Beth yw arfordira?
Y mwyaf o hwyl a gewch chi yn y dŵr, o bosib. Meddyliwch am chwilota pyllau môr i’r eithaf. Neu daith natur yn y dŵr. Yn ei hanfod, mae’n brofiad sy’n cyfuno amrywiaeth o weithgareddau gan ddefnyddio’r arfordir fel un cae chwarae mawr. Fe fyddwch chi’n llamu dros y creigiau, yn sgrialu ar draethau, yn reidio’r tonnau, mentro i ogofâu, heb anghofio plymio o ben clogwyni, wrth gwrs. Mae hefyd yn ffordd ardderchog o fynd i lygad y ffynnon a darganfod holl ryfeddodau ein bywyd gwyllt a’r arfordir; ewch chi ddim mor agos â hyn atynt wrth gerdded.


Ydy e’n beryglus?
Fe fyddai’n beryglus petasech chi’n ei wneud ar eich pen eich hun. Ond mae digon o ddarparwyr cymwys wrth law. Bydd yr hyfforddwyr yn eich helpu i ddysgu’r technegau angenrheidiol i chi fedru arfordira’n ddiogel, ac maent hefyd yn adnabod yr arfordir fel cefn eu dwylo, ble bynnag y mae’r llanw’n cyrraedd. Felly, gallant eich tywys i’r mannau lle mae ymchwydd y don ar ei fwyaf, i’r ogofâu a’r creigiau difyrraf, ac i weld y bywyd gwyllt mwyaf rhyfeddol. Yn syml, maent yn gwybod sut i gael hwyl. Mae’r hyfforddwyr hefyd yn gwybod am y mannau i’w hosgoi pan fo adar y môr a morloi’n bridio.

Pwy sy’n gallu rhoi cynnig arni?
Ydych chi’n wyth oed neu’n hŷn? Allwch chi nofio fel ci? Os felly, i ffwrdd â chi! Mae’n help os ydych chi’n hyderus yn y dŵr, ond bydd gennych chi siwt wlyb a siaced achub i’ch cadw’n gynnes ac uwchlaw’r tonnau, ac wrth gwrs byddwch yn gwisgo helmed ar eich pen. Mae’r rhan helaeth o ddarparwyr yn cynnig anturiaethau byr i deuluoedd yn ogystal â diwrnodau cyfan i blant hŷn yn eu harddegau ac oedolion.
Oes raid i mi neidio dros y dibyn? Mae arna i ofn uchder!
Na phoener – ni fydd unrhyw hyfforddwr yn eich gorfodi i neidio. Efallai na fydd eich ffrindiau a’ch teulu mor drugarog, serch hynny – a phwy a ŵyr, efallai y cewch chi hwyl arni heb edrych tua’r ddaear.

Ydy e’n iachus?
Does dim byd gwell i gadw’n heini, magu nerth ac ystwythder a llosgi’r calorïau i ffwrdd. Pam trafferthu â’r gampfa?
Cyffro di-baid?
Gyda’r troeon yn y llanw a symud di-baid y tonnau a’r bywyd gwyllt, mae pob taith arfordira yn unigryw. Gallech fod yn nofio’n braf yn mwynhau’r golygfeydd, a’r munud nesaf bydd y môr yn eich taflu yma ac acw fel doli glwt mewn peiriant golchi. Efallai y cewch gip ar hebogiaid tramor a nofio ochr yn ochr â morlo. Mewn unrhyw sesiwn arferol o ddwy awr gallwch edrych ymlaen at sgrialu dros greigiau, nofio mewn ceunentydd, chwilota mewn ogofâu, syrffio ar eich bol dros y cesyg gwynion, sbecian i mewn i byllau môr, dysgu am ddaeareg a phlymio o ben clogwyn.

Mae hynny wedi'i setlo, dwi'n mynd. Beth sydd ei angen arna i?
Chwant am antur i ddechrau, a’r holl hanfodion: dillad nofio i fynd o dan eich siwt wlyb, pâr o hen esgidiau rhedeg i amddiffyn eich traed a chael gafael ar y creigiau, siaced achub a helmed.
Dylech fynd gyda hyfforddwyr cymwys bob amser, i gael y cyfarpar priodol ac elwa ar eu holl brofiad o’r arfordir lleol, y tywydd ac amserau’r llanw.