Dyma rai llefydd llai adnabyddus ar hyd Ffordd yr Arfordir. Rydyn ni wedi eu rhoi mewn trefn o'r top i'r gwaelod, ond mae croeso i chi ddewis a dethol wrth drefnu eich taith wrth gwrs.
Ynys Enlli
Ynys Enlli yw ‘ynys yr 20,000 o seintiau’ a gladdwyd yma ganrifoedd yn ôl, meddai’r chwedl. Mae hynny gryn, gryn dipyn yn fwy na’r boblogaeth bresennol sy’n byw ar yr ynys heddiw. Bu Enlli’n gyrchfan i gael lloches, encilio a phererindota erioed, a dyma lle mae Taith Pererin Gogledd Cymru yn darfod. Yn 2023 hwn oedd y safle cyntaf yn Ewrop i gael ardystiad Noddfa Awyr Dywyll Ryngwladol, gan ymuno â dim ond 16 o safleoedd eraill dros y byd i gyd. Rhwng mis Mawrth a mis Hydref gallwch neidio ar gwch am daith diwrnod i archwilio adar a bywyd môr rhyfeddol yr ynys.
Darllen mwy: Grym eithriadol Enlli
Plas Glyn y Weddw
Adeiladwyd y plasty Gothig Fictoraidd yma ger Pwllheli yn y 1850au i gartrefu’r Fonesig Elizabeth Love Jones Parry, a oedd yn wraig weddw, a’i chasgliad celf. Fe’i hachubwyd rhag adfail bron yn y 1970/80au a’i hadfer yn oriel wych Oriel Plas Glyn y Weddw, sy’n dangos llawer o gelf gyfoes o safon uchel. Mae yna hefyd gaffi, theatr awyr agored, llwybrau trwy’r coed, a gallwch aros mewn moethusrwydd.
Porth Neigwl
Hell’s Mouth yw'r enw Saesneg ar Borth Neigwl, ac efallai bod y fan hon yn uffern i forwyr yr hen ddyddiau wrth iddynt geisio morio yma yn nannedd drycinoedd yr Iwerydd. Ond heddiw mae'r traeth pedair milltir o hyd a'i donnau yn nefoedd i syrffwyr, ond os nad ydych yn syrffiwr profiadol, byddwch yn ofalus. Yn dibynnu ar yr amodau, mae’r môr yn gallu bod yn arw a does dim achubwyr bywydau. Mae’r tonnau’n cynyddu yn eu maint wrth i chi fynd tua gogledd y traeth.
Traeth y Borth
Mae traeth hiraf Ceredigion yn rhedeg am dair milltir (5km) o'r Borth hyd at dwyni tywod Gwarchodfa Natur Genedlaethol Dyfi, sy’n ffurfio rhan o Fiosffer Dyfi. Gallwch ddarganfod mwy yng Nghanolfan Ymwelwyr Ynyslas. Pan fydd y llanw ar drai mawr, datgelir boncyffion hynafol coedwig sy’n 5,000 mlwydd oed. Yn ôl y chwedl, dyma Gantre'r Gwaelod, teyrnas hynafol a foddwyd gan y môr ar ôl i Seithennyn y porthor feddwi ac anghofio cau’r llifddorau.
Darllen mwy: Darganfod bywyd gwyllt yn Safle UNESCO Biosffer Dyfi
Ynyshir
Roedd y Frenhines Fictoria’n berchen ar Neuadd Ynyshir ar un adeg, a doi yma i ddianc i’r arfordir. Bellach mae gerddi’r plas yn warchodfa natur gan yr RSPB, ac enw’r tŷ yw Ynyshir (heb y ‘Neuadd’) – bwyty ag ystafelloedd sydd wedi derbyn dwy seren Michelin. Mae’r bwyd yn anghredadwy: mae bwydlenni blasu’r cogydd-berchennog Gareth Ward yn cymysgu blasau lleol a rhyngwladol â steil eithriadol.
Darllen mwy: Sêr Michelin sîn bwyd a diod Cymru
Aberaeron
Tyfodd y rhan fwyaf o’n trefi harbwr yn organig o amgylch cilfachau naturiol dros y canrifoedd, ond adeiladwyd Aberaeron o’r newydd yn y 1800au cynnar. Mae cyfres wych o adeiladau o gyfnod y Rhaglywiaeth ar hyd yr harbwr, sy’n fwy prydferth fyth oherwydd y ffordd y maent wedi’u paentio. Y mwyaf trawiadol yw'r Harbourmaster indigo, a arloesodd ddatblygiad Cymreig modern o gastrodafarndai celfyddydol gydag ystafelloedd. Mae’n dref fach brysur, yn enwedig yn ystod Gŵyl Bwyd Môr Bae Ceredigion ym mis Gorffennaf.
Pwll y Wrach
Pwll y Wrach yw un o olygfeydd mwyaf trawiadol arfordir Sir Benfro: twll crwn enfawr a ffurfiwyd wrth i ogof ddymchwel, a gysylltir â’r môr gan dwnnel. Mae Llwybr yr Arfordir yn mynd â chi dros ben y bwa; ond gall caiacwyr (a morloi) fynd ar y llwybr tanddaearol a glanio ar draeth o gerrig mân yn y ceudwll ei hun.
Melin Tregwynt
Bu melin wlân yn y cwm bach coediog hwn ers yr 17eg ganrif, pan fyddai ffermwyr lleol yn dod â chnu’u defaid yma i’w droelli’n edafedd a’i wehyddu’n flancedi. Yr un teulu fu’n berchen ar y lle ers 1912, ac mae Melin Tregwynt yn dal i wneud deunyddiau yn y dull traddodiadol. Yn hyfryd o hynafol eu treftadaeth, diolch i lygad graff am ddyluniadau modern, mae’r cynhyrchion bellach yn ffefrynnau mewn gwestai moethus a chan ddilynwyr ffasiwn ledled y byd.
Fferm Drychfilod Dr Beynon
Yr entomolegydd, ffermwr trychfilod a chyflwynydd teledu Dr Sarah Beynon sy’n rhedeg y fferm weithredol hon, gyda’i chanolfan ymchwil a’i hatyniad i ymwelwyr, ar gyrion Tyddewi. Mae gan y Fferm Drychfilod ddigonedd o negeseuon gwyddonol difrifol i’w rhannu am ecoleg a chynaliadwyedd, ond mae hefyd yn llawer iawn o sbort, yn enwedig os oes gennych chi blant. Mae bwydlen y caffi’n cynnwys llawer o drychfilod y gallwch eu bwyta, yn amlwg.