Gŵyl NAWR, Abertawe
I'w gadarnhau. Gŵyl un diwrnod o gerddoriaeth arbrofol yn Tŷ Tawe, Abertawe, wedi ei drefnu gan Menter Iaith Abertawe.
Darllen mwy: Llefydd i’w gweld a phethau i’w gwneud yn Abertawe
Ffair Aeaf Môn, Ynys Môn
08 - 09 Tachwedd 2025. Cynhelir Ffair Aeaf Môn ar faes Sioe Môn, gyda phenwythnos o dda byw, ceffylau ac arddangoswyr cynnyrch. Bydd stondinau crefft, peiriannau a sioe gŵn hefyd, yn ogystal â chystadlaethau plant.
Marchnad Nadolig a Gŵyl y Gaeaf Caerdydd
I'w gadarnhau. Cynhelir Marchnad Nadolig Caerdydd ar Stryd Sant Ioan, Stryd y Gweithle, yr Aes, Stryd Hills a Stryd y Drindod. Mae'n cynnwys cymysgedd cyffrous ac eclectig o arddangoswyr newydd a rhai sy'n dychwelyd yn flynyddol gyda'u gwaith gwreiddiol wedi'i wneud â llaw.
I'w gadarnhau. Mwynhewch sglefrio iâ a reidiau hwyl gan gynnwys yr Olwyn Fawr yng nghanol ein prifddinas. Mae Gŵyl y Gaeaf Caerdydd yn digwydd yng Nghastell Caerdydd a lawnt Neuadd y Ddinas.

Gwledd y Gaeaf ar y Glannau, Abertawe
I'w gadarnhau. Caiff Parc yr Amgueddfa ei drawsnewid yn Wledd y Gaeaf ar y Glannau ar gyfer tymor yr ŵyl gyda safle sglefrio iâ dan do, llwybr iâ awyr agored a phentref Alpaidd gyda bwyd a diod Nadoligaidd.
Llwybr Goleuadau Luminate Wales, Parc Margam
I'w gadarnhau. Taith hudolus trwy gerddi a chastell Parc Gwledig Margam. Dilynwch llwybr milltir o hyd Luminate Wales, gyda gosodiadau golau syfrdanol ac elfennau rhyngweithiol gwych i'r plant.


Mwy o ddigwyddiadau ym mis Tachwedd
14 - 16 Tachwedd 2025. Gŵyl Blues Dinbych y Pysgod, Sir Benfro
16 Tachwedd 2025. Hanner Marathon Conwy
I'w gadarnhau. Ffair Aeaf Y Sioe Frenhinol, Llanelwedd