Cael golwg newydd ar Benrhyn Gŵyr
Mae Bae'r Tri Chlogwyn yn un o gyrchfannau Canolfannau Gweithgareddau Gŵyr, sy'n gwneud eu gorau glas i sicrhau fod pawb yn cael hwyl i'r eithaf ar draethau Penrhyn Gŵyr.
Byddwch yn barod i faeddu'ch dwylo yn y mwd yng Nghwm Her, cwrs ymosod go arbennig sy'n cuddio o'r neilltu yng nghanolfan Clyne Farm. Caiff plant a grwpiau ddigonedd o hwyl yma, ac mae'r fferm ei hun yn hyfryd, gyda llefydd i ddringo o dan do.
I'r dibyn o dan do
Mae'n werth i chi fynd i ganolfan ddringo o dan do os ydych chi braidd yn betrus yn y mynyddoedd, neu os nad yw'r tywydd yn ffafriol iawn. Ar Wal Ddringo LC yn Abertawe, mae rhaffau i wyth o bobl ac ugain o wahanol ffyrdd o gyrraedd y brig, a pheiriant i ddod â phawb yn ôl i'r ddaear yn ddiogel.
Fe gewch chi her ddigon trylwyr yn y sesiynau dan do i chi fedru meistroli hanfodion y gamp. Os ydych chi'n ddigon hyderus ar ôl hynny gallwch fentro ar y clogwyni gyda Morfa Bay Adventure a dysgu mwy am yr agweddau mwy technegol ar ddringo a gosod rhaffau. Does dim angen i chi fod wedi dringo o'r blaen, a bydd yr offer i gyd yno'n barod ar eich cyfer. Gallwch chi ddewis o ba uchder y byddwch yn abseilio, ac ar ddiwedd y dydd mae digon o welyau i chi yn y byncws.
Lle gwych i ddringo yw Sir Benfro
Fe gewch chi amser penigamp ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro. Fel mae'n digwydd, yma y dewch chi o hyd i ddarparwyr fel RockUp-Climbing sy'n meddu ar yr holl arbenigedd i fedru cynnig diwrnodau llawn hwyl gan gadw'r teulu i gyd yn ddiogel.
Maent yn mynd â phobl i bob cwr o Sir Benfro gan ystyried gallu pob dringwr, ac yn darparu amrywiaeth o gyrsiau. Mae croeso i deuluoedd a dechreuwyr yn ogystal â chyrsiau technegol i ddringwyr mwy profiadol a rhai sydd eisiau dysgu sut i arwain teithiau dringo eu hunain.
Chawsoch chi erioed gyfle gwell i ddysgu dringo.