I bobl ym mhob cwr o’r wlad, cinio dydd Sul ydy un o uchafbwyntiau diamheuol y penwythnos. Mae’n adeg i’r teulu ddod ynghyd, i ffrindiau ymgasglu, ac i gadw hen, hen draddodiad yn fyw ar yr un pryd. Gorau oll os cawn ni wneud hynny mewn tafarn glyd, heb orfod ffraeo am bwy sy’n golchi’r llestri!
Lisa Reynolds sy’n gyfrifol am gyfrifon North Wales Grub ar Instagram, Facebook a TikTok. Dyma’i detholiad hi o fwytai a thafarndai sy’n gweini rhai o giniawau Sul gorau’r gogledd. Mae’r rheini oll yn agos at lwybrau cerdded gwych, sy’n gyfle wedyn i ymestyn y coesau a threulio’r cig, y llysiau a’r grefi yn ein boliau!
White Horse, Hendrerwydd
Dyma dafarn hen ffasiwn, nepell o Rhuthun, mewn ardal lle mae bri mawr ar ffermio. A bob prynhawn Sul, bydd rhai o fwydydd gorau Dyffryn Clwyd yn dod yn boeth o gegin y White Horse. O Laethdy Pentrefelin i fyny’r ffordd y daw’r cynnyrch llaeth, tra bo taith y llysiau yn fyrrach fyth: mae’r rheini’n cael eu tyfu yn yr ardd fach yn y cefn! O siop fwtsier John Jones a’i Fab yn Rhuthun wedyn y daw’r holl gig; dyma fusnes teuluol sydd wedi bod yn gwasanaethu’r ardal ers 1880.
O Rhuthun hefyd y daw jin Lost Dutchman, ac mae dewis eang o gawsiau Cymreig hefyd ar y fwydlen. Yn benodol, Caws Trefaldwyn a Chaws Cenarth sydd yn y blodfresych pob.
Ar ôl mwynhau’r arlwy yn y stafell fwyta glyd, mae’r dewis o lwybrau cerdded hefyd yn helaeth. Beth am fentro i gopa Moel Famau neu Foel Arthur, a mwynhau bryniau Clwyd yn eu holl ogoniant? Mae’r llwybr i fryngaer Pen-y-cloddiau hefyd yn un poblogaidd.
The Toad, Bae Colwyn
A honno’n edrych allan ar fôr Iwerddon, mae golygfeydd heb eu hail i’w cael o dafarn The Toad, sy’n sefyll ar bromenâd gorllewinol Bae Colwyn.
Er bod y bwyd yn wych gydol yr wythnos, a’r arlwy’n cynnwys clybiau swper misol a’r ‘Fish Friday’ enwog, mae’r cinio Sul yn amheuthun hefyd. Mae’r cig i gyd yn lleol, ond fel y byddech chi’n ei ddisgwyl a ninnau ar lan y môr, mae dewis da o bysgod ar y fwydlen hefyd. Mae’r un peth yn wir am y fwydlen i blant, tra bo croeso mawr i gŵn yma.
Mae’r promenâd yn llythrennol ar garreg y drws, felly mwynhewch awyr iach y môr wedi’ch pwdin. Hefyd yn y cyffiniau mae traeth braf Llandrillo-yn-Rhos, y ceir cebl ar y Gogarth, a phrom ac atyniadau eraill Llandudno.
Fanny Talbot, Y Bermo
Tafarn ‘gastro’ ydy’r Fanny Talbot y’n ymfalchïo yn ansawdd ei bwyd, a hithau wedi ennill dwy o rosglymau’r AA. Bydd wyneb y prif gogydd, Owen Vaughan, yn gyfarwydd i ddilynwyr y rhaglen MasterChef: The Professionals, gan iddo gyrraedd rownd derfynol y gystadleuaeth yn 2022. Er y bri hwn, mae’r awyrgylch yn anffurfiol ac yn groesawgar yma.
Bwydlen flasu sydd ar gael rhwng dydd Mercher a dydd Sadwrn, tra bo’r cinio dydd Sul yn costio £35 y pen (gyda gostyngiadau i blant). Mae’r hen glasuron i gyd ar gael, a llawer o’r cynnyrch yn lleol, gan gynnwys Caws Perl Las a Chaws Hafod.
Er bod croeso i gŵn yn yr ystod yr wythnos, mae’n well crybwyll na chewch chi ddod â nhw efo chi ar y Sul.
Ewch am dro ar draeth a phromenâd y Bermo ar ôl bwyta, neu dilynwch lwybr afon Mawddach i gyfeiriad Dolgellau. Mae cylchdaith Abermaw a’r daith banorama heibio i Ddinas Oleu (safle cyntaf erioed yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol) hefyd yn werth chweil.
Catch 22, Y Fali
Dyma fistro teuluol yn Sir Fôn yng ngwir ystyr y gair, gan mai gŵr a gwraig sydd uwch y stôf yn y gegin, a chwaer wedyn yn gyfrifol am y bwyty. Yn ôl y Good Food Guide 2024, mae Catch 22 yn un o’r 100 bwyty lleol gorau ym Mhrydain gyfan.
Yn ystod yr wythnos, mae bwydlen brecwast, cinio a swper ar gael – ynghyd â bwydlen tecawê boblogaidd. Ceir bwydlen arbennig ar ddydd Sul, er bod dewisiadau eraill ar wahân i’r cinio traddodiadol, gan gynnwys byrgers, cyrris a dewis helaeth o bysgod. Pysgotwyr lleol Ynys Môn fydd wedi dal y rheini.
Yn ogystal â’r bwyd, mae’r lle’n enwog am ei ddigwyddiadau cyson, fel ei ffeiriau crefftau a’i de prynhawn sy’n wych i bartïon a dathliadau.
I ymestyn y coesau, mae Parc Arfordirol Penrhos yn y cyffiniau, ac felly hefyd Ynys Cybi ac atyniadau fel Parc Morglawdd Caergybi a goleudy Ynys Lawd.
Pebbles, Benllech
Dyma aros ar Ynys Môn am y tro, ac anelu am bentref glan môr poblogaidd Benllech. Dyma gartre Pebbles, y bistro bach sy’n defnyddio cynnyrch lleol ond yn rhoi mymryn o flas Môr y Canoldir i’w brydau.
Mae’r clasuron yn ymddangos ar y fwydlen bob dydd Sul, ond mae dewisiadau eraill hefyd ar gael, gan gynnwys byrgers a phasta. Pan ddaw hi’n adeg pwdin, mae’r hufen iâ wastad yn ddewis doeth, a hwnnw’n cael ei gyflenwi gan gwmni Red Boat o Fiwmares.
Mae croeso mawr i gŵn, a digonedd o draethau gwych o’ch cwmpas, gan gynnwys Traeth Coch, Traeth Bychan a Thraeth Lligwy. Mae pentref morwrol, tlws Moelfre hefyd dafliad carreg i ffwrdd.
Erskine Arms, Conwy
Er bod yr Erskine Arms yn dyddio o’r cyfnod Sioraidd, mae cerrig hŷn o lawer o’ch cwmpas ar bob tu, sef muriau tref gaerog, ganoloesol Conwy. Mae’r castell enwog yn llythrennol rownd y gornel. Dros y ffordd, mae’r ‘Capel’, lle mae llofftydd braf i aros. Mae’r cynnig ‘swper, gwely a brecwast’ yn boblogaidd yma.
Ar ôl setlo wrth danllwyth o dân, edmygwch y fwydlen dymhorol sy’n llawn dop o gynnyrch lleol. Ac ar y Sul, er bod cinio rhost traddodiadol yn rhan o’r arlwy, mae prydau ysgafnach hefyd ar gael, gan gynnwys brechdanau, salad a pheis.
I dorri syched, mae yma ddiodydd lleol rif y gwlith, gyda chwrw Bragdy Conwy, wisgi Aber Falls, a jin Pant y Foel a’r Great Orme i gyd ar gael o’r bar.
Ewch allan wedyn i edmygu mawredd y castell, neu yn y pegwn arall, y tŷ lleiaf ym Mhrydain sy’n sefyll ar y cei. Mae plasty hynafol Plas Mawr hefyd yng nghanol y dref, neu beth am fentro fymryn pellach i fwynhau traeth eang Morfa Conwy neu’r wledd o liwiau sydd yng Ngerddi Bodnant drwy’r flwyddyn gron.
Tremfan Hall, Llanbedrog
Hen blasty ydy Tremfan Hall sy’n sefyll uwchben traeth Llanbedrog yn Llŷn, gan roi golygfeydd godidog o Fae Ceredigion a chopaon Eryri.
Er bod y cynnyrch yn Gymreig ac yn lleol – a hwnnw’n cynnwys arlwy Cwrw Llŷn o’r bar – mae rhywfaint o flas Ffrengig i’r fwydlen. Ond bob dydd Sul, mae’r cinio traddodiadol yn sicr o ddod â dŵr i’r dannedd, gyda’r dewis yn helaeth a swmpus. Mae bwydydd fel stêc, byrgers, cyrris a physgod hefyd yn aml ar gael.
Ganol gaeaf, bydd tân i’ch cynhesu yn y lolfa, tra bo’r gerddi yn atyniad ynddyn nhw’u hunain. Mae Cylchdaith Llanbedrog wedyn yn llwybr braf sy’n eich tywys o amgylch Mynydd Tir-y-cwmwd. Fan hyn fe gewch chi grwydro traeth Llanbedrog, dringo at gerflun enwog y Dyn Haearn, cyn dychwelyd i Blas Glyn y Weddw, sef oriel gelf hynaf Cymru.
Picadilly Inn, Caerwys
Dyma dafarn gartrefol a chysurus, a’r tân mawr yn ychwanegu at y croeso.
Er bod yr adloniant byw ar nosweithiau Gwener a Sadwrn yn denu’r tyrfaoedd – gyda bandiau lleol yn serennu – y cinio dydd Sul, heb os, ydy uchafbwynt wythnos y Picadilly Inn. Mae'r bwyty'n enwog am ei bwdinau Swydd Efrog anferthol yn ogystal â'i bwdinau melys moethus.
Mae llawer o’r cynnyrch yn lleol, a’r arlwy’n cynnwys cwrw Bragdy Conwy. Mae croeso i gŵn yma hefyd. Yn wir, mae bwydlen arbennig ar eu cyfer, a honno’n cynnwys cinio rhost!
Er bod naws pentref i Gaerwys, tref ydy hi go iawn, a honno’n cael ei henwi fel tref farchnad yn Llyfr Dydd y Farn. Ewch i grwydro’r strydoedd hynafol ar ôl eich pryd, neu dilynwch y daith i Lyn Ysgeifiog, sy’n lle hynod brydferth yng nghanol cefn gwlad.