Wedi sefyll yn syfrdan ger sgydau di-ri, a chrwydro sawl copa ledled Cymru, tybed oes taith genedlaethol arall i’w chyflawni, yn cynnig gwefr a dihangfa yn un? Wel oes a dweud y gwir, ac un sy’n mynnu dim llawer mwy na dwyawr o syllu ar sgrîn! Rhowch y ffôn i’r naill ochr, a’r tabled na heibio; dwi’n sôn am sgrin fawr y sinema. Ceir trysorau ar draws y wlad, digon yn wir i greu cylchdaith cenedlaethol.
Y Llusern Hud, Tywyn
Rwy'n genfigennus o bawb yng nghyffiniau Tywyn, Meirionnydd, oherwydd yno mae'r Llusern Hud, lleoliad hudol sydd hefyd yn trefnu profiadau sinema ‘drive-in’ mewn cae yn Abergynolwyn. Dwi’n mwynhau cadw golwg ar holl arlwy’r sinema ei hun, a leolir mewn neuadd sy’n dyddio o 1893. Mae’r ganolfan boblogaidd yn dangos ffilmiau newydd sbon a thu hwnt i’r sgrîn fawr, ceir bar awyr iach, Yr Ardd Gudd, a phob math o goctels danteithiol ar y fwydlen, gan gynnwys ‘soda floats’ a moctel ‘Moana’ i blant. Oes wir angen holi beth yw cynnwys coctel 007? Un peth sy’n sicr; fe brofwn i sawl ‘Groundhog Day’ yno â phleser!
Gaumont Plaza, Y Fflint
Sinema a ‘achubwyd’ ac a adferwyd yn 2016 yw’r Gaumont Plaza. Yn wir, er yn neuadd bingo am flynyddoedd maith, agorodd fel neuadd bictiwrs yn 1938. Yn rhaglen wreiddiol y Plaza ar ddiwedd y 30au, disgrifiwyd awyrgylch y sinema fel hyn; ‘y ‘peth’ annisgrifiadwy hwnnw, sy’n cludo gweithwyr blinedig o’u bywydau cyffredin i le i anghofio pob pryder.’ Ewch yno da chi i brofi dihangfa go-iawn dros eich hun.
Sol Cinema, Abertawe
‘Y neuadd sinema leiaf yng nghysawd yr haul’ sydd wedi ei addasu o hen garafan o’r 1960au. Ac er mai dim ond lle i 8 sydd yn y sinema fechan hon, yn ôl y perchennog profodd 90,000 o bobol y Sol Cinema dros y ddegawd ddiwethaf. Fel mae’r enw’n awgrymu, caiff y Sol ei bweru gan ynni’r haul, ac mae ar gael i’w hurio ynghyd â theithio i wyliau amrywiol.
Cell B, Blaenau Ffestiniog
Dros y blynyddoedd diwethaf agorwyd sawl sinema ddigidol i blesio sinemagarwyr Gwynedd. Mae canolfan Pontio ym Mangor, Galeri Caernarfon a Neuadd Dwyfor Pwllheli yn denu cynulleidfaoedd o bell. Ond feddylioch chi erioed am wylio ffilm mewn hen gell? ’Nol yn 2007 addaswyd hen orsaf heddlu Blaenau Ffestiniog yn ganolfan gerddoriaeth a chaffi/bar - Cell B. Yna yn 2015 sicrhawyd nawdd pellach i ychwanegu hostel bwtîc a dau sinema ddigidol, sy’n dangos ffilmiau o Gymru a rhai rhyngwladol. Sôn am gaffaeliad i dre’r chwarel – ni fu sinema yno ers y 60au – gan ychwanegu at amryw atyniadau antur yr ardal.
Libanus 1887, Borth
Mae Libanus 1887, hen gapel Gerlan, y Borth, yn atynnu cymaint o ‘foodies’ â ‘ffilm byffs’ gan mai sinema a bwyty yn un yw’r neuadd bictwrs hwn. Mae’r bwyty ar agor rhwng 5-7yh rhwng nos Fercher a Sadwrn, toc cyn dangosiad ffilm newydd fin nos. Yna bob dydd Sul, wedi’r matinée’r prynhawn, mae’r bwyty ar agor am 4. Sôn am nefoedd i ffilmgarwyr... cael trafod y ffilm dros ginio Sul! Ac ar gynnig ar y fwydlen mae’r cynnyrch lleol gorau, o’r tir a’r môr, a chawsiau’r fro – Caws Teifi yn eu plith.
Sinema Neuadd y Farchnad, Brynmawr
Ceir sawl sinema diddorol yng nghymoedd de Cymru – Memo Trecelyn, Maxime y Coed Duon a Neuadd Brynaman, yn eu plith. Ond yr hynaf ohonynt oll – yn wir y sinema hynaf yng Nghymru – yw Neuadd y Farchnad, Brynmawr ym Mlaenau Gwent. Ceir cofnod mai’r ‘ffilm’ gyntaf i’w dangos yno oedd ‘A Boer War Pictorial’, ar y 27ain o Ragfyr ym 1899. Ac er bod manylion Art-Deco yn dal i addurno’r adeilad, derbyniwyd gweddnewidiad cyfoes yn 2015. Atyniad mawr i blant lleol yw’r siop losin cynhwysfawr.
Picturehaus, Manorhaus, Rhuthun
Mae tŷ Sioraidd y Manorhaus yn Rhuthun llawn manylion chwaethus cyfoes. Ar ben hynny, mae'n cynnig bwyd rhagorol a chroeso Cymreig... a hefyd sinema yn y seler! Yn wir, mae yna wastad ddewis da o ffilmiau, hen a newydd, gan fod y Picturehaus hefyd yn gartref i glwb ffilm lleol.
Everyman, Caerdydd
Digon teg, mae’r Everyman yn perthyn i gadwyn o sinemau o ochr arall y ffin, yn wahanol i sinema leol canolfan y Chapter, Treganna, wnaeth nodi’i ben-blwydd yn 50 yn 2021. Ond o, am gadwyn foethus, llawn cyffyrddiadau chwaethus, gan gynnig adlais o oes aur Hollywood. Ynghyd â phum sinema bychan, yn llawn cadeiriau a soffas melfed, ceir bar a bwyty (lleoliad gret i gael parti) a’r ystafelloedd ymolchi mwyaf moethus yng Nghaerdydd! Mae’r dewis o gynyrchiadau wastad yn ddiddorol yno – cyfuniad o ffilmiau newydd, clasuron a pherlau anibynnol. Ac er nad ydw i’n un i wledda tra’n sawru arlwy’r sgrîn fawr, gallwch archebu ‘Spielburger’ neu goctel ‘Pretty in Pink’ ac fe ddaw gan weinydd at eich sedd toc cyn dechrau’r ffilm.
Theatr y Lyric, Caerfyrddin
Amhosib fyddai hepgor Theatr y Lyric o’r rhestr hon, gan mai’r ganolfan adloniant boblogaidd – un o theatrau Sir Gâr - yw seren y ffilm Save The Cinema. Ond fel nifer o gynyrchiadau tebyg sy’n ‘seiliedig ar hanes go iawn’, mae stori’r ffilm yn wahanol i safiad y sinema yn 1993. Bu’r Lyric yn hysbysebu ffilm fawr yr haf hwnnw, cyn darganfod na fyddai ‘Jurassic Park’ i’w weld yng Nghaerfyrddin wedi’r cyfan. Wedi creu cynnwrf yn lleol, a chodi disgwyliadau mawr, aeth y reolwraig benderfynol Liz Evans at faer y dref, a gysylltodd yn uniongyrchol â Steven Speilberg! Er mawr syndod i bawb, derbyniodd ei gwmni y neges ‘fax’, gan arwain Universal Pictures i gynnal rhag-ddangosiad o’r ffilm yng Nghaerfyrddin ar yr un noson a’r premiere yn Llundain! Dycnwch, mentergarwch, a joch o hud Hollywood... swnio fel clasur o ffilm i mi!
Mae Lowri Haf Cooke yn adolygydd ffilm sy’n darlledu ar raglenni S4C a BBC Cymru. Dilynwch ei hargymhellion ar Twitter ac Instagram.