Llwybr y Bencampwriaeth: Cyrsiau o ansawdd ac anturiaethau arfordirol
Chwarae
Dilynwch yn ôl troed y mawrion gyda rownd yng Nghlwb Golff Brenhinol Porthcawl. Dyma'r cwrs y gwnaeth Tom Watson, a enillodd y bencampwriaeth Agored bump o weithiau, ‘syrthio mewn cariad ag ef' o’r cychwyn cyntaf, tra bod Fred Couples, Is-gapten Cwpan Ryder yr Unol Daleithiau sydd wedi ennill y Daith PGA sawl gwaith, yn ei ddisgrifio fel un 'cwbl ryfeddol'. Peidiwch â disgwyl y bydd pethau’n hawdd. Mae hwn yn lle sy'n gwobrwyo cywirdeb a phŵer, gyda llinellau troellog a grîns cyflym, a haen ychwanegol o her pan ddaw’r gwyntoedd annisgwyl o’r môr. Mae'r ail dwll yn esiampl berffaith, lle mae angen taro’r bêl yn hyderus a chywir i gyrraedd grîn sydd â thir gwyllt bygythiol o’i gwmpas.
Oddi ar y cwrs
Mae llawer o bethau i rai sy’n mwynhau’r awyr agored a byd natur eu gweld a'u gwneud yn y rhan yma o Gymru. Ewch am y môr yn Rest Bay am beth o syrffio gorau'r DU, neu crwydrwch eangderau tywodlyd Gwarchodfa Natur Merthyr Mawr - cartref y twyni ail dalaf yn Ewrop. Am anturiaethau trefol, ewch ar y daith fer ar hyd yr arfordir i Abertawe, y ddinas ger y môr. Ewch i Amgueddfa Genedlaethol y Glannau i ddysgu am ein treftadaeth ddiwydiannol a morwrol, i weld cartref plentyndod yr awdur enwog Dylan Thomas ac ymlaciwch yn y bariau, y caffis a'r bwytai o gwmpas y marina bywiog. Gallwch hefyd gael blas ar wisgi Cymreig bendigedig gyda thaith o amgylch atyniad newydd Distyllfa Gwaith Copr Penderyn Abertawe.
Aros
Arhoswch yng Ngwesty a Sba Heronston Best Western ym Mhen-y-bont ar Ogwr sy'n agos at y cwrs – yn ogystal â sawna, ystafell stêm a phwll. Fel arall, mwynhewch ychydig o swyn tŷ gwledig yng Ngwesty Tŷ Gwledig Coed-y-Mwstwr. Yn swatio mewn llecyn deiliog, mae'r faenor Fictoraidd hon yn gyfuniad deniadol o steil hen ffasiwn a dyluniad cyfoes. I aros ar lan y môr, beth am The Oyster House yn y Mwmbwls? Mae'r gwesty bwtîc trawiadol hwn yn llawn cyffyrddiadau anarferol – yn ogystal â theras hyfryd ar y to gyda golygfeydd trawiadol o’r môr.
Rownd arall?
A beth am ymestyn eich llwybr golff drwy chwarae yn un (neu bob un) o bedwar cwrs y Bencampwriaeth Agored Hŷn - Machynys, Ashburnham, Pîl a Chynffig a Southerndown. Yn llawn o beryglon dŵr heriol, Machynys yw'r unig gwrs yng Nghymru sydd wedi’i ddylunio gan Nicklaus ac Ashburnham yw un o'r cyrsiau Pencampwriaeth Lincs gorau ym Mhrydain. Mae gan gwrs Pîl a Chynffig ddau ran cwbl wahanol, gyda naw twll o rostir garw a naw yn y twyni, tra bo cwrs lincs Southerndown yng nghanol yr eithin wedi cael ei ddisgrifio fel 'clasur tragwyddol' gan gylchgrawn Golf Monthly.
Y Gorllewin sy'n mynd â hi: Grîns gogoneddus a threfi trendi
Chwarae
Ger y lli ym Mharc Cenedlaethol Arfordir Penfro, mae’n werth ymweld yn unswydd â Chwrs Golff Trefdraeth ar gyfer ei olygfeydd godidog o'r môr. Ond peidiwch â gadael iddyn nhw dynnu’ch sylw’n ormodol – bydd angen canolbwyntio’n llwyr er mwyn cwblhau rownd gyda sgôr barchus. Cafodd naw twll gwreiddiol y cwrs eu creu yn y 1920au gan un o gewri’r penseiri golff, James Braid (sydd hefyd yn gyfrifol am gyrsiau lincs fel Carnoustie a Gleneagles), cyn ychwanegu naw twll arall yn ddiweddarach. Gwyliwch am y 15fed twll par-tri, sy’n cael ei chwarae dros dwyni i grîn bach uwchlaw. Yn ôl cylchgrawn Today’s Golfer, hwn yw un o’r 10 twll anoddaf yn y DU.
Oddi ar y cwrs
Y gylchdaith gerdded o amgylch Pen Dinas ychydig filltiroedd i'r gorllewin o Drefdraeth yw un o uchafbwyntiau ein 870 milltir o Lwybr Arfordir Cymru. Byddwch yn dringo rhai mannau serth wrth grwydro’r llwybr ar hyd y clogwyn, ond eich gwobr fydd rhai o'r golygfeydd gorau yn Sir Benfro. Cymerwch amser i fynd am dro yn Nhrefdraeth, pentref bach tawel ar un adeg sydd bellach yn un o gyrchfannau mwyaf ffasiynol Cymru. Mae’n gartref i fwytai anarferol fel Pwnc (sy’n cynnig coffi blasus a wal ddringo ar y safle) a thrysorfa hudolus Canolfan Carningli o hen bethau a llyfrau. Mae pethau'r un mor anghyffredin yn Aberteifi, lle gwelwch strydoedd hanesyddol a chastell wedi'i adnewyddu ochr yn ochr â siopau bwtîc a bwytai unigryw. Mwynhewch fwyd mor y Canoldir gyda ryw dro Cymreig yn Belotti’s, neu ddanteithion wedi'u pobi â llaw yn Bara Menyn.
Aros
Mwynhewch foethusrwydd Llys Meddyg yn Nhrefdraeth. Mae'r tŷ tref Sioraidd hwn yn cynnig ystafelloedd chwaethus a bwyty gwobredig, sy’n canolbwyntio ar gynnyrch tymhorol gorau Sir Benfro. Mae golygfeydd hyfryd o’r môr yng Ngwesty a Sba’r Cliff ger Aberteifi, sy'n eistedd wrth geg aber Afon Teifi. Fel arall, arhoswch yn agos at hanes yn un o'r ystafelloedd hunanarlwyo neu wely a brecwast yng Nghastell Aberteifi ar ei newydd wedd.
Rownd arall?
Mae’r chwarae’n aruchel yng Nghlwb Golff Aberteifi, sy’n mewn llecyn fry uwchben y bae. Cymharodd yr awdur chwaraeon o'r Unol Daleithiau, Furman Bisher, y golygfeydd yma â'r rhai yn Pebble Beach. Yr unfed twll ar bymtheg par-tri yw’r gorau ohonyn nhw i gyd, gyda’i grîn tonnog yn cael ei fframio gan ddyfroedd glas Bae Ceredigion. Neu croeswch draw i ochr ddeheuol Sir Benfro am rownd yn Ninbych-y-pysgod. Y cwrs golff lincs yma, a ddyluniwyd gan James Braid, yw'r cwrs hynaf yng Nghymru.
Glannau'r Gogledd: Cyrsiau glan môr gwych a chestyll mawreddog
Chwarae
Ar ôl dechrau ei oes fel rhyw gasgliad bras o dyllau a grëwyd gan amaturiaid brwd ym 1869, bellach mae Clwb Golff Conwy yn gwrs golff lincs pencampwriaeth gyda phedigri proffesiynol go iawn. Ymhlith ei restr hir o ddigwyddiadau pwysig, y clwb hwn oedd y cwrs cyntaf (a'r unig un) yng Nghymru i gynnal y rownd gymhwyso derfynol ar gyfer y Bencampwriaeth Agored yn 2006 ac yn fwy diweddar hwn oedd lleoliad Cwpan Curtis 2021. Mae’n anodd dewis uchafbwynt, ond gwyliwch yr ail dwll par-tri gyda'i grîn ar lethr, yng nghanol y bynceri tywod. Hefyd y seithfed twll par-pedwar, sy'n glynu at yr arfodir ac yn cynnig golygfeydd ysblennydd o'r Gogarth wrth i chi wneud eich ffordd tuag at y grîn bowlen bwnsh.
Oddi ar y cwrs
Byddwch yn rhan o hanes go iawn wrth i chi grwydro’n cestyll sy’n Safleoedd Treftadaeth y Byd UNESCO (ym Miwmares, Caernarfon, Conwy a Harlech). Mae'n amser arbennig o dda i ymweld â Chaernarfon, gan fod gwaith adnewyddu diweddar yn agor y rhannau uchaf o'i ragfuriau anferthol i ymwelwyr am y tro cyntaf. Mae yna hyd yn oed lifft i fynd â chi yna (fu hi erioed mor hawdd ymosod ar gastell). Teithiwch o gwmpas mannau bwyd a diod gwych Gogledd Cymru. Dewiswch o blith yr anhygoel Jackdaw, sy'n gweini creadigaethau gastronomig arloesol o fewn muriau hynafol Conwy, bwydlenni blasu tymhorol hyfryd Sheeps and Leeks yng Nghaernarfon a bwyd môr ffres ar yr arfordir yn Dylan's ym Mhorthaethwy. Os ydych chi'n chwilio am fwy o gyffro, beth am daclo via ferrata yn y to, rhaffau uchel a chwrs ninja ym Mharc Antur Eryri, neu mwynhewch don o adrenalin yn un o atyniadau gweithgaredd Zip World yng Ngogledd Cymru.
Aros
Gorffwyswch am y nos yn Y Capel yng Nghonwy. Mae'r hen gapel hwn sydd wedi’i droi’n llety bwtîc o fewn muriau canoloesol y dref ac yn llawn nodweddion unigryw (gan gynnwys yr hen bwll bedyddio sydd i’w weld drwy'r llawr). Gallwch hefyd gysgu o fewn muriau Caernarfon yn Nhafarn y Black Boy, tafarn blith draphlith sydd â’i gwreiddiau’n ymestyn yn ôl i'r 16eg ganrif.
Rownd arall?
Mae Clwb Golff Caernarfon yn cyfuno cwrs lincs glan môr a golff parcdir o'r radd flaenaf. Ymhlith yr uchafbwyntiau mae'r 14eg twll par-pedwar, sy’n cael ei chwarae tuag at fyncer tywod bach, cysgodol uwchlaw Afon Menai. Fel arall, mentrwch i Glwb Golff Porth Llechog yn Ynys Môn. Dyma'r cwrs mwyaf gogleddol yng Nghymru ac fe'i disgrifiwyd gan enillydd Cwpan Ryder, Jamie Donaldson, fel 'un sy’n rhaid ei chwarae'.