Gweithio tra ar wyliau? I rai, dyna’r peth olaf ar eu meddwl. Ond, i eraill, mae gwirfoddoli fel rhan o wyliau yn apelio’n fawr, gan gynnig cyfle i ddysgu sgiliau newydd, cyfarfod â phobl o’r un meddylfryd ac, yn y pen draw, cyfrannu rhywbeth yn ôl i elusen neu’r gymuned.
Beth ydy gwyliau gwirfoddoli?
Mae gwyliau gwirfoddoli yn golygu ymgymryd â rhyw fath o waith fel rhan o ymweliad. Yn gyfnewid, gall ymwelwyr elwa o brofiadau ymarferol mewn celfyddyd sydd o ddiddordeb iddyn nhw, neu dderbyn buddion, megis llety rhad ac am ddim, sy’n helpu cadw costau’r gwyliau i lawr. Gall amrywio o ddyddiau i fisoedd, a gall dwysedd y gwaith hefyd wahaniaethu o awr neu ddwy hamddenol yn y pnawn i ddiwrnod llawn o waith caled.
Pa gyfleoedd gwirfoddoli sydd i’w cael yng Nghymru?
Mae digonedd o gyfleoedd gwirfoddol yma yng Nghymru. Pu'n ai fel rhan o becyn gwyliau, neu fel gweithgaredd i'w wneud yn eich amser eich hun yn lleol. Mae Gwirfoddoli Cymru, ynghyd â safleoedd penodol megis Workaway a WWOOF, yn adnoddau gwych i’r rhai hynny sy’n chwilio am gyfle i bori trwy’r ystod o brofiadau sydd ar gael. Ond i roi blas ichi o’r hyn sy’n cael ei gynnig, dyma flas o'r gwaith gwirfoddol y medrwch chi ei wneud yng Nghymru ar hyn o bryd...
Cadwraeth: Caru Eryri
Ydych chi wedi sylwi ar grwpiau o bobl mewn festiau oren yn trin llwybrau neu’n casglu sbwriel wrth i chi grwydro Parc Cenedlaethol Eryri? Mae’n debyg mai un o griw Cymdeithas Eryri ydy nhw - criw o wirfoddolwyr sydd wedi bod yn cynnal a chadw'r ardal ers 1967.
Mae Cymdeithas Eryri, ar y cyd â Pharc Cenedlaethol Eryri, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a sefydliadau cymunedol yn gwarchod y dirwedd sy’n cael ei effeithio gan y nifer uchel o ymwelwyr sy’n mwynhau treulio amser yn y Parc.
Mae cyfle i wirfoddolwyr ddysgu sgiliau cadwraeth arbenigol - a hynny wrth fwynhau awyr iach a chymdeithasu gyda phobl o’r un anian.
Hyd yn oed heb wirfoddoli, gallwn ni i gyd wneud ein rhan i barchu'r dirwedd. Cofiwch ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus, cadw at lwybrau, mynd â sbwriel adref gyda chi a defnyddio'r tai bach cyn mynd i grwydro’r ardal.
Adeiladu: cyfleoedd gwirfoddoli adeiladu ac adnewyddu
Mae un o’r mathau mwyaf cyffredin o wyliau gwirfoddoli yn ymwneud â phrosiectau adeiladu neu adnewyddu, lle mae ymwelwyr sy’n ystyried eu hunain yn hen lawiau ar ddefnyddio morthwyl neu frws paent, yn gweithio fel rhan o dîm i adfywio adeiladau neu adeiladweithiau, a hynny er lles y gymuned leol.
Mae’r Gymdeithas Dyfrffyrdd Mewndirol, sy’n gweithio i ddiogelu llwybrau dŵr hanesyddol Cymru, yn cynnal Gwersylloedd Camlas wythnos o hyd ledled y wlad. Gall y gwaith, sy’n medru amrywio o drwsio coredau a ddifrodwyd i ailbeintio hen lociau, olygu defnydd go helaeth o fôn braich, ond mae hefyd yn meithrin ymdeimlad o gyfeillgarwch a chwmnïaeth wrth dreulio nosweithiau fel grŵp dan gynfas neu mewn neuaddau cymunedol.


Mae prosiectau tebyg, gyda chymorth staff gwirfoddol, yn cael eu cynnal gan Mountain Bothies Association, elusen sy’n gofalu am y nifer cyfyngedig o lochesi anghysbell i gerddwyr ledled y DU. Mae Cymru’n gartref i naw o’r llochesi gwledig gwerthfawr hyn, sy’n cael eu cynnal a’u cadw o bryd i’w gilydd gan wirfoddolwyr yn ystod penwythnosau i griwiau o weithwyr, gyda’r gwirfoddolwyr yn cysgu dros nos yn y llochesi hynny.
Ar y fferm: Cyfleoedd gwirfoddoli amaethyddol
Sector arall sy’n cynnig cyfleodd gwirfoddoli poblogaidd ydy amaethyddiaeth, gyda thirfeddianwyr ledled Cymru’n gyson yn chwilio am rai sy'n barod i dorchi llewys a phrofi bywyd cefn gwlad go iawn, fel arfer yn gyfnewid am lety syml a phrydau bwyd swmpus.
Chwilio am gyfle i gamu am y tro cyntaf i fyd ffermio a choedwigaeth? Beth am ystyried lleoliad cyfnod byr ar dyddyn teuluol, fel Fferm Bronhaul yn Sir Gâr. Neu beth am brofi un o gymunedau eco-gyfeillgar Cymru, fel Ecobentref Lammas yn Sir Benfro.

Dylai unrhyw un sy'n dyheu am gael byw bywyd gwyrddach ystyried gwneud cais am un o’r lleoliadau gwirfoddoli chwe mis yn Canolfan y Dechnoleg Amgen, canolfan ymchwil ym Mhowys sy’n arddangos arferion cynaliadwy arloesol a all helpu yn y frwydr yn erbyn yr argyfwng hinsawdd. Mae gwirfoddolwyr yn ymuno un ai â’r timau garddio neu goedwigoedd, gan fyw ar y safle fel rhan o gymuned glos, ryngwladol.


Dilyn y cledrau: Cyfleoedd gwirfoddoli rheilffyrdd treftadaeth
Mae’r rheilffyrdd treftadaeth ledled Cymru’n dibynnu ar wirfoddolwyr i gadw pethau i redeg yn esmwyth. Mae Rheilffordd Ffestiniog, sy’n cysylltu Porthmadog gyda’r hen dref chwarel Blaenau Ffestiniog, yn un enghraifft o hyn, yn rheolaidd yn derbyn criwiau o wirfoddolwyr sy’n cael gweithio fel gwerthwyr tocynnau a giards yn y gorsafoedd, i griwiau o weithwyr cynnal a chadw a signalwyr. Ymysg y rheilffyrdd treftadaeth eraill sy’n croesawu gwirfoddolwyr mae Rheilffordd Llyn Tegid a Rheilffordd Treftadaeth Blaenafon.


Croesawu: Cyfleoedd gwirfoddoli lletygarwch
I’r gwirfoddolwyr sy’n well ganddyn nhw fod dan do, efallai mai helpu mewn hostel fyddai orau, er mwyn cael cyfarfod â phobl newydd, a chael digon o gyfle i wneud gweithgareddau hamdden yn ystod oriau sbâr.
Mae’r YHA (Cymdeithas Hostelau Ieuenctid), yn cynnig safleoedd ‘Gwirfoddolwr Rheolwr Hostel’ am wythnos ar y tro mewn lleoliadau ar draws Cymru, o Gonwy i Geredigion. Yn dilyn cwrs hyfforddi ar-lein, fe gaiff gwirfoddolwyr ymgymryd â thasgau megis cofrestru ymwelwyr, staffio’r dderbynfa a rhannu’r dyletswyddau glanhau, yn gyfnewid am wely rhad ac am ddim am gyfnod, ynghyd â chyllid teithio bach er mwyn gallu crwydro'r ardal gyfagos.


Hwyl yr ŵyl: Cyfleoedd gwirfoddoli mewn gwyliau a digwyddiadau
Be well na mynychu un o wyliau diwylliannol byd-enwog Cymru a chael tocyn yn rhad ac am ddim? Dyna, fel arfer, sy’n cael ei gynnig i’r rhai sy’n fodlon treulio rhan o’u hamser yn y digwyddiad yn helpu trefnwyr i sicrhau bod popeth yn rhedeg yn esmwyth.
Fe allwch ddewis gwirio tocynnau yng ngŵyl roc Steelhouse ym Mannau Brycheiniog, rheoli’r ciwiau mewn digwyddiadau barddoniaeth a llenyddiaeth Gŵyl y Gelli yn y Gelli Gandryll, neu hyd yn oed estyn cymorth i gadw trefn ar y torfeydd yn eu gwisgoedd lliwgar yn yr Elvis Festival ym Mhorthcawl. Mae pob un yn cynnig y cyfle ichi gyfarfod â phobl leol a meithrin cyfeillgarwch - mae’n ddigon posib y bydd y gwaith cystal hwyl â’r ŵyl.
Mae nifer o gyfleoedd i wirfoddoli mewn gwyliau Cymraeg ar draws y wlad hefyd - gan roi cyfle i ddysgwyr a siaradwyr newydd ymarfer yr iaith mewn modd hwyliog. Beth am wirfoddoli yn yr Eisteddfod Genedlaethol neu un o wyliau'r Mentrau Iaith fel Tafwyl, Gŵyl Canol Dre neu Gŵyl Fach y Fro?


Glanhau traeth: Cyfleoedd gwirfoddoli cadwraeth forol
Mae Cymru’n enwog am ei harfordir, boed hynny’n draethau tywodlyd euraidd yn ymestyn at y gorwel neu faeau bach caregog yn byrlymu o gregyn ac ewyn y don. Beth am helpu i ddiogelu'r harddwch ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, yn ogystal ag amddiffyn cartref y bywyd morol?
Mae'r Gymdeithas Cadwraeth Forol yn cynnal digwyddiadau rheolaidd, sy’n fyr ac yn gymdeithasol, yn glanhau traethau ar draws Cymru gan gynnwys Niwbwrch ar Ynys Môn a Bae Abertawe. Mae’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Surfers Against Sewage hefyd, o bryd i’w gilydd, yn trefnu glanhau traethau. Fel arall, gallwch gymryd rhan trwy ymweld ag un o nifer o ganolfannau Casglu Sbwriel Caru Cymru sydd i’w cael ar hyd a lled arfordir Cymru. Mae’r canolfannau hyn yn benthyg offer hel sbwriel i ymwelwyr yn rhad ac am ddim.

Troi’n wyllt: Cyfleoedd gwirfoddoli cadwraeth bywyd gwyllt
Bydd gwirfoddoli i helpu amddiffyn bywyd gwyllt cynhenid yn apelio i lawer, ac mae sawl sefydliad cadwraeth sy’n edrych am gymorth ledled Cymru.
Yn y gogledd, mae Ymddiriedolaeth Natur Gogledd Cymru bob amser yn chwilio am wirfoddolwyr ysbeidiol i helpu cynnal eu gwarchodfeydd natur, gyda thasgau megis dymchwel coed a gwirio anfeiliaid fferm ar ben y rhestr. Os ydych chi’n teimlo’n fwy cartrefol ar yr arfordir, mae Canolfan Bywyd Gwyllt Morol Bae Ceredigion yn croesawu gwirfoddolwyr tymhorol (fel arfer am fis neu ddau ar y tro) i staffio’u canolfannau croeso, cynorthwyo gyda’r rhaglenni addysgol, a chynnal arolygon o famaliaid morol.
I’r rhai hynny sy’n chwilio i ddianc yn llwyr o fwrlwm bywyd, mae Ymddiriedolaeth Natur De a Gorllewin Cymru yn recriwtio llond llaw o wirfoddolwyr i dreulio hyd at dri mis ar ynys fechan Sgomer, oddi ar arfordir Sir Benfro. Mae’r gwaith yn cynnwys monitro bywyd gwyllt megis adar pâl a morloi.

