Mae gan Gymru fwy na digon o gwrw i fodloni syched yr yfwr mwyaf anturus hyd yn oed! Ar hyn o bryd mae tua naw deg o fragdai yng Nghymru, rhai yn hŷn na chant oed, ond llawer ohonynt wedi’u sefydlu fel rhan o chwyldro cwrw crefft y ddegawd ddiwethaf. Dyma'r sin gwrw Cymreig fodern.
Bragdai yng Ngogledd Cymru
Un o’r llefydd gorau i yfed cwrw Cymreig yw’r tafarndai micro niferus sydd wedi tyfu o gwmpas y wlad yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae tafarndai micro fel arfer yn llefydd bach lle gallwch gael sgwrs gyfeillgar, byrbrydau bar syml a digonedd o gwrw lleol.
Yn ddiweddar, enwir Mold Alehouse yn dafarn orau Cymru yng nghystadleuaeth flynyddol Tafarn y Flwyddyn CAMRA. Wedi’i lleoli yng nghanol tref farchnad yr Wyddgrug, mewn adeilad rhestredig Gradd 2, mae’r dafarn ficro hon yn gweini detholiad gwych o gwrw. Cadwch lygad am gwrw gan ffefrynnau lleol, gan gynnwys Polly’s Brew Co. a Geipel Brewing. Yn enwog am eu cwrw cyfoes, Polly’s yw’r bragdy Cymreig sydd â’r sgôr uchaf ar y wefan sgorio ddylanwadol, Untappd, tra bod Geipel yn arbenigo mewn cynhyrchu lager gan ddefnyddio dŵr wedi’i dynnu o’i dwll turio ei hun.
Llandudno yw cartref Wild Horse Brewing Co., bragdy sy’n cael ei ganmol am ei amrywiaeth o gwrw modern gan gynnwys Nokota New England IPA sydd wedi’i ddisgrifio gan yr awdur cwrw, Adrian Tierney-Jones – a aned yn Llandudno – fel ‘cwrw sy'n canu ar y daflod fel côr mewn Eisteddfod'! Gallwch brynu’r cwrw’n uniongyrchol o siop y bragdy, neu rydych chi’n debygol iawn o ddod ar ei draws yn nhafarn ficro’r dref, Tapps, sydd wedi ennill sawl gwobr.
Mae Bragdy Mŵs Piws wedi bod yn bragu cwrw traddodiadol yn nhref harbwr Porthmadog ers 2005. Mae wedi’i enwi ar ôl chwedl y mŵs piws - a oedd yn crwydro godre Eryri ganrifoedd yn ôl gyda ffwr piws ar ôl bwyta grug yn ôl y sôn. Gallwch yfed cwrw Mŵs Piws yn nhafarn The Australia ar Stryd Fawr Porthmadog, sy’n ystafell dap i'r bragdy, neu yn Albion Ale House Conwy, menter ar y cyd rhwng Mŵs Piws a thri bragdy arall: Snowdon Craft, Nant a Conwy. Mae llawer o’i nodweddion gwreiddiol o’r 1920au i’w gweld tu mewn ac mae hynny, ynghyd â dewis gwych o gwrw Cymreig, yn golygu bod yn werth i chi ymweld.
Bedair milltir o droed Yr Wyddfa mae tafarn Snowdonia Parc. Mae'r microfragdy ar y safle’n cynhyrchu cwrw casgen traddodiadol sydd, oherwydd ei leoliad ger gorsaf Waunfawr, yn gallu cael ei yfed wrth wylio trenau stêm Rheilffordd Ucheldir Cymru yn pwffio heibio.
Os hoffech roi cynnig ar ambell leoliad yfed gwahanol heb fod angen gyrru, mae’r Ale Trail Company yn cynnig taith fws o amgylch tafarndai Eryri. Unwaith y byddwch wedi archebu’ch tocyn, gallwch ddechrau a gorffen mewn unrhyw dafarn ar hyd y llwybr drwy neidio ar ac oddi ar y bysiau sy’n mynd heibio’n rheolaidd ar ddiwrnodau teithiau.
Os ydych yn cerdded ar hyd Llwybr yr Arfordir o amgylch Pen Llŷn, mae Cwrw Llŷn, ym mhentref deniadol Nefyn, yn fan gorffwys perffaith. Mae'r ystafell dap ar agor bron bob dydd ac mae ganddi ffenestr wylio lle gallwch wylio'r cwrw'n cael ei wneud wrth i chi yfed. Mae teithiau o gwmpas y bragdy hefyd ar gael trwy gydol yr wythnos.
Darllenwch fwy: Edrychwch ar y llwybrau gwych hyn ar gyfer teithiau cerdded tafarndai i gael ysbrydoliaeth ar gyfer taith gerdded gyda pheint ar ei diwedd.
Bragdai yn y Canolbarth
Saif tref Trefaldwyn, ac olion ei chastell o'r drydedd ganrif ar ddeg, tua milltir o'r ffin rhwng Cymru a Lloegr. Yno, yn 2009, sefydlwyd Monty’s Brewery gan y pâr priod, Russ a Pam Honeyman. Mae'r bragdy'n cynhyrchu detholiad o gwrw wedi'i gyflyru, mewn poteli a chasgenni, ac mae'n cynnig teithiau wedi'u trefnu ymlaen llaw.
Ychydig filltiroedd i ffwrdd yn y Drenewydd, mae Wilderness Brewery yn cynhyrchu peth o’r cwrw mwyaf diddorol sydd i’w gael. Mae’r cwrw – sy’n cael ei becynnu mewn caniau hardd a photeli i’w rhannu – yn gwrw ‘ffermdy’ modern, y mae llawer ohonynt wedi’u haeddfedu mewn casgen neu’n sur, ac mae rhai ohonynt yn cynnwys cynhwysion tymhorol fel mêl gwyllt neu eirin lleol. Chwiliwch am eu cwrw mewn bariau a siopau cwrw, fel Pop’n’Hops Caerdydd.
Llanwrtyd yw tref leiaf Cymru, ac yno mae Heart of Wales Brewery mewn hen stabl y tu ôl i Westy’r Neuadd Arms. Mae’r bragdy’n cynhyrchu cwrw go iawn traddodiadol gan ddefnyddio dŵr Cambriaidd pur o’u twll turio eu hunain ac, os ydych chi eisiau aros, mae llety ar gael yn yr ardal a Mynyddoedd Cambria ar garreg y drws.
Bragdai yng Ngorllewin Cymru
Mae Bluestone Brewing Co. wedi'i leoli ar fferm ym Mryniau'r Preseli, lle mae'r ystafell dap ar y safle’n cynnal digwyddiadau cerddoriaeth fyw a chomedi rheolaidd trwy gydol y flwyddyn. Dim ond rhyw bum milltir i lawr y ffordd, mae Gwaun Valley yn ficrofragdy traddodiadol llwyddiannus sy'n cynhyrchu cwrw go iawn ac wedi ennill gwobrau. Maent hefyd yn cynnal sesiynau cerddoriaeth acwstig rheolaidd.
Bragdy Felinfoel, ger Llanelli, yw bragdy hynaf Cymru. Wedi’i sefydlu ym 1878, mae’n adnabyddus am ei Double Dragon, Cwrw Cymreig o’r radd flaenaf, y mae’r bragdy’n ei hawlio’n falch fel ‘Cwrw Cenedlaethol Cymru’. Ym 1935, wedi’i ysbrydoli gan ddiwydiant tunplat Cymru, daeth yn un o’r bragdai cyntaf yn y byd i becynnu cwrw mewn caniau. Gellir dod o hyd i gwrw Felinfoel mewn nifer o dafarndai ar draws de a gorllewin Cymru.
Mae Gower Brewery yn cynhyrchu detholiad craidd o gwrw traddodiadol ac amrywiaeth mwy newydd sy’n canolbwyntio mwy ar ‘grefft’ o’r enw ‘Gower Brews’. Mae teithiau ar gael sy’n gorffen gyda sesiynau blasu cwrw yn y bragdy. Os ydych yn aros dros nos yn Abertawe, gallwch hefyd fynd ar daith o gwmpas Tomos Watkin Brewery i gael cipolwg ar y broses fragu a sesiwn flasu yn yr ystafell dap breifat, neu gofrestru ar gyfer taith gerdded UK Brewery Tours o amgylch rhai o’r lleoliadau cwrw crefft annibynnol sydd gan y ddinas i'w cynnig.
Bragdai yn Ne Cymru
Mae S.A. Brain yn enw sy'n gysylltiedig â phrifddinas y genedl ers amser maith. Wedi'i sefydlu ym 1882, mae Bragdy Brains bellach wedi'i leoli ym mragdy pwrpasol Dragon ym Mae Caerdydd, safle sy'n gallu cynhyrchu 20 miliwn peint y flwyddyn. Gallwch ddod o hyd i gwrw Brains ar draws y ddinas, gan gynnwys yn nhafarn draddodiadol y City Arms, tafarn sy’n cael ei disgrifio fel ‘paradwys i rai sy’n caru cwrw’. Ac os oes awydd arnoch i archwilio mwy o dai cwrw da, mae UK Brewery Tours yn cynnig taith gerdded Blasu Cwrw Caerdydd sy’n cynnwys rhai o fariau cwrw crefft ac ystafelloedd tap y ddinas, gan roi amser i flasu ym mhob un.
Mae The Ale Trail Company yn cynnig teithiau tafarn ar fws trwy Fro Morgannwg. Mae'r llwybr yn caniatáu i yfwyr flasu hyd at ddeg o dafarndai a microfragdai a ddewiswyd yn arbennig heb fod angen gyrru. Mae’n ffordd wych o gael blas ar gwrw Cymreig a thirwedd Cymru.
Mae Rhymney Brewery ym Mlaenafon, sy’n Safle Treftadaeth y Byd UNESCO sy’n gartref i Waith Haearn Blaenafon ac Amgueddfa Lofaol Cymru Big Pit. Mae gan y bragdy ei ganolfan ymwelwyr ei hun lle gallwch gael cwrw neu hyd yn oed weld comedi byw, tra yn Kingstone Brewery yn Nhyndyrn gallwch fynd ar daith, ymuno â sesiwn flasu, neu hyd yn oed ddod yn fragwr am ddiwrnod.
Draw yng Nghasnewydd, mae’r bragdy Cymreig cyntaf i hawlio’r teitl poblogaidd Pencampwr Cwrw Prydain, Tiny Rebel, wedi bod yn bragu cwrw unigryw ers 2012. Gallwch flasu cwrw fel eu cwrw golau blas toesen jam, cwrw du malws melys, neu eu cwrw coch Cwtch llwyddiannus yn y bragdy neu ym mariau Tiny Rebel yng Nghasnewydd a Chaerdydd.
Gwyliau cwrw Cymru
Cynhelir Gŵyl Gwrw Canolbarth Cymru bob Tachwedd yn nhref fechan Llanwrtyd. Mae dros 100 cwrw ar gael yn ystod yr ŵyl 10 diwrnod. Mae Real Ale Wobble (i feicwyr mynydd) yn cael eu cynnal yn ystod wythnos yr ŵyl hefyd, ac yn cynnwys llwybrau o wahanol hyd, gyda siecbwyntiau yn cynnwys bwyd ac, wrth gwrs, cwrw go iawn.
Yn ‘ŵyl o fewn gŵyl’, mae Gŵyl Cwrw a Seidr Cymru yn rhan o Ŵyl y Dyn Gwyrdd a gynhelir bob mis Awst ger tref fechan Crucywel ym Mannau Brycheiniog. Yn ogystal â dros 100 cwrw Cymreig, gall ymwelwyr fwynhau cerddoriaeth a chelfyddyd yn y digwyddiad hynod boblogaidd hwn.
Cynhelir Gŵyl Cwrw ar y Cledrau yn gynnar yn yr haf yng ngorsaf reilffordd hanesyddol Dinas ger Caernarfon. Yn rhan o Reilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldir Cymru, gall ymwelwyr fwynhau’r trenau stêm tra’n blasu cwrw gorau Cymru.
Mewn gwlad sy’n cyfuno chwedlau ag arloesedd yn ddiymdrech, nid yw’n syndod bod sin gwrw sydd wedi’i gwreiddio yn y ddau yn ffynnu. O fragwyr bach sy’n gwneud cwrw ar gyfer eu cwsmeriaid yn unig, i frandiau a gydnabyddir yn rhyngwladol, i fragwyr modern, creadigol sy’n gwthio ffiniau’r hyn y gall cwrw fod, ni fu cwrw Cymreig erioed mor amrywiol, mor gyffrous, ac mor flasus!