Taith anhygoel o amgylch Cymru mewn canŵ
Ym 1992, llwyddodd Robert Egelstaff a minnau fynd yn ein canŵau yr holl ffordd o amgylch Cymru, y tro cyntaf erioed i neb wneud hynny mewn cwch padlo. Ar y cychwyn roedden ni ond wedi bwriadu canŵio ar ddyfroedd mewndirol, ond unwaith y cawson ni’r syniad o fynd yr holl ffordd mewn canŵ, roedd hi’n anodd peidio mynd amdani.
Fe gawson ni glamp o antur, a does neb wedi’n hefelychu hyd yn hyn (fe wnes i’r daith mewn caiac a chanŵ gyda grŵp o hyfforddwyr yn 2010, ond erbyn hynny roedd Camlas Trefaldwyn wedi ailagor, i wneud pethau’n haws). Roedd hi’n un o’r teithiau mwyaf anhygoel y bues i arni erioed.
Am wefr oedd gweld arfordir Cymru a’r afonydd wrth fynd mewn canŵ.
Aethon ni i fyny Afon Dyfrdwy yn y dull traddodiadol, yn defnyddio polion i wthio’n hunain yn ein blaen, a rhaffau i hedfan fel barcud dros y dyfroedd gwyllt – syfrdanol. Wrth fynd i’r holl lefydd arbennig fe ddaethon ni wyneb yn wyneb â bywyd gwyllt: ddwywaith daeth morloi i nofio oddi tanom, gan roi cnoc fach ar waelod y canŵ cyn tasgu i’r wyneb tua 20 troedfedd i ffwrdd.
Mae anturiaethau fel hyn o fewn cyrraedd i unrhyw un sy’n canŵio yng Nghymru.
Am wefr oedd gweld arfordir Cymru a’r afonydd wrth fynd mewn canŵ.
Un o’r llefydd gorau yn y byd i fynd mewn canŵ
Rwyf wrth fy modd yn mynd ag ymwelwyr dros Draphont Ddŵr Pontcysyllte ger Llangollen. Dŵr tawel sydd yma, ond does dim dwywaith fod hwn yn un o’r llefydd mwyaf rhyfeddol yn y byd i badlo mewn canŵ.
Ar eich naill ochr mae’r llwybr halio, ac ar y llall mae mur bach yn codi tua throedfedd uwchlaw’r dŵr – yr ochr draw mae cwymp o 40 metr i Afon Dyfrdwy islaw. Go brin y dewch chi o hyd i’r unman mor anhygoel i badlo!
Fy antur fwyaf
Yn 2012 fe fues i’n gweithio yng Nghanada, ond dechreuodd yr antur fwyaf a gefais i erioed yn y nant ar waelod fy ngardd, pan benderfynodd fy nghyfaill a minnau fynd ati i badlo ar hyd Afon Dyfrdwy, yr holl ffordd o Lyn Tegid i’r gored yng Nghaer: 70 milltir mewn diwrnod, y tro cyntaf erioed i unrhyw un wneud y gamp, yn ein tyb ni. Mae’n anhygoel mod i wedi cael un o fy anturiaethau mwyaf mewn blynyddoedd diweddar ar Afon Dyfrdwy, heb orfod mynd yn bell o gartref.
Rhwng y draphont ddŵr, yr afonydd a’r llynnoedd, mae modd i bawb fwynhau antur yng Nghymru.
Mae popeth mor agos at ei gilydd. Does dim rhaid i mi fynd ond am awr yn y car i ddod o hyd i afonydd di-ri, camlesi, arfordir trawiadol ac aberoedd fel Afon Mawddach, sy’n un o fy hoff lefydd yn y byd i badlo.
Rwy’n gweithio mewn llefydd fel Afon Efyrnwy ac Afon Banwy, ac rwy’n cael profiad gwahanol bob tro rwy’n mynd yno. Wrth badlo drwy’r dŵr gwyn ar Afon Banwy yn ddiweddar fe welais i ddau ddyfrgi mewn dŵr tawel gerllaw, yn bwyta pysgodyn. Roeddwn i wedi fy swyno’n llwyr. Fe welwch chi lawer o ddyfrgwn wrth grwydro ar hyd afonydd Cymru. Neu gallech badlo rownd tro yn yr afon a gweld golau’r haul yn fflachio ar blu glas y dorlan. Os ewch chi mewn canŵ ar aber Afon Mawddach pan fydd y llanw yn y lle iawn, fe welwch chi’r barrug yn ffurfio rhewfryniau bach yn y dŵr.
Felly mae digonedd o lefydd lle cewch chwithau eich swyno’n llwyr.