Mae Tyndyrn gyfan yn croesawu cŵn sy'n golygu bod pob lleoliad ac atyniad yn addas i chi a'ch ci. Mae gan rai tafarndai a siopau gyfleusterau arbennig hyd yn oed e.e. bowlenni dŵr, bagiau baw am ddim a hyd yn oed bwydlenni ar gyfer cŵn!
Darganfod: adfeilion canoloesol Abaty Tyndyrn
Mae Abaty Tyndyrn yn eicon cenedlaethol — mae’n dal i sefyll mewn ysblander di-do ar lannau Afon Gwy, a hynny bron i 500 mlynedd ers iddo gael ei ddefnyddio fel addoldy. Mae croeso i gŵn gerdded ar bob rhan o’r safle ond rhaid iddyn nhw fod ar dennyn bob amser.
Aros: Bwthyn Abaty Tyndyrn
Gyda golygfeydd panoramig godidog o Abaty Tyndyrn, mae Bwthyn Abaty Tyndyrn yn ffinio â Llwybr Dyffryn Gwy, a Llwybr Sir Fynwy – lleoliad perffaith ar gyfer darganfod Tyndyrn a’r ardal gyfagos ar droed.
Ail-lenwi: The Filling Station
Yn boblogaidd gyda beicwyr, cerddwyr, teuluoedd a thrigolion, mae The Filling Station yn fan perffaith ar gyfer coffi mâl ffres blasus, te rhagorol, cacennau penigamp a baguettes llawn, heb eu hail.
Siopa a bwyta: Canolfan Melin yr Abaty
Mae Melin yr Abaty yn ganolfan siopa a bwyta glan yr afon sydd wedi'i lleoli yn 'Adeiladau'r Hen Felin'; mae ar agor drwy gydol y flwyddyn ac eithrio Dydd Nadolig a Gŵyl San Steffan. Ceir yma siop goffi a bwyty trwyddedig, siopau amrywiol a Chymdeithas Grefftau Dyffryn Gwy.
Mynd am dro: Hen Orsaf Tyndyrn
Wedi'i adeiladu fel gorsaf reilffordd wledig Fictoraidd, mae'r Hen Orsaf, Tyndyrn yn safle swynol i ymweld ag ef ar gyfer diwrnod tawel i ymlacio neu ar gyfer eich taith gerdded o amgylch harddwch Dyffryn Gwy.
Mae'r maes parcio a thir yr Hen Orsaf ar agor bob dydd 9am - 5pm.
Taith gwin: Gwinllan Parva Tyndyrn
Mae Parva Farm yn winllan dan berchnogaeth a rheolaeth breifat sy'n agored i'r cyhoedd bob dydd, ac eithrio dydd Mawrth a dydd Mercher ar gyfer teithiau o amgylch y winllan a sesiynau blasu gwin. Mae croeso i gŵn ym mhob rhan o’r winllan gan gynnwys y siop.