Yn gartref i rywfaint o awyr gliriaf, mwyaf disglair y nos yn y DU a llu o atyniadau sy’n addas i’r teulu ar thema’r gofod, mae Cymru llawn anturiaethau i blant sydd â diddordeb mewn pethau sy’n ymwneud â sêr. Dyma ein detholiad o atyniadau sy'n berffaith ar gyfer teithwyr ifanc sydd wrth eu bod â’r gofod a'r sêr.
Ble i syllu ar sêr
Mae seryddwyr yn parchu Cymru oherwydd ei lefelau isel o lygredd golau a geir yn ei hardaloedd cefn gwlad. Mae'r cymwysterau arsylwi cosmos trawiadol hyn wedi cael eu cydnabod gan y Gymdeithas Awyr Dywyll Ryngwladol sydd wedi dynodi tair ardal yng Nghymru fel Lleoedd Awyr Dywyll Rhyngwladol, gan eu graddio'n swyddogol fel rhai o'r lleoedd gorau ar y blaned i syllu ar sêr.
Mae dwy ardal yng Nghymru wedi ennill statws Gwarchodfa Awyr Dywyll Ryngwladol, Bannau Brycheiniog – un o'r pum ardal gyntaf i ennill statws Gwarchodfa Awyr Dywyll yn y byd – a Pharc Cenedlaethol Eryri, tra bod gan Ystâd lai Cwm Elan yn y canolbarth statws Parc Awyr Dywyll.
Gallwch lapio'n gynnes a mynd i un o'r llecynnau hyn (neu lu o gyrchfannau awyr dywyll eraill yng Nghymru) ar ôl iddi nosi i gymryd rhan yn y sioe nefol ysblennydd sy'n digwydd uwch eu pen.
Fodd bynnag, efallai y bydd y rhai sy'n chwilio am ychydig bach o arweiniad yn ystyried sesiwn syllu ar sêr dan arweiniad, fel y rhai sy'n cael eu rhedeg gan Dark Sky Telescope Hire ym Mannau Brycheiniog, neu ymuno ag un o'r digwyddiadau rheolaidd a gynhelir gan glybiau seryddiaeth lleol, fel y nosweithiau gwylio a gynhelir gan Gymdeithas Seryddiaeth Gogledd Cymru ym Mae Colwyn neu'r rhai a drefnir gan Gymdeithas Seryddol Caerdydd yng Ngerddi Dyffryn ym Mro Morgannwg.
Amgueddfeydd ac arddangosfeydd ar thema’r gofod
Fodd bynnag, does dim rhaid i chi aros ar eich traed yn hwyr i werthfawrogi’r gofod yng Nghymru, gan bod y wlad yn gartref i nifer o amgueddfeydd sy’n addas i deuluoedd gydag arddangosfeydd ac arteffactau sy’n canolbwyntio ar y düwch mawr dirgel.
Mae canolfan wyddoniaeth Techniquest ym Mae Caerdydd yn lle hanfodol i ymweld ag ef, gyda phlanetariwm pwrpasol sy'n cynnal sgyrsiau hwyliog ac addysgol ar bwnc y gofod a'r sêr yn rheolaidd. Mae gan y ganolfan hefyd barth ar thema’r gofod a adnewyddwyd yn ddiweddar, gyda phosau ac arddangosion ymarferol i blant eu mwynhau – o geisio lansio roced i geisio parcio llong ofod.
Mae Xplore! Science Discovery Centre yn Wrecsam yn cynnig rhywbeth tebyg i ymwelwyr, gydag arddangosfeydd rhyngweithiol yn seiliedig ar wyddoniaeth a sgyrsiau rheolaidd sy'n addas i blant am bopeth sy’n ymwneud â’r gofod (edrychwch ar y wefan am fanylion digwyddiadau sydd ar ddod).
Dylai selogion y gofod sydd ychydig yn hŷn hefyd lanio yn Amgueddfa Genedlaethol Caerdydd, sydd â nifer o arteffactau ar thema’r gofod yn ei harddangosfa barhaol, gan gynnwys craig a gariwyd yn ôl o wyneb y lleuad yn ystod taith Apollo 12 yn 1969. Wedi'i selio mewn cynhwysydd diogel aerglos, fe'i hystyrir yr eitem ddrutaf yn yr amgueddfa.
Arsyllfa Gymreig weithredol
Wedi’i leoli ar ddarn o dir fferm ger Trefyclo, yn agos at y ffin â Lloegr, mae The Spaceguard Centre yn un o atyniadau mwyaf anghyffredin Cymru ar thema gosmig.
Mae’r ganolfan yn arsyllfa weithredol sy’n sganio awyr y nos yn barhaus am ‘Wrthrychau Sy’n Agos at y Ddaear’ (sef asteroidau a chomedau) a allai, pe bydden nhw’n gwrthdaro â’r Ddaear, fod yn fygythiad i’n planed. Gwirfoddolwyr sy'n ei redeg a’i staffio'n breifat, a dyma'r unig gyfleuster o'i fath yn y DU.
Mae teithiau o gwmpas yr arsyllfa (sy'n addas i blant 9 oed a hŷn) yn cael eu cynnal o ddydd Mercher i ddydd Sul, yn rhoi cipolwg ar waith y ganolfan, gwersi ar gyfansoddiad sêr ac asteroidau, a chyflwyniad i blanetariwm bach y safle a thelesgop mawr, a ddefnyddir i chwilio’r awyr ar nosweithiau clir.
Bydd ymwelwyr hen ac ifanc yn sicr yn gadael â gwybodaeth newydd am sêr ac asteroidau, yn ogystal â rhywfaint o bryder o bosibl am y bygythiad a achosir gan wrthrychau rhyngserol – er y dylai gwybod bod cost eich ymweliad yn helpu i ariannu'r gwaith sy'n cael ei wneud drechu ofnau am drychineb sydd ar ddod yn seiliedig ar gomedau. Wedi'r cyfan, nid yw bywyd archwiliwr y gofod heb ei beryglon.