Mae’n amser llosgi ychydig o’r chwe biliwn calori – dyna’r amcan, beth bynnag – a fwytawyd gennych dros gyfnod y Nadolig drwy fynd i nofio yn y môr, waeth pa mor oer. Bydd miloedd ohonom yn cymryd rhan mewn sesiynau nofio elusennol ar Ddydd Nadolig, Gŵyl San Steffan a Dydd Calan ledled Cymru.
Nofio Dydd Nadolig Porthcawl
Syniad aelodau o blith y Siambr Fasnach leol feddyliodd am gynnal y digwyddiad blynyddol hwn yn 1965. Y cynllun oedd y byddai un ohonynt (mewn gwisg Coco’r Clown) yn gwthio’i gyd-aelod (wedi’i wisgo fel Siôn Corn) oddi ar y pier. Roedd y bobl leol wedi mwynhau’r achlysur i’r fath raddau fel bod dros fil a mwy o nofwyr yn cymryd rhan erbyn heddiw, gan godi miloedd o bunnoedd i achosion da lleol. Mae gwisg ffansi’n parhau i fod yn ddewis poblogaidd.
Pryd: 25 Rhagfyr, cofrestru 10.30am, nofio 11.15am
Ble: Traeth Porthcawl, Pen-y-bont ar Ogwr
Edrychwch ar dudalen Facebook Porthcawl Christmas Day Swim am ragor o wybodaeth.
Nofio Gŵyl San Steffan Dinbych-y-pysgod
Dyma achlysur nofio arall sydd wedi bod yn digwydd am amser maith – ers pum degawd ar Draeth y Gogledd (yr un â’r graig fawr). Bydd rhyw 700 o nofwyr yn cymryd rhan, gyda miloedd llai dewr yn eu cymeradwyo. Mae’r hwyl ar y traeth yn dechrau am 11am gyda ras ganŵ, ras rafftiau gwallgo a gorymdaith gwisg ffansi. Cyhoeddir y ras am y môr am 11.30am, a gall nofwyr edrych ymlaen at fwynhau coelcerth ar y traeth, cawl poeth a medal i gofio ar ôl dod o’r dŵr.
Pryd: 26 Rhagfyr, o 11am
Ble: Traeth y Gogledd, Dinbych-y-pysgod, Sir Benfro
Dysgwch fwy am nofiad Gŵyl San Steffan Dinbych-y-pysgod.
Nofiad Gŵyl San Steffan Clwb Llewod Llandudno
Mae gwobrau ar gael i’r person dewr cyntaf i fynd i’r dŵr, a hefyd i’r wisg ffansi orau yn y digwyddiad blynyddol poblogaidd hwn. Fel arfer bydd y dŵr tua 9°C, ond dylai bowlen o gawl poeth yn ôl yng Ngwesty San Siôr adfer yr hwyl.
Pryd: 26 Rhagfyr, cofrestru erbyn 10am, nofio 11.30am
Ble: Gwesty San Siôr, Llandudno
Dysgwch fwy am nofiad Gŵyl San Steffan Clwb Llewod Llandudno.
Trochfa'r Tymor Parc Gwledig Pen-bre
Cynhelir Trochfa'r Tymor / Nofiad Walrws blynyddol ar draeth eang Cefn Sidan a’i dwyni maith. Anogir yn gryf eich bod yn gwisgo gwisg ffansi, a dylai nofwyr gyrraedd mewn da bryd – mae’r llanw’n mynd allan yn bell yma, felly gallai gymryd 10 munud i gyrraedd lan y dŵr. Bu’n rhaid canslo’r digwyddiad yma unwaith am fod y môr wedi rhewi!
Pryd: 26 Rhagfyr, mae angen bod wrth y llinell ddechrau ar gyfer nofio am 10:30am
Ble: Cefn Sidan, Sir Gaerfyrddin
Dysgwch fwy am nofiad Walrws Parc Gwledig Pen-bre.
Nofiad Dydd Calan y Maer
Clwb Cychod Trefdraeth yn Sir Benfro sy’n eich gwahodd i fentro i ddyfroedd rhewllyd yr aber yn y Parrog – ac ydy, mae’r Maer yn cymryd rhan. Diolch byth, does ond rhaid sgrialu’n ôl i fyny’r llithrfa gychod i gael mygiad o gawl a chawod dwym yn y Clwb Cychod.
Pryd: 1 Ionawr, canol dydd
Ble: Parrog, Sir Benfro, Gorllewin Cymru
Dysgwch fwy am nofiad Dydd Calan Y Maer – manylion i’w cadarnhau.
Nofiad Dydd Calan RNLI Porthdinllaen
O bob trochfa gaeafol, efallai mai dyma’r un harddaf. Fe’i cynhelir ar y traeth ar benrhyn Porthdinllaen, ble cafodd y dafarn leol, Tŷ Coch, ei henwi droeon fel un o dafarndai gorau’r byd.
Pryd: 1 Ionawr, 11.00am
Ble: Morfa Nefyn, Pen Llŷn
Dysgwch fwy am nofiad Dydd Calan RNLI Porthdinllaen ar eu tudalen Facebook.
Nofiad Dydd Calan Saundersfoot
Mae’r achlysur hwn fel pe’n mynd yn fwy o beth bob blwyddyn – yn 2017 roedd dros 1,800 yn cymryd rhan! Cafodd y torfeydd eu diddanu gan y Cold Cup (ras geffylau gwisg ffansi dros rwystrau ar gyfer timau o’r tafarndai lleol), tân gwyllt a sesiwn ddawnsio fawr i gynhesu. Ymysg timau’r gorffennol i ennill gyda gwisg ffansi roedd tîm o ryfelwyr a gyrhaeddodd y traeth y tu mewn i Geffyl Caerdroea pren enfawr. O ran y nofio, mae’r rheolau’n datgan yn glir: “Rhaid i’ch pen fynd o dan y dŵr! Ond os ydych yn 80+, ni fyddem ni’n disgwyl i chi fynd ymhellach na’ch pengliniau.”!
Pryd: 1 Ionawr, 11.30am - nofio am 2.00pm
Ble: Traeth Saundersfoot, Sir Benfro
Dysgwch fwy am nofiad Dydd Calan Saundersfoot.
Nofiad Elusennol Dydd Calan Traeth Mawr
Cynhelir y nofiad blynyddol hwn ar Draeth Mawr, llecyn syrffio poblogaidd ym mhen mwyaf gorllewinol Cymru, gan sefydliad elusennol lleol, Clwb Penknife Tyddewi. Pan fydd eich dannedd yn rhoi’r gorau i glecian, gallwch ddechrau gwerthfawrogi’r golygfeydd bendigedig.
Pryd: 1 Ionawr, cofrestru am 11am, nofio am hanner dydd.
Ble: Traeth Mawr, Sir Benfro
Dysgwch fwy am nofiad Elusennol Dydd Calan Traeth Mawr.