Mae’r bêl gan y canolwr. Mae’n pasio i’r asgellwr. Mae’r asgellwr yn plymio i lawr y cae, yn osgoi un, dwy, tair tacl, ac yna crash! Mae metel yn taro yn erbyn metel wrth i’r chwaraewr gael ei hyrddio i’r llawr.
Yn llawn egni ac o bosibl yn hyd yn oed fwy ffyrnig na’r gêm ar y glaswellt, mae rygbi cadair olwyn yn ddim ond un o’r danteithion sydd ar gynnig i wylwyr yn ystod Gŵyl Para Chwaraeon wythnos o hyd Abertawe, lle daw athletwyr o Gymru a thu hwnt i frwydro yn erbyn ei gilydd ar drac, cae a chwrt.
Ond ar ben hynny, mae amcan yr ŵyl i ysbrydoli pobl ifanc a meithrin cymryd rhan yr un mor bwysig. Ac felly mae nifer o gyfleoedd i bob ymwelydd ymroi i’r ŵyl, a chyfle i gyfarfod nifer o bara-athletwyr sy’n gallu tystio i bŵer chwaraeon fel ffordd o drawsnewid bywydau.
Gwledd o chwaraeon
Bellach yn ddyddiad newydd i’r calendr chwaraeon yng Nghymru, mae’r digwyddiad blynyddol yn cael ei gynnal dros wythnos yn gynnar yn yr haf. Mae’n cynnig cymysgedd o ornestau cystadleuol a gwersi i ddechreuwyr, i gyd yn digwydd o amgylch dinas Abertawe, o’r cae criced hanesyddol i’r iard longau o’r 19eg ganrif.
Mae diwrnodau cyntaf yr ŵyl, a gynhaliwyd yn llwyddiannus am y tro cyntaf yn ystod haf 2022, yn ymroi i sesiynau blasu ar dros 20 math o chwaraeon. Yn amrywio o golff i griced i karate, mae hyfforddwyr proffesiynol wrth law i ddarparu cymorth ac anogaeth i unrhyw newydd-ddyfodiaid nerfus. Mae’r hyfforddwyr hyn hefyd yn cadw golwg am sêr y dyfodol – fel Beth Munro, a aeth o fynychu dosbarth dechreuwyr taekwondo mewn digwyddiad tebyg yng ngogledd Cymru i fod yn enillydd medal Para-olympaidd yn y gamp o fewn 18 mis!
Yna mae’n bryd i’r athletwyr proffesiynol gael llwyfan, â thwrnamentau bach yn cael eu cynnal mewn chwaraeon fel rygbi saith bob ochr i bobl fyddar, a rhwyfo tu mewn, ochr yn ochr â nifer o rasys dygnwch addas i’r mynychwyr sydd yno i wylio. Yn 2022, roedd hyn yn cynnwys cymal o Gyfres Para Triathlon y Byd, a ddaeth â chystadleuwyr elît o bob cwr o’r byd i ail ddinas Cymru.
Sesiynau blasu all newid eich bywyd
Er mwyn gweld cymaint o effaith y gall sesiynau i ddechreuwyr ei gael – yn union fel y rhai hynny sy’n cael eu cynnal yn ystod Gŵyl Para Chwaraeon Abertawe – does dim ond rhaid edrych ar rywun fel Kyran Bishop, seren rygbi cadair olwyn Cymru.
Yn fachgen ifanc anfodlon, gwylio’r teledu a bwyta oedd prif ddiddordebau Kyran. Ond wrth fynychu un sesiwn blasu chwaraeon, fe newidiodd cyfeiriad ei fywyd.
‘Doeddwn i erioed yn meddwl fod chwaraeon yn rhywbeth i mi, ond â disgwyliadau isel fe es i i ddigwyddiad blasu, ac fe newidiodd fy mywyd i’n llwyr,’ meddai Kyran. ‘Rydw i wedi mynd o fod heb unrhyw amcanion mewn bywyd i fod eisiau bod y chwaraewr Rygbi Cadair Olwyn gorau y galla’ i fod.’
Ac i gau’r cylch yn daclus, roedd Kyran yn un o’r athletwyr proffesiynol oedd yn ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf o chwaraewyr yn Ngŵyl gyntaf Para Chwaraeon 2022, lle cafodd ei ddewis i chwarae i’w dîm, Y Gweilch, yn Mhencampwriaeth Agored Rygbi Cadair Olwyn Cymru.
KYRAN BISHOPDoeddwn i erioed yn meddwl fod chwaraeon yn rhywbeth i mi, ond â disgwyliadau isel fe es i i ddigwyddiad blasu, ac fe newidiodd fy mywyd i’n llwyr. Rydw i wedi mynd o fod heb unrhyw amcanion mewn bywyd i fod eisiau bod y chwaraewr Rygbi Cadair Olwyn gorau y galla’ i fod."
Stori debyg sydd gan athletwr arall o Abertawe, David Smith OBE, sy’n credu bod cael ei gyflwyno i boccia (yn debyg i’r gêm Ffrengig, boules) o oedran ifanc wedi agor drysau i brofiadau a chyfleoedd na fyddai wedi cael y cyfle i’w profi fel arall.
‘Yn yr ysgol, roedd rhai yn dweud wrtha’ i na fyddwn i o reidrwydd yn dda ar unrhyw chwaraeon gan fy mod i’n rhy anabl,’ meddai David. ‘Ond fe es i i ddigwyddiad Gemau Ieuenctid Cenedlaethol a rhoi cynnig ar boccia. I ddechrau, doeddwn i’n da i ddim. Ond fe wnaeth pethau wella!’
A dweud y gwir, fe wnaeth pethau wella yn sylweddol. O fewn rhai blynyddoedd roedd David y pencampwr cenedlaethol ieuengaf erioed yn y gamp. Bedair blynedd yn ddiweddarach, roedd yn bencampwr byd. Yna, yn 2008, fe gymhwysodd ar gyfer y Gemau Para-olympaidd yn Beijing, Tseina, ac ennill y fedal aur yn y gystadleuaeth tîm.
‘Rhoddodd boccia gyfleoedd, hyder a’r gallu i edrych tuag allan i mi. Hebddo, gallai fy myd i fod wedi bod mor gyfyng ag ychydig filltiroedd tu draw i fy nrws ffrynt,’ ychwanega David.
Atyniadau hygyrch yn Abertawe a thu hwnt
Tu hwnt i’r Ŵyl Para Chwaraeon, mae Abertawe yn ymfalchïo yn eu hatyniadau hygyrch niferus i ymwelwyr, o Amgueddfa Genedlaethol y Glannau sydd â mynediad am ddim ac sy’n lleoliad addas i gadeiriau olwyn wrth iddo adrodd hanes treftadaeth ddiwydiannol Cymru drwy arddangosfeydd lle mae braille ar gael, i Theatr y Grand, gofod perfformio hardd o oes Fictoria sy’n cynnal sioeau â sain ddisgrifio, iaith arwyddion a chapsiynau.
Ond i David Smith, un o atyniadau awyr agored Abertawe sydd ar frig ei restr ef o bethau i’w gwneud yn y ddinas.
‘Rydw i’n hoffi llwybr arfordir Bae Abertawe oherwydd mae fel petai’n ddiderfyn,’ meddai David. ‘Gallaf i gyrraedd yr holl ffordd i lawr i’r Mwmbwls, er mae batri fy nghadair yn para tua 16 milltir ac felly cael a chael fyddai gallu dod yn ôl adre!’
Mae Kyran, ar y llaw arall, yn cael ei dynnu at atyniadau bwyd y brifddinas, y mae modd ei chyrraedd â trên uniongyrchol o Abertawe.
‘Mae Caerdydd yn ddinas anhygoel. Mae’r bwytai yn wych ac mae wedi ei addasu’n dda ar gyfer ymwelwyr sydd â phroblemau hygyrchedd,’ meddai Kyran, ‘ac yn y canol mae un o fy hoff lefydd yn y byd, Stadiwm y Principality.’
Caiff Stadiwm y Principality ei adnabod fel cartref rygbi Cymru a bydd yn gartref hefyd i Bencampwriaeth Rygbi Cadair Olwyn Ewrop am y tro cyntaf ym mis Mai 2023, digwyddiad y mae Kyran yn mynd i fod yn cymryd rhan ynddo. Ddim yn rhy ddrwg am rywun oedd yn meddwl nad oedd chwaraeon yn rhywbeth iddo ef!
‘Mae’r Ŵyl Para Chwaraeon wir yn ddigwyddiad gwych a hwyliog,’ meddai Kyran, ‘Mae hefyd yn gyfle arbennig i bobl sydd erioed wedi rhoi cynnig ar chwaraeon o’r blaen i ddod i roi tro arni – os gallaf i wneud, fe allwch chithau hefyd.’