Ffasiynol a hawdd ei fforddio
Peth hynod ffasiynol ar hyn o bryd yw mynd i chwilota am fwyd gwyllt, ond does dim syndod, gan mai helwyr-gasglwyr ydym ni i gyd yn y bôn. Os ydych chi erioed wedi llowcio mwyaren neu ddwy wrth fynd am dro yn y wlad, neu wedi bachu afal oddi ar goeden yn rhywle, yna mae’n bryd i chi gyfaddef – rydych chi’n chwilotwr hefyd.
Mae’n rhan o’r hen ffordd Gymreig o fyw, yn enwedig yng nghefn gwlad. Bydd ffermwyr yn dal i gnoi dail surion bach i dorri syched wrth ymlafnio ar y caeau, ac mae gan bob Cymro (wel, ambell un efallai) nain neu fam-gu sy’n dal i bigo blagur danadl poethion i’w rhoi mewn cawl. Mae’n beth cyffredin mynd i hel mwyar duon, madarch, cnau ac eirin tagu, ond mae rhai pobl yn mynd gam ymhellach, ac yn dod o hyd i'r danteithion mwy amheuthun ym mhantri byd natur.
Mynd am dro i chwilota
Mae gan Raoul Van Den Broucke enw cofiadwy (a barf gofiadwy) ac mae’r gŵr hwn o Wlad Belg wedi ymgartrefu yn Sir Fynwy, lle mae’n cynnal teithiau cerdded i chwilota am fwyd sy’n dechrau o fwyty’r Foxhunter ger y Fenni.
Mae’n ein tywys ar hyd lonydd bach cefn gwlad ac ymlaen tua’r porfeydd eang ar odre’r mynydd.
Yma mae miloedd o wahanol fathau o ffwng, a’r peth doethaf i’r chwilotwr yw eu gosod yn fras mewn pedwar categori: y rhai blasus, y rhai sy'n iawn eu bwyta, y rhai na fedrwch eu bwyta (dyma'r categori mwyaf o bell ffordd), a'r rhai prin hynny sy'n ddigon gwenwynig i'ch lladd chi - fe soniwn ni fwy am y rheiny yn y man.
Y peth gorau i'w wneud yn ôl Raoul yw canolbwyntio ar un math o fadarchen ar y tro, gan ddod i adnabod amrywiaeth o fadarch fesul un, ac felly byddwch yn hollol siŵr o hel y madarch iawn. Gallwch fynd â llond basged yn ôl gyda chi i'r Foxhunter lle bydd y cogydd-berchennog Matt Tebbutt yn eu defnyddio i greu cwrs cyntaf bendigedig i chi cyn cinio.
Gadewch i arbenigwr arwain y ffordd
Madarch porcini yw'r rhai y mae mwyaf o fynd arnynt (fe'u gelwir hefyd yn 'fwyd llyffant' neu 'wics crynion'). Awn i chwilio amdanynt yn y coed o amgylch Rhaeadr Gwy, lle mae Daniel Butler yn rhedeg cwmni o'r enw Fungi Forays. Fe ddewch o hyd i rai yn syth wrth ddod oddi ar y llwybr a mentro ar y carped o fwsogl o dan gysgod y conwydd. Madarch porcini hyfryd yn llond eu crwyn, a fyddai'n gwerthu am fwy na £30 y cilo yn Llundain, ond yma maen nhw'n rhad ac am ddim i rai sy'n barod i chwilio. Ar ben hynny, efallai y bydd lle yn eich basged ar gyfer siantrelau euraid, tameidiau pigog o gaws draenog, neu hyd yn oed ambell i dwyllwr piws – peidiwch â gadael i'r enw eich dychryn, maen nhw'n berffaith iawn i'w bwyta.
I'ch atgoffa mor bwysig yw cael arbenigwr wrth law, efallai y dewch chi o hyd i gap marwol neu ddau, a'r tro hwn mae'r enw'n un priodol dros ben. Byddwch yn wyliadwrus.
Ar ôl i ni ddychwelyd i'r hen feudy mae Daniel wedi'i droi'n gartref iddo'i hun, rhyfeddwn at yr haid o farcutiaid coch sy'n troelli fry uwchben, cyn cael dosbarth meistr ar goginio madarch a'u cadw, ac wedyn cawn lond bol o ginio - ac oes, mae digonedd o fadarch ar ein platiau.
Chwilota ar y glannau
Yn yr hydref mae’r amser gorau i chwilio am fadarch, ond ar hyd arfordir Cymru fe ddewch chi o hyd i bethau blasus i’w bwyta gydol y flwyddyn. Mae Fferm Trehale yn Sir Benfro yn arbenigo mewn moch a defaid o fridiau prin, ond maent hefyd yn hen lawiau ar fynd i chwilota am fwyd gwyllt ar yr arfordir. Gadewch i David Hunter eich tywys drwy’r coed nid nepell o lan y môr yn Abermawr, lle cewch chi hel dail surion a blagur dail mieri. Ar y traeth gallwch chwilio am wymon i’w fwyta, a gweld a yw David wedi dal unrhyw grancod yn y potiau mae wedi’u gosod yn gyfrwys ger y lan.
Ac i goroni’r cyfan, mae David yn cynnau tanllwyth o dân gyda broc môr, yn gwneud te gyda’r blodau mêl a gasglon ni, ac yn coginio’r holl ddanteithion y daethom o hyd iddynt wrth chwilota, sy’n mynd yn dda iawn gydag ambell i selsigen.
Pwysig: Peidiwch â mynd i chwilota am fwyd yn y gwyllt heb arbenigwr i'ch helpu.