Ambell fwyty o fri
Os ydych chi’n chwilio am brofiad ciniawa cain bythgofiadwy, dyma’r llefydd i chi. Mae sawl bwyty yng Nghymru sydd â sêr Michelin, gan gynnwys y Beach House a Slice yn ardal Abertawe. Os ydych chi am gael bwyd sy’n rhagori ar y cyffredin, felly, y rhain amdani. Gair i gall: mae’n syniad da archebu lle ymlaen llaw, gan fod y llefydd hyn yn boblogaidd tu hwnt!
Beach House
Dylai ymweld ag Abertawe heb fentro i Benrhyn Gŵyr fod yn anghyfreithlon! Ym Mae Oxwich y mae’r Beach House, sy’n rhoi golygfeydd ysblennydd o’r môr a’r twyni tywod di-ben-draw. Mae Hywel Griffiths a’i dîm wedi creu rhywbeth go arbennig yma. Dyma un o fwytai gorau Abertawe, heb os nac oni bai, ac mae’r lle wedi ennill gwobrau rif y gwlith, gan gynnwys seren Michelin. Y tro diwethaf i mi alw yno, roeddwn i wedi bod am dro hir, wedi mentro i’r môr, ac wedi camu i’r sawna yn Nhŷ Sawna. Fe ddaeth ein diwrnod i ben fan hyn. Golygfeydd godidog, cynnyrch lleol, bwyd i’ch syfrdanu a phrydau hynod o gyffrous – pwy fyddai ddim eisiau mynd?!
Slice
Mae Slice yn teimlo fel un o’r llefydd hynny sy’n gyfrinach. Lle bach yn Sgeti yw hwn, i’r gorllewin o’r ddinas, ac mae’n hawdd peidio â sylwi arno. Ond mae’r bwydlenni gosod wedi creu argraff fawr, ac wedi codi’r bwyty i dir uchel dros ben. Gan ganolbwyntio ar gynnyrch tymhorol a lleol, mae’r bwyd wastad yn codi gwên, rhywbeth y dylai ciniawa cain ei wneud yn fy marn i. Ewch am y fwydlen à la carte neu’r fwydlen flasu, gan fwynhau gwinoedd wedi’u paru am bris da i gyd-fynd â nhw.
Môr
Yn nythu mewn rhes hen ffasiwn o siopau yng nghanol y Mwmblws y mae Môr – enghraifft wych o giniawa cain sy’n cynnig rhywbeth i bawb. Gyda chelf stryd ar y waliau ac awyrgylch hamddenol, braf, mae’r fwydlen yma wastad yn canolbwyntio ar brydau unigryw sy’n defnyddio cynhwysion ffres gan gyflenwyr lleol. Rwy’n argymell mynd am dro ar brom y Mwmbwls cyn mwynhau ychydig o wystrys!
Llefydd llai ffurfiol
I’r rheini sy’n chwilio am naws fymryn yn fwy hamddenol, mae digonedd o lefydd yn Abertawe i fynd â’ch bryd. Weithiau mae angen penderfynu yn y fan a’r lle wrth grwydro – a dyma’n ffefrynnau ni.
Gower Seafood Hut
Dydy hi ddim yn syndod mai’r Gower Seafood Hut yw un o lefydd bwyta mwyaf poblogaidd y ddinas gyfan. Lle hynod o syml, ond hynod o effeithiol. Caban bach iawn yw hwn, yn sefyll ar hyn o bryd yng Ngerddi Southend yn y Mwmbwls. Mae’n cynnig clasuron fel corgimychiaid tsili, calamari, cocos a silod mân – a’r cyfan wedi’u cyflenwi gan bysgotwyr lleol. Mae’n werth sôn nad ydyn nhw ar agor dros y gaeaf, ond maen nhw hefyd yn gyfrifol am y Gower Seafood Deli ar ochr arall y ffordd, lle gallwch chi brynu cafiâr lleol, bara lawr, brechdanau cranc, a phob math o ddanteithion eraill.
Square Peg
Dyma un o drysorau Abertawe sy’n gweini’r brecinio mwyaf difyr a ffres welsoch chi erioed. Mae Square Peg yn Sgeti yn enwog am roi llwyfan i gynnyrch lleol, a hynny’n arwain at bob math o brydau tymhorol a thra arbennig. Mae Gregg, prif gogydd Square Peg, yn rhoi ei stamp ei hun ar brydau brecinio cyfarwydd, ond da chi, cofiwch hefyd fwrw golwg ar brydau arbennig y dydd. Yn goron ar y cyfan, fe gewch chi baned o goffi yma sydd gyda’r gorau yn y ddinas, ynghyd â chynnyrch crwst a chacennau gan bobyddion lleol. Caffi heb ei ail yw hwn, lle mae’r staff yn gyfeillgar dros ben ac yn rhoi lle canolog i’r gymuned ym mhopeth. Dim syndod felly nad ydyn nhw byth yn cael diwrnod tawel!
Motley
Weithiau, does dim byd gwell na phei o safon. Gadewch i mi’ch cyflwyno i Motley, sydd wedi dod â chelfyddyd peis Awstralaidd i Abertawe. Peis y gallwch chi afael ynddyn nhw yw’r rhain, ac mae’r fwydlen-i-fynd yn cynnwys pei brecwast, pei cyw iâr a madarch, a chlasuron fel pei stêc a chwrw. Mae modd cael tatws stwnsh, grefi a phys hefyd. At hynny, mae ganddyn nhw ddetholiad rhagorol o gacennau a chynnyrch crwst, tra bo’r coffi’n ardderchog. Bwyd ffres, cartref a gwasanaeth cyfeillgar. Hwrê mawr hefyd i’r byns sinamon!
Muswanna
Gofynnwch i unrhyw un sy’n hoff o fwyd yn Abertawe am lefydd bwyta gorau’r ddinas, ac heb os nac oni bai, bydd Muswanna ar y rhestr. Bwyty yng nghanol y ddinas sy’n cynnig bwydydd Asiaidd amrywiol yw hwn, a’r fwydlen yn helaeth ac yn drawiadol. Mae’r safon drwyddi draw mor uchel, mae’n anodd dewis unrhyw brydau penodol. Mae hyd yn oed bethau syml, fel y brocoli ar yr ochr, yn arbennig. Mae’r bwyd yn cyrraedd yn gyflym, mae’r pris yn rhesymol, mae’n gwbl ffres, ac mae’n lle perffaith i rannu sawl plât a rhoi cynnig ar bethau newydd.
I’r selogion bwyd
Mae llefydd bwyta sydd wedi’u seilio ar neuaddau marchnad Ewropeaidd bellach yn boblogaidd tu hwnt. Mae’r Albert Hall yng nghanol Abertawe yn lle o’r fath, ac wedi cael croeso mawr ers agor. Codwyd yr adeilad yn 1864, a bu’n theatr, yn sinema ac yn lle bingo dros y blynyddoedd. Dyma bellach gartref neuadd fwyd fwyaf Abertawe, lle mae 8 o fasnachwyr yn cynnig bwydlenni unigryw. Dyma’n hoff rai ni:
The Italian Job
Os mai bwyd Eidalaidd sy’n mynd â’ch bryd, The Italian Job amdani. Yma fe gewch chi fwyd stryd Eidalaidd gan y cogydd Dean, sydd ag 17 mlynedd o brofiad yn y byd bwyd. Mae’n nefoedd i bobl sy’n gwirioni ar basta, gyda mymryn o flas Abertawe i'r arlwy hefyd. Y Kingsway Karbonara yw fy ffefryn i!
Pizza Boyz
Dyma un o lefydd bwyd mwyaf poblogaidd Abertawe, a hwnnw yng ngofal Deano ac Ali, efeilliaid o Abertawe sydd â gwreiddiau Eidalaidd ac sy’n hynod o angerddol am eu bwyd.
Dechreuon nhw arni drwy osod ffwrn pizza mewn hen fan geffylau. Mae’r Pizza Boyz bellach wedi meistroli’u crefft yn llwyr. Ganddyn nhw fe gewch chi rai o’r pizzas gorau i chi’u cael erioed. Byddwn i wastad yn argymell y Stateside Swirl – tomato, mozzarella, cyw iâr, salami gyda saws ranch ac ychydig o Sriracha.
Olive and Oregano
Yn Olive and Oregano fe gewch chi fwyd stryd Groegaidd cwbl amheuthun. Rwy’ wedi cael bron i bopeth ar y fwydlen ac mae’r cyfan yn ffres a blasus dros ben. Mae’r souvlaki enwog yn ddewis amlwg, tra ’mod i hefyd wrth fy modd â’r wrap pitta haloumi..
Hen deuluoedd Eidalaidd
Mae gan Abertawe berthynas hir a chyfoethog â’r Eidal, ac mae diwylliant y wlad wedi dylanwadu ar gaffis a bwytai yn ogystal ag ar siopau hufen iâ enwog y ddinas. Wedi’r cyfan, does yr un daith i lan y môr yn gyflawn heb hufen iâ! Dyma ddau yn unig o’r goreuon:
Joe’s Ice Cream
Os ydych chi wedi clywed am Abertawe, mae’n bur debyg y byddwch chi wedi clywed am Joe’s Ice Cream hefyd. Dros ganrif yn ôl, creodd Joe Cascarini rysáit hufen iâ unigryw sy’n dal i gael ei ddefnyddio heddiw. Heb wastraffu geiriau, mae’n go eithriadol. Mae pob math o ddanteithion i’w mwynhau yma, gan gynnwys amrywiaeth o syndis, cacennau hufen iâ a detholiad o’r blasau arferol. Fy awgrym i, fodd bynnag, fyddai’r North Pole: dwy haenen fawr o hufen iâ ac yn eu canol, waffer gyda saws mafon a hufen.
Mae tair siop hufen iâ yn Abertawe, ond yr un wreiddiol yma yng nghanol y ddinas yw fy ffefryn i, lle’r arferai Joe eistedd yn gwylio’i holl gwsmeriaid ar waelod y grisiau. Mae’r hyn maen nhw’n ei ddweud yn Joe’s yn berffaith wir: “Dim ond hufen iâ yw popeth arall.”
Verdi's
Yn sefyll nid nepell o’r pier ar brom y Mwmbwls y mae Verdi's – caffi Eidalaidd teuluol sy’n cynnig coffi, bwyd a hufen iâ Eidalaidd o’r iawn ryw. Gyda llefydd eistedd dan do a thu allan i hyd at 400 o bobl, ynghyd â golygfeydd eang ysblennydd o Fae Abertawe, mae’r fwydlen yn arbenigo mewn pizzas a phrydau pasta Eidalaidd clasurol, a’r rheini wedi’u seilio ar ryseitiau’r teulu. Yn rhyfeddol, mae gan y siop hufen iâ ddeg ar hugain o flasau gwahanol (byddwn i’n argymell unrhyw rai o’r sorbedau). Mae ganddyn nhw hefyd ddetholiad nefolaidd o gacennau a phwdinau.