o lwybrau â chyfeirbwyntiau, gyda chuddfannau, trwy ddarnau helaeth o wlyptir. Gallwch logi ysbienddrychau a bagiau gwybodaeth i blant o’r caffi/y ganolfan ymwelwyr, i helpu i ddod o hyd i’r dyfrgwn, glas y dorlan, y bodau tinwyn, yr hebogau tramor a’r gylfinirod sy’n byw yma. Ceir gyr o ych yr afon yma hefyd - nid rhywogaeth frodorol yn union, ond maen nhw’n wych am gynnal y corsydd ar gyfer y bywyd gwyllt.


Castell Aberteifi
Ymlaen â chi i lawr yr afon a chyn hir fe ddewch i Gastell Aberteifi, sy’n gwarchod y bont isaf ar draws Afon Teifi. Rhys ap Gruffudd - sef yr Arglwydd Rhys - adeiladodd y castell cerrig cyntaf yma ac, i ddathlu ei gwblhau yn 1176, cynhaliodd gynulliad o gerddorion a beirdd. Hon oedd yr Eisteddfod gyntaf, traddodiad sydd wedi para hyd heddiw. Adfeiliodd y castell, a’r tŷ Sioraidd ar ei dir, yn ofnadwy nes i £12m o brosiect adfer sicrhau ei ddyfodol yn atyniad treftadaeth, bwyty, llety a lleoliad digwyddiadau.
Tref Aberteifi
Am eich bod chi yma, mae’n werth treulio awr neu ddwy yn archwilio Aberteifi. Gwir dref Gymreig yw hi i raddau helaeth iawn, yn ganolfan i gymunedau ffermio a physgota lleol, a chriw cryf o fusnesau cartref. Un esiampl dda yw Crwst: caffi rhagorol drwy’r dydd sy’n cynnig cynnyrch lleol, yn nwylo’r pâr ifanc Catrin ac Osian. Mae ysbryd ‘gallu gwneud’ yn perthyn i Aberteifi: y dref hon hefyd sy’n gwneud jîns Hiut y mae Meghan Markle yn eu gwisgo.

I'r gogledd i Mwnt
Dyma ddewis i chi: ar ba lan fyddwch chi’n dilyn moryd Teifi i’r môr? Mae llwybr yr ochr ogleddol yn mynd trwy Gwbert, yna’n gwyro ychydig i’r mewndir cyn ailymuno â’r arfordir y tu hwnt i Ynys Aberteifi. Oddi yma, mae’n hyfryd cerdded i fyny i draeth y Mwnt, cildraeth cysgodol perffaith sydd ymhlith y llefydd gorau ym Mhrydain i weld dolffiniaid.

I’r de i Landudoch
Adfeilion lluniaidd Abaty Llandudoch o’r 12fed ganrif yw prif atyniad y pentref pert hwn, sy’n dilyn glan ddeheuol Afon Teifi. Sylfaenwyd yr abaty gan fynachod Tiron, a gyflwynodd ddull o bysgota – rhwydo Seine – sy’n cael ei arfer o hyd gan ychydig o bysgotwyr ym mhyllau’r afon gerllaw. O flaen yr abaty, cynhelir marchnad cynhyrchwyr lleol bob bore Mawrth, a gafodd ei henwi’r gorau ym Mhrydain gan Food and Farming Awards BBC Radio 4 yn 2016.

Traeth Poppit
Traeth twyni Poppit yw man cychwyn neu ddiwedd Llwybr Arfordir Sir Benfro. Os ydych wedi cael llond bol ar gerdded, beth am gael hufen iâ a mwynhau’r golygfeydd o Fae Ceredigion? Os oes nerth gennych o hyd, dim ond 186 o filltiroedd (300km) eto sydd oddi yma i Amroth yn y de...
Gwybodaeth Ddefnyddiol
Am gysylltiadau cludiant cyhoeddus â’r mannau cychwyn/ diwedd, mae amserau bws ar wefan Cyngor Sir Penfro.
Cewch wybod am ddillad ac esgidiau priodol yn ogystal â rhagor am warchod a mwynhau cefn gwlad yn y Cod Cefn Gwlad.