Beth yw Geoparc Byd-eang UNESCO?
Mae enw'r parciau hyn sy'n cael eu cydnabod yn fyd-eang yn cynnig syniad i'r hyn sy'n eu gwneud mor arbennig. Yn syml iawn, maen nhw’n fannau o bwysigrwydd daearegol eithriadol. Mae hynny’n golygu bod gan y creigiau o dan eich traed pan fyddwch chi’n sefyll ar draeth neu mewn parcdir, a’r rhai uwch eich pen ar ffurf clogwyni a chopaon stori bwysig i’w hadrodd am hanes y tir, y planhigion a’r anifeiliaid sydd wedi’i ddefnyddio a sut rydym ni’n ffitio i mewn i'r darlun. Ar hyn o bryd mae 177 Geoparc mewn 46 o wledydd ledled y byd, ac yma yng Nghymru, rydyn ni'n lwcus i gael dwy enghraifft ysblennydd: Y Fforest Fawr a GeoMôn.
Ond mae Geoparciau yn ymwneud â mwy na chreigiau yn unig, maen nhw'n ymwneud â straeon: hanes, amser, pobl, a diwydiant. Maen nhw'n canolbwyntio ar gymunedau lleol a thwristiaeth gynaliadwy, a sut rydyn ni fel teithwyr cyfrifol yn cael ein cysylltu â'r byd o'n cwmpas. Hefyd, diolch i'r amrywiaeth enfawr o weithgareddau a golygfeydd maen nhw'n gwneud llefydd gwych ar gyfer teithiau dydd, gwibdeithiau penwythnos a gwyliau estynedig.
Mae gan Gymru bedwar Safle Treftadaeth y Byd UNESCO trawiadol hefyd, gan gynnwys ein safle mwyaf newydd, Tirwedd Llechi Gogledd-orllewin Cymru. Ac rydyn ni’n falch o fod yn gartref i'r unigryw a'r hardd Biosffer Dyfi UNESCO yn y Canolbarth.
Geoparc GeoMôn
Beth yw e?
Mae GeoMôn yn gorchuddio holl dir, Ynys Môn yng Ngogledd Cymru. Mae gan GeoMôn rai o'r creigiau hynaf yn y DU, o draethau â ffosilau 860 miliwn o flynyddoedd oed i glustogau lafa rhyfedd (creigiau folcanig siâp y clustogau ar eich gwely). Mae’r geowyddonydd a chadeirydd ymddiriedolwyr GeoMôn, yr Athro Colin Jago yn dweud, 'Mae'r creigiau yma yn wers hanes o ran sut mae'r ddaear yn gweithio. Maen nhw'n dweud wrthym am ddigwyddiadau mawr yn y gorffennol o hyd at 500 i 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl neu fwy. Wrth grwydro o gwmpas ac edrych ar y creigiau yn GeoMôn, gallwch chi weld tystiolaeth o’r adeg pan oedd Ynys Môn yn anialwch heb law, neu pan oedd yr ynys yn ardal drofannol hyfryd gyda riffiau cwrel, neu adeg pan oedd wedi'i gorchuddio â chilometrau o haenau iâ trwchus.'
Beth alla i wneud yno?
Diolch i ddaeareg Môn a’r ffaith ei bod yn gymharol fach, gallech chi weld y Geoparc mewn diwrnod, ond gofynnwch i unrhyw un lleol a byddan nhw’n argymell mai'r peth gorau yw peidio â rhuthro wrth hela creigiau. Dechreuwch yn yr enwog Ynys Lawd lle mae'r goleudy llachar-wen wedi bod yn rhybuddio morwyr oddi ar y creigiau hanesyddol ers dros 200 mlynedd. Unwaith y byddwch chi’n cyrraedd yr ynys, edrychwch yn ôl ar y tir mawr a’r clogwyni môr trawiadol. ‘Mae pob un o’r haenau yn chwartsitiau trwchus a gafodd eu dynodi 500 miliwn o flynyddoedd yn ôl ar wely môr cefnfor helaeth pan oedd Ynys Môn ar ledred o tua 30°S – yn agos i Dde Affrica heddiw,’ meddai’r Athro Jago.
Dylai teuluoedd a helwyr ffosiliau fynd i draethau Cemaes (arfordir y gogledd) a Thraeth Coch (arfordir y dwyrain), lle yn ogystal â mwynhau'r pyllau tywod a chreigiau, byddwch chi’n gallu dod o hyd i bob math o weddillion ffosiledig gan gynnwys cwrelau a braciopodau. Un o'r traethau tywodlyd mwyaf ar Ynys Môn yw Niwbwrch, gydag un o'r caeau twyni tywod mwyaf eang ym Mhrydain - darnau enfawr o dir fferm a gafodd ei orchuddio gan dywod yn ystod stormydd yn y 14eg ganrif. Ym mhen gogleddol y traeth, ar y gyffordd ag Ynys Llanddwyn, gallwch chi weld y lafâu clustog ysblennydd a gafodd eu creu tua 580 miliwn o flynyddoedd yn ôl pan ddaeth lafa tawdd i fyny drwy wely'r môr.
Dim ond un atyniad yw’r dirwedd naturiol yn GeoMôn, ewch i weld y mwynglawdd copr ym Mynydd Parys ger Amlwch. Ar un adeg, hon oedd gloddfa gopr fwyaf y byd. Rydych chi’n gallu gweld sut mae dyn wedi cerfio i mewn i'r graig ac ychwanegu haen arall o hanes a chymhlethdod i'r tir o'ch cwmpas. Mae'r tir anarferol yn gwneud hwn yn hoff fan i heicwyr. Tra yn Amlwch, ewch i Ganolfan ymwelwyr GeoMôn lle mae arddangosfa sy'n mynd â chi drwy 600 miliwn o flynyddoedd o fywyd Ynys Môn, gan ddangos lle’r oedd hi, sut oedd y tymheredd, sut oedd y tir yn edrych a sut y mae hinsawdd y ddaear wedi newid - ac yn parhau i wneud hynny. Gallwch chi fynd allan ar deithiau tywys gyda'r gwirfoddolwyr sy'n rhedeg y parc a chasglu taflenni a chanllawiau i'ch helpu i archwilio. Cyn mynd, mynnwch gopi o Footsteps Through Time. Mae sy’n cynnwys 14 geodeithiau darluniadol llawn i'w dilyn ar yr ynys ac yn esbonio'r ddaeareg y byddwch chi’n ei gweld yno.
Pa atyniadau eraill sydd gerllaw?
Gan fod y Geoparc yn gorchuddio'r ynys gyfan, gallwch chi rannu eich amser rhwng safleoedd daearegol a diwylliannol hynod ddiddorol. Ewch i weld peirianneg a phensaernïaeth drawiadol Pont Grog Menai neu ymweld â'r orsaf enwog yn Llanfairpwll am yr hunlun ongl lydan berffaith. Dylai anturiaethwyr brwd o bob oed fynd ar daith caiac arfordirol gyda B-Active Rhoscolyn lle byddwch chi'n teithio’n agos i glogwyni, ogofau a childraethau arfordir Môn. Am fwyd bendigedig, ewch i Borthaethwy, lle mae bwyty’r Sosban and The Old Butchers yn gwasanaethu bwydlenni seren Michelin, neu roi cynnig ar Dylan's gerllaw am rywbeth ychydig yn fwy achlysurol - maen nhw’n gweini bwyd môr a pitsas lleol ffres. Peidiwch â gadael heb brynu siyntiau cartref, sawsiau, jamiau a phiclau.
Yr Athro Colin JagoMae'r creigiau yma yn wers hanes o ran sut mae'r ddaear yn gweithio. Maen nhw'n dweud wrthym am ddigwyddiadau mawr yn y gorffennol o hyd at 500 i 600 miliwn o flynyddoedd yn ôl neu fwy."
Sut mae cyrraedd yno?
Gan fod y Geoparc yn gorchuddio'r ynys gyfan, mae’n eithaf hawdd ei gyrraedd. Bydd y ffyrdd mawr (yr A5 a'r A55), yn eich arwain i Borthaethwy lle gallwch chi groesi draw i'r ynys. Mae trenau Rheilffordd Arfordir Gogledd Cymru yn croesi Pont Britannia - wedi'u hadeiladu o galchfaen Carbonifferaidd a gafodd ei chloddio ym Mhenmon - gyda'r arosfannau yn cynnwys Llanfair PG, Bodorgan, Tŷ Croes, Rhosneigr a’r Fali.
Geoparc y Fforest Fawr
Beth yw e?
Gan ymestyn dros 300 milltir sgwâr (777 cilometr sgwâr) o ddyffryn Wysg yn y dwyrain i'r Tywi yn y gorllewin, mae Geoparc y Fforest Fawr yn gorchuddio hanner Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Mae'r dirwedd 470 miliwn o flynyddoedd oed yn anhygoel o amrywiol. Mae swyddog datblygu Geoparc, Alan Bowring yn dweud, 'Mae gennym ni Fannau Brycheiniog a'r Mynydd Du – etifeddiaeth y rhewlifoedd a'r hyn a gafodd ei adael i ni gan Oes yr Iâ. Byddwch chi'n gweld llawer o fywyd gwyllt, fel barcutiaid coch. Ond ar y cyrion deheuol, mae De Cymru, un o fannau geni'r Chwyldro Diwydiannol. Mae hynny’n golygu bod llawer o'r hen ffyrdd tram bellach yn llwybrau cerdded a beicio. Ac mae natur yn ailfeddiannu’r tirlun diwydiannol, gydag adar yn nythu ar wynebau'r chwarel a oedd 150 mlynedd yn ôl yn cyflenwi deunyddiau crai i'r byd'.
Beth alla i wneud yno?
Parc Gwledig Craig-y-nos yw'r porth i'r Geoparc o'r de-orllewin. Mae'r stad wledig 40 erw yn rhan o dir Castell Craig-y-nos hanesyddol (cyn preswylfa'r seren opera Adelina Patti) ac yn gartref i deithiau cerdded a llwybrau natur yn ogystal ag ystafell de. Mae’n gartref i Bwynt Darganfod y Geoparc hefyd - lleoliad cychwyn gwych ar gyfer mentro ymhellach i'r parc gyda gwybodaeth a chanllawiau. Mae'r llwybrau cerdded o'r fan hon yn arbennig o dda ar gyfer teuluoedd â phlant hŷn. Rhowch gynnig ar y Daith gylchol ar hyd Crib Cribarth i Fryn Cribarth. Byddwch chi’n gweld sut mae'r rhewlifoedd a dyn wedi cerfio'r calchfaen a'r tywodfaen. Mae'r rhan hon o'r parc yn adnabyddus am wylio'r sêr hefyd - cofiwch lapio'n gynnes.
Mae Geoparciau gymaint am ddiwylliant â'r tir, ac efallai mai un o'r enghreifftiau gorau o'r ddau’n mynd law yn llaw yw’r Garn Goch ger tref Bethlehem. Yma, byddwch chi’n profi un o fryngaerau mwyaf Oes yr Haearn yn Ewrop. Meddyliwch amdano fel tŵr hynafol lle byddai llu o bobl wedi byw a masnachu.
Os ydych chi’n cyrraedd y Geoparc o'r gogledd, stopiwch yn y Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol (neu Ganolfan y Mynydd) ger Libanus. Mae'r swyddogion gwybodaeth yn llawn syniadau ar gyfer gweithgareddau, o heicio i farchogaeth ceffylau, beicio i fynydda ac maen nhw’n gallu rhoi’r holl wybodaeth bwysig i chi cyn i chi ddechrau archwilio. Peidiwch â cholli Gŵyl Geoparc y Fforest Fawr, mae'n digwydd bob blwyddyn ym misoedd Mai a Mehefin ar gyfer teithiau cerdded, sgyrsiau ac arddangosfeydd. Cyn i chi fynd, lawrlwythwch yr ap Geoparc Geotours i'ch helpu i lywio a phalu'n ddyfnach i'r llefydd rydych chi'n eu darganfod.
Mae nifer o fannau enwocaf y Fforest Fawr wedi dod yn boblogaidd iawn yn ystod y blynyddoedd diwethaf, ac mae'r Geoparc yn annog ymwelwyr i ymddwyn yn gyfrifol os a phryd y byddan nhw’n ymweld. Mae mynydd Pen y Fan mawreddog a Gwlad y Sgydiau nefolaidd yw'r ddwy ardal sydd angen eu diogelu. Os ydych chi eisiau ymweld, ystyriwch fynd ar adegau llai prysur neu ymweld â lleoliadau eraill sydd yr un mor drawiadol - er mwyn helpu’r Geoparc i amddiffyn a chadw’r Altylcheddau naturiol anhygoel hyn am genedlaethau i ddod - yn ogystal â'r planhigion a'r bywyd gwyllt sy'n byw yno.
Byddwch chi'n gallu cerdded o gwmpas gweddillion y waliau amddiffynnol carreg enfawr a gweld am filltiroedd ar draws cefn gwlad - cofiwch dynnu lluniau.
Pa atyniadau eraill sydd gerllaw?
Os ydych chi eisiau dysgu mwy am greigiau (a rhai bwystfilod cyn hanesyddol) ewch i Ganolfan Genedlaethol Ogofâu Cymru. Byddwch chi’n teithio yn ôl mewn amser wrth i chi gael eich tywys drwy'r system ogofâu 10 milltir (17 cilometr) o hyd. Am rywbeth mwy ymlaciol, neidiwch ar drenau stêm Rheilffordd Mynydd Aberhonddu. Byddwch chi’n teithio mewn steil wrth Gronfa Ddwr Pontsticill cyn dringo i Dorpantau, copa'r llinell wreiddiol. Os ydych chi'n ymweld â’r Geoparc pan fydd y tywydd ychydig yn oer neu'n llaith, beth am gynhesu gydag ymweliad â'r enwog Distyllfa Penderyn a samplo’r chwisgi brag Cymreig arobryn (yn ogystal â gwirodydd deniadol eraill)?
Sut mae cyrraedd yno?
Mae llawer o ffyrdd i gyrraedd y Geoparc, ond mae Lein Calon Cymru yn rhedeg ar hyd Dyffryn Tywi gyda gorsafoedd yn Llanymddyfri, Llangadog, Llandeilo a Rhydaman. Mae trenau Mainline yn gwasanaethu Merthyr Tudful, Y Fenni ac Aberhonddu hefyd. Mae’n hawdd cyrraedd y parc gyda char, gan fod yr A40 yn rhedeg ar hyd ymyl ogleddol y Geoparc o'r Fenni i Aberhonddu, mae 'Ffordd Blaenau'r Cymoedd' yr A465 yn cofleidio'r ffin ddeheuol o Ferthyr Tudful i Ddyffryn Nedd, lle mae'n ymuno â'r M4.