Yn ymestyn o arfordir y de i arfordir y gogledd, mae’r daith hon yn mynd â chi i fyny ar hyd asgwrn cefn mynyddig Cymru, ar hyd llwybrau hynafol sydd wedi siapio hanes y wlad. Mae yma weithgareddau anturus, hanes epig a chymunedau cyfeillgar.
Mae modd cyrraedd y rhan ogleddol ar drên a rhannau hefyd oddi ar lwybr beicio hir Lôn Las Ogwen. Os ydych chi’n farchog hyderus, mae modd dilyn llawer o’r daith ar gefn ceffyl.
Diwrnod un: Caerdydd i Ferthyr Tudful
Pellter: tua 24 milltir/38km
Mae digon o bethau i’w gwneud yng Nghaerdydd felly efallai eich bod chi eisiau treulio diwrnod neu ddau yn crwydro’r brif ddinas fywiog cyn dechrau ar y cerdded.
Ond mae heddiw yn ddiwrnod ar gyfer cestyll, ceiniogau a glo! Y man cyntaf i stopio y tu allan i'r ddinas yw Castell Coch. Mae’r castell yn glwstwr o dyrrau tal ar ochr y bryn ym mhentref Tongwynlais, yng ngogledd Caerdydd. Mae’r tu mewn wedi ei addurno’n grand, yn arddangosfa gyfoethog o bensaernïaeth ac addurniadau Gothig Fictoraidd.
Eisiau Crwydro Ymhellach? Mae’r Bathdy Brenhinol (Royal Mint) yn Llantrisant yn lle i ddysgu popeth am geiniogau, sut mae nhw’n cael eu creu, a pham eu bod nhw mor bwysig. Mae’r Bathdy yn darparu ceiniogau i 100 o wledydd ar draws y byd.
Wrth ddal ymlaen tua’r gogledd, fe gyrhaeddwch gymoedd y de. Mae’r Teithiau Aur Du yn Nhaith Pyllau Glo Cymru, Parc Treftadaeth Cwm Rhondda, yn ein hatgoffa o’r dyddiau pan oedd Cymru, cartref y diwydiant glo, yn porthi’r Chwyldro Diwydiannol. Mae teithiau tywys tanddaearol ac arddangosfeydd rhyngweithiol yn ail-greu bywyd caled ac arwrol y mwyngloddwyr Cymreig.
Awydd ’chydig o antur? Mae BikePark Wales yn Abercanaid yn un o leoliadau gorau’r Deyrnas Unedig ar gyfer beicio mynydd, gyda thros 40 o lwybrau ar gyfer pob gallu, o ddechreuwr llwyr i rai medrus. Gallwch hefyd logi’r holl offer.
Mae dau ryfeddod hanesyddol arall yn eich disgwyl. Roedd llawer o’r glo o'r ardal yn cael ei ddefnyddio i fwyndoddi haearn ac fe elwodd rhai pobl yn arw o’r diwydiant gan ddod yn gyfoethog iawn. Ym Merthyr Tudful gallwch grwydro o amgylch Castell Cyfarthfa, plasty o’r 19eg ganrif a adeiladwyd gan un o’r meistri haearn pwerus. Mae bellach yn amgueddfa ac oriel sy’n dal casgliadau yn cynnwys gwaith dau o eiconau’r byd ffasiwn a anwyd ym Merthyr, Laura Ashley a Julien McDonald.
Fel arall gallwch chi gamu’n ôl mewn amser drwy grwydro plasty a gerddi Cyrnol Edward Prichard ym Maenordy Llancaiach Fawr. Ond byddwch yn ofalus lle rydych chi’n troedio – mae sôn fod y tŷ yn enwog drwy Brydain am fod ag ysbrydion yno!
Eisiau Crwydro Ymhellach? Rhyw 20 munud o yrru i’r gorllewin o Ferthyr mae canolfan ymwelwyr Distyllfa Penderyn y lle perffaith i ddysgu am wisgi Cymreig ac i gael blasu peth ohono.
Diwrnod dau: Merthyr Tudful i Aberhonddu
Pellter: tua 20 milltir/32km
Merthyr ydi’r porth tuag at gopaon uchel a llynnoedd llonydd Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Gall taith ar hyd gledrau cul Rheilffordd Mynydd Brycheiniog fod yn gyflwyniad da i’r ardal hon. Mae trenau stêm â cherbydau wedi eu hadnewyddu yn rhedeg o gyrion gogleddol Merthyr at droed rhai o gopaon uchaf de Cymru, a’r daith yn ôl yn 9 milltir/14km. Mae’r golygfeydd yn ysblennydd.
Yr atyniad mwyaf poblogaidd i nifer o bobl yw cerdded ym Mannau Brycheiniog. Ac os ydych chi’n hoff o wisgo’ch sgidiau cerdded, anelwch ar hyd ar A470 ac i mewn i’r Parc Cenedlaethol. Fe allech chi stopio yng Nghanolfan Ymwelwyr Garwnant i chwilio am ysbrydoliaeth o ran llwybrau i’w cerdded (neu am baned a chacen). Mae rhai llwybrau cerdded yn dechrau’n syth oddi ar y ffordd fawr, fel y llwybr i fyny Pen y Fan, sy’n gallu bod yn brysur iawn. Mae Fan Fawr ochr arall y ffordd yn ddewis amgen rhagorol.
Fel arall gallwch chi fwynhau golygfeydd arbenig wrth ichi yrru drwy’r parc a gwyro oddi ar y ffordd rhyw fymryn i Libanus i daro i mewn i Ganolfan Ymwelwyr Parc Cenedlaethol Bannau Brycheiniog. Yma fe gewch chi lawer mwy o ysbrydoliaeth o ran llwybrau cerdded i’w dilyn ynghyd â golygfeydd panoramig, gwybodaeth leol a chaffi hyfryd.
Ac nid cerdded ydi’r unig ddewis. Mae anturiaethau awyr agored ym Mannau Brycheiniog yn cynnwys marchogaeth ceffyl, canwio, caiacio, beicio mynydd a mwy.
Ar ochr arall y Parc Cenedlaethol, mae Aberhonddu ei hun yn dref fywiog a chroesawgar ac yn lle perffaith ar gyfer aros y nos.
Dros nos: Mae Peterstone Court yn Llanhamlach a Llangoed Hall yn Llys-wen yn ddau blasty gwledig urddasol â digon o gymeriad.
Diwrnod tri: Aberhonddu i Lanfair-ym-Muallt
Pellter: tua 19 milltir/30km
Dechreuwch y diwrnod heddiw yn crwydro Aberhonddu. Mae yno bopeth fyddai’n ddisgwyliedig o dref farchnad dda: mae gwestai, orielau, caffis a nifer o siopau annibynnol yn britho’r strydoedd Sioraidd hardd. Ar ben hynny, mae yma gadeirlan sy’n dyddio o’r 12fed ganrif, Amgueddfa Gatrodol y Cymry Brenhinol a gŵyl jazz flynyddol.
Gallwch chi adael y dref mewn sawl ffordd ddiddorol sydd ddim yn golygu mynd mewn car: mae Camlas Sir Fynwy a Brycheiniog yn llifo am 35 milltir (56km) i Fannau Brycheiniog, tra bo Llwybr Taf sy’n llwybr cerdded/beicio yn 55 milltir (88km) o lwybr sy’n arwain at y môr ym Mae Caerdydd.
Wrth anelu am y gogledd, mae’r A470 yn dod i gwrdd ag afon Gwy, ac mae’n dilyn trywydd yr afon drwy harddwch Dyffryn Gwy. Mae’r ardal o amgylch Erwyd yn ddelfrydol i fod yn cerdded drwy goedwigoedd a dringo’n uchel uwch yr afon. Neu gallwch chi anelu am y dwyrain at dawelwch Llyn Llanbwchlyn, gwarchodfa natur leol sy’n gyforiog o adar o bob math.
I’r gorllewin, ychydig oddi ar yr A470, llenwch eich ffroenau ag arogl hyfryd Welsh Lavender, cartref i gaeau di-ri o lafant yn ystod misoedd yr haf. Caiff y lafant ei ddefnyddio i greu’r olew persawrus sy’n cael ei roi yn yr eli, hufen a’r sgrwb maen nhw’n ei gynhyrchu. Gallwch chi ymweld y rhan fwyaf o ddyddiau yn ystod yr haf (mae’n dlws iawn, mae’r golygfeydd yn arbennig, ac mae cacennau’n cael eu gweini) – ond rhowch ganiad iddyn nhw cyn mentro draw i wneud yn siŵr nad ydyn nhw allan yn trin y cnydau.
Eisiau Crwydro Ymhellach? Gam i fyny’r A483, mae gwyrddni Llandrindod, tref sba gyda’r gorau ac iddi adeiladau Fictoraidd urddasol. Mae hefyd yn gartref i’r National Cycle Museum, amgueddfa sydd wedi ei llenwi â phob math o feic allwch chi ei ddychmygu o’r hen feic peni-ffardding i’r beiciau rasio diweddaraf carbon ffeibr. Fe allech chi aros y noson hefyd yng ngwesty mawreddog y Metropole.
Wrth ddychwelyd at Ffordd Cambria a’r A470, y lle nesaf i chi gyrraedd yw Llanfair-ym-Muallt; tref farchnad gyfeillgar â digon o ddewis o lefydd i aros.
Dros nos: Os mentrwch chi draw i’r caeau lafant a’ch bod chi awydd ychydig o foethusrwydd a chlydwch, mae gwesty’r Lake Country House ger llaw. Mae yno sba hefyd.
Diwrnod pedwar: Llanfair-ym-Muallt i Lanidloes
Pellter: tua 28 milltir/45km
Parhewch i anelu tua’r gogledd y bore ’ma gan ddilyn gwyrddni Dyffryn Gwy tuag at bentref Rhaeadr Gwy. Cyn i chi gyrraedd mae cyfle gwych i chi gael dod wyneb yn wyneb â bywyd gwyllt yn Fferm Gigrin.
Mae adfer y Barcud Coch wedi bod yn llwyddiant mawr o ran cadwraeth yng Nghymru. Tra’r oedden nhw bron â diflannu’n gyfan gwbl o bob rhan o Brydain, fe wnaethon nhw oroesi mewn rhannau anghysbell yn nyffrynnoedd Cothi a Thywi. Erbyn hyn, mae’n ddigon cyffredin i’w gweld nhw yma. Mae’r ddefod ddyddiol o fwydo’r Barcutiaid Coch yng Ngigrin yn denu tua 600 o farcutiaid, haid disglair o adar yn hofran ac yn deifio – yng nghwmni ychydig o fwncathod a chigfrain.
Ym mhentref tlws Rhaeadr ei hun, fe ddewch chi o hyd i Welsh Royal Crystal, yr unig wneuthurwr gwydr grisial â llaw yng Nghymru. Ewch ar daith ddifyr i weld crefftwyr meistrolgar wrth eu gwaith, cyn ymweld â’r siop sydd wedi ei llenwi â darnau grisial, pob un wedi ei chwythu’n unigol a’i dorri â llaw. Yn y prynhawn, profwch ragor o’r golygfeydd ysblennydd, rhai’n naturiol ac eraill o waith dyn, sydd i’w cael yn y rhan hon o’r canolbarth. Mae Rhaeadr ar stepen drws llynnoedd Cwm Elan, llinyn o gronfeydd dŵr glas, wedi eu creu dros gan mlynedd yn ôl. Galwch heibio Canolfan Ymwelwyr Cwm Elan cyn dilyn y ffordd fynyddig sy’n gwau drwy’r llynnoedd ac sy’n cynnig golygfeydd hyfryd. Mae hefyd modd llogi beic a derbyn gwybodaeth am lwybrau cerdded o’r ganolfan ymwelwyr. Mae yma lwybrau hygyrch sy’n berffaith ar gyfer cadeiriau olwyn a phramiau hefyd.
Os wnaeth gweld y barcutiaid godi awydd mwy o wylio adar, galwch heibio Gwarchodfa RSPB Carngafallt, sydd rhyw 10 munud o gerdded o’r ganolfan ymwelwyr. Yn ddibynnol ar yr adeg o’r flwyddyn, mae’n bosib y gwelwch chi gnocell y coed, gwybedog, bwncath ac wrth gwrs, mwy o farcutiaid coch!
Dros nos: Fe allech chi ddewis aros yn nhref farchnad glyd Llanidloes lle mae’r hen westy ceffyl a throl, Gwesty’r Trewythen wedi ei leoli’n gyfleus, neu fe allech chi barhau ar y ffordd am ychydig eto nes cyrraedd Maesmawr Hall, plasty gwledig hanner coediog. Mae’r Drenewydd, sydd daith fer i’r dwyrain ar hyd yr A489 ac sydd ychydig oddi ar Ffordd Cambria, hefyd yn cynnig sawl dewis o lety.
Diwrnod pump: Llanidloes i ardal Ffestiniog
Pellter: tua 61 milltir/98km
Os ydych chi wedi stopio yn Llanidloes, dechreuwch y diwrnod yn crwydro amgueddfa ddiddorol Llanidloes. Os ydych chi yn y Drenewydd, mae Amgueddfa Decstiliau’r dref wedi ei lleoli mewn adeilad hanesyddol oedd unwaith yn siop wehyddu. Mae’r ddwy amgueddfa yn llawn o hanes leol ddifyr ac o arddangosfeydd.
Mae Llanidloes hefyd yn lle da i gerdded, gyda llwybrau o bellteroedd gwahanol yn arwain drwy fryniau tonnog a llynnoedd arian Sir Drefaldwyn.
Eisiau Crwydro Ymhellach? O Lanidloes mae yna daith car â golygfeydd anhygoel wrth i chi anelu am Fachynlleth ar hyd y B4581 heibio dyfroedd llonydd Llyn Clywedog. Mae’n ffordd igam ogam ac i fyny ac i lawr, felly cymerwch bwyll a mwynhewch y golygfeydd tra’n gyrru’n ofalus.
Wrth barhau i anelu am y gogledd fe ddewch chi yn ôl at yr A470 a Ffordd Cambria yn Llanbrynmair. Fel arall, trowch i’r chwith am Fachynlleth a stopiwch ar y ffordd wrth gofeb Wynford Vaughan-Thomas. Yr olygfa banoramig eang a welwch chi o Eryri o’r fan hon oedd hoff olygfa’r darlledwr uchel ei barch.
Mae bwyty a bar Cross Foxes cyn i chi gyrraedd Dolgellau yn lle perffaith i stopio, neu ewch yn eich blaen i Ddolgellau lle mae tafarndai cyfeillgar a nifer o gaffis clyd.
Heibio Dolgellau, mae’r tirwedd yn newid o fod yn goediog i fod yn weundiroedd geirwon ac yn fynyddoedd. Os hoffech chi fynd yn nes at yr olygfa, stopiwch yng Nghoed y Brenin. Dyma un o leoliadau gorau’r wlad ar gyfer beicio mynydd ac mae yno lwybrau addas ar gyfer pob lefel ac mae modd llogi beic yma. Mae yma hefyd lwybrau cerdded a llwybrau oddi ar y ffordd ar gyfer sgwteri symudedd sy’n arwain drwy’r goedwig – ynghyd â chaffi gwych ac ardal bicnic.
Yn Nhrawsfynydd mae cofeb deimladwy i’r bardd Hedd Wyn, a laddwyd ym Mrwydr Passchendaele yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf ym 1917. Bu farw cyn iddo gael gwybod ei fod wedi ennill cadair yr Eisteddfod Genedlaethol. Gallwch weld y Gadair Ddu yn Yr Ysgwrn, cartref y bardd sydd bellach wedi ei adnewyddu, ac mae llawer o arteffactau eraill i’w gweld yma hefyd.
Dros nos: Fe allech chi wyro rhyw 20 munud tuag at yr arfordir ac aros ym mhentref Eidalaidd hudolus Portmeirion lle mae llety moethus. Neu gallech chi glampio mewn steil yn Llechwedd i fyny’r lôn.
Diwrnod chwech: Ardal Ffestiniog i Fetws-y-coed
Pellter: tua 13 milltir/21km
Dim ond taith fer yn y car sydd heddiw gan fod angen digonedd o amser ym mhrif ardal antur Cymru!
Maen nhw’n dal i weithio’r chwareli yn yr hen ‘brifddinas llechi’r byd’, ond heddiw mae pobl yn heidio i Flaenau Ffestiniog i gael antur a chyffro. Mae beicwyr yn sgrialu i lawr y llethrau yn Antur Stiniog, tra bo gwifrau gwib yn croesi’n uchel yn Zip World Titan. Yn y ceudyllau llechi tanddaearol, mae hyd yn oed mwy o wifrau yn ogystal â’r atyniad swreal, Bounce Below: haenau o rwydi cargo wedi eu cysylltu gan lithrennau ac ysgolion. Er mwyn rhoi’r cyfan yn ei gyd-destun hanesyddol, fe allech chi ddechrau â thaith danddaearol o Zip World Llechwedd.
Pa bynnag weithgaredd a ddewiswch chi, gwnewch yn siŵr eich bod yn trefnu ymlaen llaw gan fod y gweithgareddau i gyd yn boblogaidd dros ben!
Does dim rhaid i chi fod mor anturus â hynny i fwynhau Blaenau Ffestiniog chwaith, wrth gwrs. Neidiwch ar hen drenau stêm Rheilffyrdd Ffestiniog ac Ucheldiroedd Cymru ac ymlwybro heibio llynnoedd a thrwy goedwigoedd hynafol i lawr at arfordir disglair Porthmadog. Mae’n ddiwrnod allan perffaith.
Pan rydych chi yn Eryri, mae pob ffordd yn arwain (yn y pen draw) at bentref prydferth Betws-y-coed, y porth at y mynyddoedd. Mae’n lle delfrydol i aros noson ag yno ddigonedd o dai llety gwely a brecwast clyd i ddewis ohonyn nhw.
Darllen mwy: Gwibdaith drwy Stiniog
Diwrnod saith: Betws-y-coed i Landudno
Pellter: tua 30 milltir/48km
Mae Betws-y-coed yn lle gwych i aros ar gyfer gwyliau beicio a cherdded. Fe allech chi dreulio dyddiau yma yn crwydro Eryri. Mae sawl taith gerdded dda sy’n arwain o’r pentref, fel y daith serth i fyny drwy’r goedwig at Lyn Elsi, neu daith fwy hamddenol ar hyd yr afon at Raeadr Ewynnol. Mae rhagor o antur a chyffro i’w gael yn Zip World Fforest ac mae gan Amgueddfa Rheilffordd Dyffryn Conwy reilffordd fach y bydd plant wrth eu boddau ag o.
Amser nawr am ’chydig o ddiwylliant wedi’r holl anturiaethau awyr agored. Arferai Llanrwst fod yn ganolbwynt i Ddyffryn Conwy, a dyma gartref teulu dylanwadol y Wynniaid. Mae eu cartref hynafol, Castell Gwydir, yn blasty Tuduraidd crand sy’n dal awyrgylch cyfnod y teulu – ac mae yno hefyd ambell ysbryd yn ôl pob sôn!
Ydych chi’n dal i chwilio am anrhegion i gofio’r daith? Beth am alw heibio Melin Wlân Trefriw, hen felin sy’n dal ei gael ei defnyddio i greu tapestrïau a brethyn cartref. Ewch i ymweld ag arddangosfa’r felin cyn cael golwg yn y siop.
Mae Gerddi Bodnant yn un o drysorau cenedlaethol Cymru. Mae’r rhan uchaf o amgylch Neuadd Bodnant yn rhesi o erddi a lawntiau, tra bo’r pant is yn ardd wyllt anhygoel. Mae’r safon uchel yn parhau yn y ganolfan arddio, y ganolfan grefftau ac yng nghanolfan Bwyd Cymru Bodnant gerllaw.
Mae eich taith ar hyd Ffordd Cambria yn tynnu at ei therfyn. Rydych chi wedi teithio o dde i ogledd Cymru. Beth am orffen y daith yn nhref sba Fictoraidd Llandudno?
Mae llawer o bethau i’w gwneud yn Llandudno. Ewch am dro ar hyd y pier hanesyddol, ewch am reid ar y tram i fyny’r Gogarth, gallwch ymweld ag Oriel MOSTYN neu ddarganfod sut mae wisgi Cymreig yn cael ei greu yn Nistyllfa Penderyn.
Os ydych chi’n chwilio am adloniant, mae Venue Cymru yn un o theatrau mwyaf gogledd Cymru, sydd â pherfformiadau’n cael eu cynnal gan Opera Cenedlaethol Cymru ac eraill.
Dros nos: Mae llefydd braf i aros yn Llandudno yn cynnwys B&B bwtîc the Escape, gwesty urddasol y St George a gwesty a sba yr Empire.