Drysau Agored Cadw

01 - 30 Medi 2025. Trwy gydol mis Medi bydd Cadw yn agor eu drysau i dros 200 o safleoedd hanesyddol Cymru gan gynnig mynediad, digwyddiadau neu deithiau tywys am ddim i ymwelwyr.

Gweler tudalen digwyddiadau Drysau Agored Cadw am ragor o wybodaeth.

Gŵyl Gerdded Gŵyr

06 - 14 Medi 2025. Mae Gŵyl Gerdded Gŵyr yn cynnig amrywiaeth wych o deithiau cerdded sy'n addas i bob oedran a gallu.

Gŵyl Fwyd Sain Ffagan, Caerdydd

13 - 14 Medi 2025. Mae Gŵyl Fwyd Amgueddfa Cymru yn dychwelyd i Amgueddfa Werin Cymru Sain Ffagan, Caerdydd. Bydd dros 80 o stondinau bwyd, diod a chrefft, arddangosiadau coginio, gweithgareddau a cherddoriaeth i'r teulu cyfan .

Sioe Wysg

13 Medi 2025. Dathlwch y gorau o ffermio Sir Fynwy a bywyd gwledig yn Sioe Wysg. Bydd arddangosfeydd cefn gwlad ynghyd â dros 300 o fasnachwyr yn y neuadd fwyd, canolfan siopa a'r babell grefft.

Llanc y Tywod, Ynys Môn

21 Medi 2025. Cynhelir Treiathlon Superfleet Llanc y Tywod trwy goedwig anhygoel Niwbwrch. Mae'r dechrau a'r diwedd wedi'i osod mewn ardal unigryw o fewn y goedwig 700 hectar ger traeth byd-enwog Llanddwyn. 

Gŵyl Fwyd y Fenni

20 - 21 Medi 2025. Gŵyl Fwyd y Fenni yw un o'r digwyddiadau mwyaf yng nghalendr bwyd y DU, gydag arddangoswyr o Gymru a thu hwnt. Mae'r rhaglen yn cynnwys dosbarthiadau meistr, gweithdai, sesiynau blasu a sgyrsiau. Mae yna academi fwyd i blant gyda gweithdai ymarferol hefyd.

Torf o bobl yn eistedd ar y lawnt yn gwylio ac yn gwrando ar y gerddoriaeth ar y llwyfan o'u blaen.
Ffrwythau, jam eisin a phice ar y maen siocled ar hambwrdd.
Pobl yn eistedd ar y glaswellt yn mwynhau bwyd mewn gŵyl.

Gŵyl Fwyd y Fenni

IRONMAN Wales, Sir Benfro

21 Medi 2025. Mae IRONMAN Wales yn ddigwyddiad blynyddol poblogaidd yn Ninbych y Pysgod, Sir Benfro. Nofio 2.4 milltir (3.8km), seiclo 112 milltir (180km), ac yna marathon, gyda dim ond 17 awr i gwblhau'r cyfan.

beicwyr ar ffordd serth, gyda phobl yn gwylio.
Many swimmers wearing green caps running into the sea.

IRONMAN Wales, Dinbych y Pysgod

Gŵyl Elvis Porthcawl

26 - 28 Medi 2025. Mae Gŵyl Elvis yn ddigwyddiad poblogaidd yn nhref glan môr Porthcawl. Mae miloedd yn mynychu'r achlysur blynyddol hwyliog hwn - gyda sawl un wedi gwisgo fel y dyn ei hun.  

Dynwaredwr Elvis yn sefyll ar lan y môr.

Dynwaredwr Elvis, Porthcawl

Straeon cysylltiedig