A honno’n ddinas sy’n enwog am ei threftadaeth ddiwydiannol a’i chysylltiadau Siartaidd, mae Casnewydd yn prysur ddod yn ganolfan fwyd o fri. Yn sbardun i’r cyfan, mae’r gwaith a wnaed i weddnewid adeilad rhestredig Gradd II Marchnad Casnewydd, ynghyd â diwylliant bwytai a chiniawa cain sy’n ffynnu.

Gyda chynifer o lefydd i fwyta ynddyn nhw, mae gwybod ble i gychwyn yn dalcen caled. Darllenwch drwy’r rhestr isod i gael ysbrydoliaeth, neu ewch yn syth i’r rhan sy’n apelio fwyaf atoch chi. Mae yma fwytai a bariau, llefydd sy’n denu selogion bwyd fel Marchnad Casnewydd, a digonedd o fwyd rhyngwladol. Dyma ganllaw felly i lefydd bwyta Casnewydd.

Bwytai a bariauBwytaiabariau

Mae Casnewydd yn prysur greu enw iddi’i hun ar fap bwyd Cymru. Yn sbardun i’r cyfan, mae bwytai, bariau a chaffis annibynnol sy’n defnyddio’r cynnyrch lleol gorau, ac yn rhoi croeso Cymreig cynnes tu hwnt ar yr un pryd.

Gem 42

Mae’r geiriau “Gem 42” yn gyfarwydd iawn i’r bobl leol sy’n hoff o’u bwyd. Bwyty ciniawa cain yw hwn sy’n sefyll ar y bont gyferbyn â’r orsaf drenau, ac mae wedi ennill tair o rosglymau’r AA. Dyma drysor pennaf sîn fwyd Casnewydd. Gem 42 hefyd oedd Bwyty Eithriadol y Flwyddyn yng Ngwobrau Bwyd Cymru, ac mae wedi dod i sylw pobl ymhell y tu hwnt i ffiniau’r ddinas.

Y brodyr o’r Eidal, Sergio (y cogydd) a Pasquale Cinotti sy’n rhedeg y lle. Nhw hefyd sy’n gyfrifol am y busnes pwdinau lleol poblogaidd, Gemelli. Maen nhw’n enwog am eu “coginio celfyddydol”, sy’n golygu bod pob pryd yn gampwaith sy’n cyffroi’r synhwyrau.

Mae’r fwydlen fodern Ewropeaidd wedi’i seilio ar gynnyrch safonol lleol, ac mae honno’n newid bob dydd gan flaenoriaethu bwydydd tymhorol a chynaliadwy. Mae cyfle i chi baru’ch prydau â gwinoedd, a’r dewis o’r rheini’n ddiddiwedd. Yn eu plith mae poteli a oedd ar restr winoedd nodedig yr AA yn 2024, a photeli o’r White Castle Vineyard a’r Dell Vineyard, sydd nid nepell o’r bwyty.

Celtic Manor Resort

A hwnnw’n swatio yng Nghoed Coldra dafliad carreg o’r M4, mae gan Celtic Manor Resort, sy’n westy moethus pum seren, bump o fwytai o fri. Dewch yma i wledda ar y darnau gorau o gig eidion a chig oen o Gymru sydd â Dynodiad Daearyddol Gwarchodedig, a hynny ym mwyty Steak on Six sydd â dwy o rosglymau’r AA; mwynhewch gynnyrch lleol Cymreig wrth edmygu’r golygfeydd godidog o Ddyffryn Wysg yn Rafters; neu beth am brydau ac iddyn nhw ddylanwad Asiaidd yn PAD, sydd yng ngofal y cogydd Larkin Cen, a ddaeth i enwogrwydd ar raglenni MasterChef (2013) a Great British Menu (2022 a 2024).

Gweinyddes yn gwenu’n garedig wrth ddal hambwrdd ac arno ddiod, yn barod i’w weini.

Celtic Manor Resort, Casnewydd, De Cymru

Holy Cheesus

I gael gwledd mewn awyrgylch anffurfiol, anelwch am Holy Cheesus. Caffi yw hwn dafliad carreg o’r orsaf drenau sy’n canolbwyntio i raddau helaeth iawn ar gaws, gyda phrydau fel y tôstis caws a’r nachos caws yn gweiddi am gael eu rhoi ar Instagram. Rhowch gynnig ar y Mac Daddy: macaroni hufennog, saws nacho siarp, a chaws cymysg wedi toddi. Mae yma opsiynau heb glwten ac opsiynau figan hefyd.

Tiny Rebel Brewery Bar

Draw yn Nhŷ-du, mae’r Tiny Rebel Brewery Bar yn un o gonglfeini y byd cwrw crefft yng Nghasnewydd. Mae’r microfragdy poblogaidd yma’n gweini cwrw sy’n cael ei fragu ar y safle, ochr yn ochr â byrgers swmpus, adenydd cyw iâr danteithiol, sglodion llwythog a chinio dydd Sul tra enwog. Mae modd cael taith drwy’r bragdy hefyd. Efallai fod coctels yn fwy at eich dant? Y bar annibynnol ffasiynol, BAR.CODE, amdani felly.

Barman yn tynnu peint a tapiau cwrw lliwgar ar y bar pren.
Llun o’r awyr o far, gydag arwydd y bar i’w weld yn amlwg yn y cefndir.

Tiny Rebel, Casnewydd, De Cymru

Blas o Sbaen yng Nghaerllion

I gael mymryn o amrywiaeth, anelwch am dref hanesyddol Caerllion. Roedd yma unwaith gaer Rufeinig a bryngaer o’r Oes Haearn, ac mae’r adfeilion i’w gweld hyd heddiw yn Amgueddfa Lleng Brydeinig Cymru a Baddondy Caer Rufeinig Caerllion. Yn ogystal â bod yn lle llawn hanes, mae’r dref fechan, dawel hon yn gartref i rai o fwytai gorau ardal Casnewydd.

Ewch i gael blas o Sbaen yn y Priory Hotel and Restaurant, sef hen fynachlog Sistersaidd o’r ddeuddegfed ganrif. Mae’r bwyty’n enwog am goginio dros dân agored ac am y dull o fwyta “dros y cownter” sydd wedi’i ysbrydoli gan farchnadoedd arfordir gogledd Sbaen. Ac os am dapas traddodiadol, Los Reyes, y bwyty teuluol sy’n ffefryn gan amryw, yw’r lle.

I’r selogion bwydselogionbwyd

Marchnad Casnewydd

Codwyd Marchnad Casnewydd yn 1854, ond cafodd yr adeilad Fictoraidd rhestredig Gradd II ei ailwampio gyda gofal mawr yn 2022. Mae yno bellach Neuadd Fwyd boblogaidd dros ben, ac ynddi gryn amrywiaeth o fasnachwyr bwyd stryd lleol.

Bachwch birria queso taco gan yr arbenigwyr Mecsicanaidd, Bab Haus Mex; mwynhewch fyrgers smash Cymreig llawn caws gan y Burger Boyz o Bort Talbot, sydd wedi creu enw â’u stondinau codi; gwleddwch ar souvlaki swmpus gan gogyddion Cypraidd Groegaidd Meat and Greek; ac os oes gennych chi ddant melys, claddwch un o ddonyts anferthol Who Cult. A dim ond detholiad bach o’r dewis yw hwnnw. Ar ôl bwyta, ewch i grwydro stondinau’r farchnad er mwyn chwilio am anrhegion bach unigryw.

Marchnad Fictoraidd dan do wedi’i hadnewyddu – llun o falconi’r llawr cyntaf.
Rhywun yn mwynhau pizza bendigedig
Stondin ddiodydd fywiog mewn marchnad brysur, yn cynnig amrywiaeth o ddiodydd braf.

Marchnad Casnewydd, Casnewydd, De Cymru

Gŵyl Fwyd Casnewydd

Wrth eich boddau â bwyd stryd? Dewch i Gasnewydd ym mis Hydref i ganfod mwy fyth o ryfeddodau bwyd a hynny yng Ngŵyl Fwyd Casnewydd. Dyma ŵyl flynyddol sy’n rhoi llwyfan i fasnachwyr bwyd lleol a chynnyrch arbenigol.

Bwyd rhyngwladolbwydrhyngwladol

Yng Nghasnewydd, mae modd teithio uwch eich plât heb gamu o’r ddinas, a hynny diolch i’r bwydydd stryd a’r dewis helaeth sydd ar gael yma. Dewch i fwynhau prydau Eidalaidd o’r iawn ryw yn Vittorio, sydd wedi bod yn agored ers deg ar hugain o flynyddoedd eleni. Dewis arall yw bwyty, siop goffi a deli Marenghi, fymryn y tu allan i ganol y ddinas. Dyma le clyd, di-ffws sy’n enwog am ei fwyd traddodiadol o Sisili.

I wledda ar brydau Indiaidd o’r radd flaenaf, ewch i’r Red Fort yng Nghaerllion, a gafodd ei enwi unwaith yn fwyty Asiaidd gorau’r Deyrnas Unedig gan y Ffederasiwn Arlwyo Asiaidd.

I gael rhagor o ysbrydoliaeth a syniadau am lefydd bwyta yng Nghasnewydd, dilynwch Kacie ar ei blog, The Rare Welsh Bit, ar Instagram ac ar TikTok.

Straeon cysylltiedig