Llwybr Richard Burton
Ganwyd un o’n hactorion amlycaf, Richard Burton, ym Mhont-rhyd-y-fen yn nyffryn Afan. Mae Llwybr Richard Burton yn dro hawdd o gwmpas y pentref bach tlws hwn sy’n sefyll ger cymer dwy afon frwd. Mae’n ymestyn tua 5.4 milltir (8.8km), a chewch gyfle hefyd i gerdded dros draphont y Bont Fawr enfawr, strwythur rhestredig Gradd II.
Wrth i chi gerdded, fe welwch baneli gwybodaeth sy’n cynnig ffeithiau am y dyn, ei blentyndod a’i yrfa, ynghyd ag olion cyn-weithfeydd glo, sydd bellach yn hafan i fywyd gwyllt.
Cwm Tawe o Bontardawe i Ystalyfera
Beth allai fod yn well na thro bach ger yr afon? Mae’r llwybr hwn yn dilyn Llwybr Beiciau Cenedlaethol 43 sy’n golygu ei fod yn wastad a llyfn, felly’n addas ar gyfer bygis neu gadeiriau olwyn. Pellter o ychydig dros 4 milltir (7km) wrth ochr afon Tawe rhwng Pontardawe ac Ystalyfera ydyw. Cadwch lygad am fronwen y dŵr yn eistedd ar gerrig ger glan yr afon a gwas y neidr yn hofran uwchlaw’r dŵr. Mae’r ddwy dref wedi’u lleoli’n berffaith i gynnig tamaid i’w fwyta ar y naill ben a’r llall, a gallwch ddal bws Clipper Cymru yn ôl.
Darllen mwy: Llwybrau cerdded gwych yng Nghymru i deuluoedd
Parc Coedwig Afan
Mae Parc Coedwig Afan yn ddarn sylweddol o fforest a groesir igam ogam gan lwybrau cerdded a beicio a arwyddwyd.
Mae Llwybr Crib Gyfylchi ychydig dan 7 milltir (10.5km) o hyd, ac mae’n eithaf serth mewn mannau. Mae’n dechrau â thro hamddenol ar lan afon Afan. Wedyn ar ôl dringo’n serth drwy goed a thros nant fyrlymus, dewch i adfeilion fferm Nant y Bar. Wedyn, byddwch yn cerdded ar hyd y gefnen ble mae’r golygfeydd i lawr i Fae Abertawe a’r Mwmbwls yn syfrdanol. Ceir sawl llwybr cerdded byrrach wedi’u harwyddo hefyd – y byrrach ond yn filltir (1.8km)
Darllen mwy: Anturiaethau awyr agored ym Mharc Rhanbarthol y Cymoedd
Rhaeadr Melin-cwrt
Mae’r llifeiriant sy’n tasgu rhyw 80 troedfedd (24m) i’r ddaear yma’n olygfa i’w chofio – yn gymaint felly fel bod yr artist enwog JMW Turner wedi gwneud darlun ohoni yn 1794. Mae’r lleoliad yn arbennig – ceunant cul yn frith gan goed derw, bedwen a gwern a chreigiau hynafol dan garped o fwsoglau a rhedynnau. Mae blodau gwyllt yn drwch yma yn y gwanwyn.
Mae’r llwybr cerdded sy’n mynd â chi lan y nant i’r rhaeadr yn llai na 2 filltir (3km) yno ac yn ôl. Yr adeg orau i weld y rhaeadr yw’r gaeaf pan fydd mwy o law wedi disgyn.
Llwybr Arfordir Cymru o Abertawe i Bort Talbot
Eisiau cerdded 14.5 milltir (19.5km) mewn diwrnod llawn? Llwybr Arfordir Cymru rhwng Abertawe a Phort Talbot amdani!
Gan ddechrau yng Nghei Tŷ’r Peilot yn Ardal Forwrol Abertawe, dilynwch lwybr camlas Tennant. Mae’r llwybr yn mynd â chi ger corsydd a thrwy goedwig. Fe welwch hefyd dŵr cynyddu Doc Brunel a adeiladwyd gan y peiriannydd enwog Isambard Kingdom Brunel a hen gei Llansawel. Oddi yma ewch i lawr aber yr afon i’r twyni tywod yn Nhywyn Baglan a thywod eang traeth Aberafan.
Resolfen i Lyn-nedd ar hyd Camlas Castell-nedd
Mae Camlas Castell-nedd yn rhedeg drwy ganol Castell-nedd a gallwch gerdded llwybr y gamlas i’r ddau gyfeiriad. Ceir byrddau gwybodaeth mewn mannau allweddol hefyd. I gerdded ymhellach, ewch tua’r gogledd i fyny’r cwm i Resolfen. Mae’r wâc 5.4 milltir (8.7km) i Lyn-nedd ac yn ôl yn llwybr pleserus, gwastad ar hyd glan y gamlas gyda sawl loc ar hyd y ffordd a digon o gyfle i weld adar. Ar ôl cyrraedd yr hen odynau calch, edrychwch o gwmpas cyn troi ar eich sawdl ac ail-ganfod eich camau.
Llwybr y Mynachod ym Mharc Gwledig Margam
Mae llawer i’w wneud ym Mharc Gwledig Margam gyda’i blasty hanesyddol, parc chwarae antur, llynnoedd a fferm ddinesig. Mae llawer o lwybrau wedi’u harwyddo drwy goedwig heddychlon hefyd.
Mae Llwybr y Mynachod yn 2.5 milltir (4km) o hyd ac mae’n mynd â chi o gwmpas y fryngaer oes haearn, heibio dyfroedd llonydd y pwll pysgod ac olion Melin Cryc ac yna i fyny i adfeilion yr Hen Eglwys ganoloesol. Cewch olygfeydd mor bell â Gwlad yr Haf a Dyfnaint ar ddiwrnod clir. Mae’r llwybr i lawr drwy’r coed yn eithaf serth, felly cymerwch ofal.
Rhaeadr Sgwd Gwladus
Mae’r talp hyfryd hwn o goedwig gysgodol a chreigiau’n llawn dop o adar yn picio o goeden hynafol i goeden hynafol. Uchafbwynt y llwybr 2.5 milltir (4km) hwn yw rhaeadrau syfrdanol Sgwd Gwladus. Mae Llwybr Sgwd Gwladus yn dilyn yr hen lwybr a arferai gael eu troedio gan geffylau fyddai’n tynnu certiau’n llawn craig silica o’r hen byllau o’r 19eg ganrif. Gallwch weld un o’r rhain yn agos at y llwybr.
Ymysg golygfeydd eraill mae’r hen ffrwd felin ddwbl a ddefnyddid gan ffermwyr i falu grawn. Edrychwch am un o’r meini melin yn y bancyn uwchlaw’r llwybr.