Gyda chymaint i’w wneud a’i weld yn Abertawe, mae hi weithiau’n anodd gwybod ble i ddechrau. Darllenwch y rhestr gyfan i gael ysbrydoliaeth, neu ewch yn syth i’r rhan sy’n fwyaf difyr i chi; ymysg y dewis mae treftadaeth a diwylliant, ymweld ag atyniadau lleol, crwydro’r ardal ehangach, chwilio am lety, neu ddarganfod pa ddigwyddiadau sy’n cael eu cynnal yn y ddinas. Mae’r cyfan i’w weld isod.

Treftadaeth a diwylliant

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau

A chanddi bensaernïaeth nodedig ynddi’i hun, mae Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn dathlu hanes diwydiannol a hanes morol Cymru, a hynny yn ôl i’r 1800au. Yma fe gewch chi daith hynod o ddifyr drwy oes pan oedd Cymru’n cyflenwi glo a dur i bedwar ban byd, a hynny gyda chymorth dyfeisiadau di-ri, fel locomotif stêm arloesol Richard Trevithick.

cerbydau ac arddangosfeydd mewn amgueddfa a phobl yn cerdded o gwmpas yn edrych.
cypyrddau arddangos mewn amgueddfa.

Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn Abertawe

Amgueddfa Abertawe

Amgueddfa Abertawe yw amgueddfa hynaf Cymru, ac mae holl hanes hir Abertawe i’w ganfod yma. Fe gewch chi fwynhau’r arddangosfeydd am drigolion cynhanesyddol yr ardal, cyn cyrraedd yr oesoedd canol a thwf diwydiant a rhyfela. Mae pob math o wybodaeth yma am yr hanes morol lleol a hanes trafnidiaeth, gan gynnwys stori Rheilffordd y Mwmbwls, a agorwyd yn 1807. Bydd digwyddiadau ac arddangosfeydd cyson yn cael eu cynnal yn yr amgueddfa, felly mae wastad rywbeth newydd i’w weld.

Y Ganolfan Eifftaidd

Fe ddewch chi o hyd i’r Ganolfan Eifftaidd ar gampws Prifysgol Abertawe yn Singleton, sy’n go agos at ganol y ddinas. Yn fan hyn y mae’r casgliad mwyaf o hen bethau Eifftaidd yng Nghymru gyfan, ac mae’n lle rhyfeddol i ddysgu am ddiwylliant sy’n dal i ennyn chwilfrydedd ymysg pobl filoedd o flynyddoedd yn ddiweddarach. Mae yma ddigwyddiadau gydol y flwyddyn, yn enwedig yn ystod gwyliau hanner tymor a gwyliau’r haf. Bydd plant sy’n gwirioni ar yr Aifft wrth eu boddau yn y gweithdai rhyngweithiol i greu beddrodau, rhwymo a datrys posau.

Oriel Gelf Glynn Vivian

Mae’r byd celf yn un bywiog iawn yn Abertawe, ac mae gan Oriel Gelf Glynn Vivian enw fel lleoliad gorau’r ddinas ar gyfer arddangosfeydd celf. Agorwyd yr oriel yn 1911 drwy gymynrodd gan Richard Glynn Vivian (1835-1910), a Dinas a Sir Abertawe sy’n gyfrifol amdani. Mae yma gasgliad trawiadol a grëwyd dros y ganrif ddiwethaf, a hwnnw’n parhau i dyfu gyda gwaith newydd gan artistiaid heddiw. Mae’r casgliad yn elwa hefyd o roddion, cyfraniadau a gwobr flynyddol Wakelin.

Canolfan Dylan Thomas

Yng Nghanolfan Dylan Thomas fe ddewch chi ar draws arddangosfa barhaol sy’n edrych ar fywyd un o gewri llenyddol yr ugeinfed ganrif. Yn Abertawe y ganwyd ac y magwyd Dylan Thomas, ac mae pob math o deithiau tywys i’ch helpu i ddod i adnabod y dyn a’i hanes yn well.

dyn gyda chlustffonau’n eistedd yn gwrando ar wybodaeth.

Canolfan Dylan Thomas, Abertawe, Gorllewin Cymru

Theatr y Grand Abertawe

Yn Theatr y Grand Abertawe fe gewch chi gyfuniad bywiog ac amrywiol tu hwnt o ddigwyddiadau byw, arddangosfeydd a pherfformiadau. Mae yma deithiau y tu ôl i’r llen hefyd sy’n rhoi cipolwg i chi ar hanes y theatr enwog hon yng nghanol Abertawe.

Arena Abertawe

Mae dros 200 o berfformiadau'r flwyddyn yn yr Arena, o gerddoriaeth i gomedi i gynadleddau. Ymysg yr enwau yng nghalendr digwyddiadau 2025 y lleoliad mae Manic Street Preachers, Max Boyce ac Elis James a John Robins.

Tu allan i arena Abertawe, adeilad gyda waliau pren a gwyrddni o'i flaen.

Arena Abertawe

The Bunkhouse

Bar a lleoliad gigs eiconig ar un o strydoedd cefn y ddinas. Mae The Bunkhouse yn cynnig llwyfan i artistiaid lleol a pherfformwyr newydd ac yn hyrwyddo’r sîn gerddoriaeth annibynnol fyrlymus yn ne Cymru.

Atyniadau o fri

Marchnad Abertawe

Codwyd y farchnad wreiddiol yn 1897, o dan y strwythur gwydr a haearn gyr mwyaf yn y Deyrnas Unedig. Chwalwyd hwnnw yn ystod yr Ail Ryfel Byd, fel llawer o weddill canol y ddinas. Ail-adeiladwyd Marchnad Dan Do Abertawe a dyma o hyd y farchnad fwyaf o’i math yng Nghymru, lle mae dros 100 o stondinau. Fan hyn hefyd fe gewch chi flasu rhai o fwydydd arbenigol yr ardal, gan gynnwys cocos a bara lawr, y pryd byd-enwog hwnnw sydd wedi’i greu o wymon o arfordir gogledd Gŵyr.

Gerddi Clyne

Mae gan Abertawe barciau a gerddi niferus, ond go brin fod yr un ohonyn nhw mor ddramatig â Gerddi Clyne. Ymhlith y planhigion helaeth ac egsotig sydd yma, mae rhododendrons, rhiwbob arbenigol, a phidyn-y-gog Americanaidd. Mae’r ardd Japaneaidd gyda’i phont liwgar yn ychwanegu at y wledd sydd yma i’r synhwyrau.

Parc Dŵr LC

A hwnnw’n atyniad modern sy’n addas i bobl o bob oed, mae Parc Dŵr LC i’w ganfod gerllaw Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, nepell o brif ardal siopa’r ddinas. Mae yno sleidiau a thiwbiau o bob math, yn ogystal â chyfle i wella’ch sgiliau syrffio ar y tonnau.

Stadiwm Swansea.com

Agorodd y stadiwm drawiadol hon, sy’n dal 20,000 o bobl, yn 2005, a dyma gartref Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe. Mae Stadiwm Swansea.com hefyd yn gartref i’r Gweilch – un o dimau rygbi cryfaf Prydain ac Iwerddon.

Gêm bêl-droed yn cael ei chynnal yn y stadiwm yn Abertawe.

Stadiwm Swansea.com, Gorllewin Cymru

Gerddi Botaneg Singleton

Mae'r Gerddi Botaneg yn gartref i gasgliad o blanhigion prin gyda borderi blodau lliwgar a thai gwydr mawr. Er bod y gerddi ar eu gorau ym mis Awst, mae rhywbeth i'w weld drwy gydol y flwyddyn. Mae’r ardd wedi'i lleoli o fewn Parc Singleton, sy’n lle braf i grwydro ynddo’i hun, cyn eistedd ac edmygu'r golygfeydd o’ch cwmpas.

Ewch i grwydro’r cylch

Y Mwmbwls

Pentref glan-môr byrlymus yw’r Mwmbwls. Mae yma dros 120 o siopau, bwytai a thafarndai ar lan orllewinol Bae Abertawe. Dyma ardal sy’n enwog am ei bwyd môr bendigedig, gyda llawer o’r cynnyrch lleol yn cyrraedd rhai o fwytai gorau Llundain a Pharis. Rhowch gynnig arno yn y bwytai fan hyn, gan fwynhau arlwy’r môr cyfagos. Ac mae’r gystadleuaeth am siop hufen iâ orau’r Mwmbwls mor ffyrnig ag erioed.

Beth am alw yn ystod Penwythnos Retro’r Mwmbwls rhwng 7 a 9 Mehefin i ddawnsio fel yn yr hen ddyddiau? Neu mae Mumbles Fest ar 15 Mehefin yn ddigwyddiad sy’n llawn dop o gerddoriaeth fyw, bwyd stryd, gweithgareddau i blant a phabell gwrw/bar.

Pier yn ymestyn allan i fae.
Pier yn mynd allan i'r môr gydag awyr las yn gefndir.

Pier y Mwmbwls, Bae Abertawe, Gorllewin Cymru

Bae y Tri Chlogwyn a Bae Rhosili

Allwch chi ddim edmygu tirwedd trawiadol Penrhyn Gŵyr heb ei weld â’ch llygaid eich hun. Mae atyniadau niferus i’w mwynhau ar y trwyn rhyfeddol hwn. Bydd Bae y Tri Chlogwyn yn aml yn cael ei ystyried un o lefydd mwyaf dramatig Prydain, ac mae angen cerdded am ugain munud i’w fwynhau yn ei lawn ogoniant. Mae bwa anferth Bae Rhosili, sy’n cynnwys tywod eang Traeth Llangynydd, yr un mor hynod. Mae hi’n teimlo eich bod chi wedi cyrraedd y darn pellaf o dir ar y ddaear.

 Golygfa o draeth tywodlyd a chlogwyni

Bae y Tri Chlogwyn, Gŵyr, Gorllewin Cymru

Gorffwys ac ymlacio

Mae digonedd o lety ar gael yn Abertawe a’r cyffiniau, gydag opsiynau sy’n addas i bob cyllideb. Yn eu mysg mae’r gwestai cadwyn arferol, llefydd gwely a brecwast, a llefydd hunanarlwyo.

Gwesty Morgan's, mewn adeilad rhestredig Gradd II sydd wedi’i adnewyddu’n chwaethus, yw’r lle moethus i aros yng nghanol y ddinas. Arferai’r adeilad fod yn gartref i Awdurdod Cymdeithas Porthladdoedd Prydain, ac mae pob llofft wedi’i henwi ar ôl un o longau Abertawe. Mae Hostel Cwtsh, sydd hefyd yng nghanol y ddinas, yn rhagorol os ydych chi’n chwilio am le rhesymol i aros sydd hefyd yn cynnig ansawdd heb ei ail. Mae’n ddelfrydol i grwpiau a bacpacwyr, tra bo ystafelloedd preifat hefyd ar gael.

Mae modd chwilio fan hyn i ddod o hyd i’r llety perffaith yn Abertawe.

Digwyddiadau yn Abertawe a Gŵyr

Mai/Mehefin: Gŵyl Feicio Abertawe a Gŵyr – pymtheg neu ragor o deithiau beic o gwmpas y cyffiniau, dros bum diwrnod, a’r rheini’n addas i bobl sydd â phob math o brofiad a gallu.

Mehefin: Gŵyl Jazz Ryngwladol Abertawe – rhai o’r artistiaid a’r bandiau lleol a rhyngwladol gorau, gweithdai a gweithgareddau i blant.

Gorffennaf: Bydd Sioe Awyr Cymru yn golygu bod yr awyr uwchben Bae Abertawe yn llawn o awyrennau rhyfeddol, yn aml gydag arddangosfa wefreiddiol gan dîm y Red Arrows. Dyma ddigwyddiad rhad ac am ddim i’r teulu cyfan, sy’n cael ei gynnal dros ddeuddydd. Mae digonedd i’w weld a’i wneud ar y tir hefyd, gyda Phrom Abertawe yn llawn dop o stondinau, cerddoriaeth fyw ac arddangosfeydd.

Gorffennaf: Mae Gŵyl Gŵyr yn bythefnos llawn cerddoriaeth wych, gyda cherddorion penigamp o wledydd di-ri yn perfformio yn rhai o eglwysi a chapeli harddaf yr ardal.

Gorffennaf: Mae’r Love Trails Festival yng nghanol mis Gorffennaf yn ŵyl dros bedwar diwrnod sy’n cyfuno rhedeg, antur a cherddoriaeth, a hynny yng nghefn gwlad prydferth Gŵyr. Fe gewch chi redeg, cerdded neu anturio yn ystod y dydd, cyn dawnsio liw nos i’r gerddoriaeth anhygoel.

Medi: Gŵyl Gerdded Gŵyr – naw diwrnod o ddeg ar hugain o deithiau cerdded gwefreiddiol drwy Benrhyn Gŵyr.

Gwybodaeth ddefnyddiol

Os ydych chi’n ymweld ag Abertawe heb gar, neu’n awyddus i osgoi defnyddio pedair olwyn ar eich gwyliau, mae gan ganllaw ‘Bae Abertawe Heb Gar’ ddigon o awgrymiadau am opsiynau teithio cynaliadwy.

Chwiliwch am ragor o atyniadau a gweithgareddau yn Abertawe.

Map o Gymru yn dangos y chwe dinas yn Gymraeg.

Map o ddinasoedd Cymru gan gynnwys Abertawe yn y gorllewin

Straeon cysylltiedig