Mae’r tir wedi bod yn ffynhonnell gyson o gynhaliaeth i genedlaethau o Gymry ers y dechrau’n deg, a heddiw mae menywod ar hyd a lled y wlad yn gwneud bywoliaeth drwy ymgymryd â'r gwaith caled o'i gynnal a'i gadw. Yn geidwaid diwylliannol ac amgylcheddol, mae’r menywod hyn yn gwneud y gwaith caib a rhaw o gynnal a chadw tirluniau arbennig Cymru, a gwarchod y llefydd arbennig hyn i bawb gael eu mwynhau,

Drwy warchod y tir a’r amgylchedd, mae’r merched yn gweithio i sicrhau nad ydy ymwelwyr a chymunedau’n gadael mwy nag ôl troed wrth ymweld. O gynnal gwarchodfeydd natur i warchod ynys gyfan, maen nhw’n anelu at ddiogelu ambell fan arbennig dros y wlad er budd y blaned a chenedlaethau’r dyfodol.

Mae hi'n werth ymweld â sawl un o’r safleoedd hynny hefyd, boed hynny er dysg neu hamdden.

Awyr Dywyll, Parc Cenedlaethol Eryri

Teg ydy dweud bod y sêr a’r cytserau wedi cyfrannu tuag at siapio Cymru fel cenedl, boed hynny drwy roi help llaw i ffermwyr gadw trefn ar eu gwaith drwy gydol y flwyddyn neu wrth arwain llongwyr dros y moroedd.

Mae Parc Cenedlaethol Eryri’n un o ddeunaw Gwarchodfa Awyr Dywyll yn y byd, ac mae’r diffyg llygredd aer yn yr ardal yn golygu bod yr awyr yn arbennig o glir. O Ben Llŷn i Fryniau Clwyd, ac o Ynys Llanddwyn i’r Migneint, mae’n bosib gweld miloedd o sêr, yn arbennig felly rhwng Medi ac Ebrill.

Does dim amheuaeth bod gweld seren wib am y tro cyntaf neu allu adnabod ambell blaned yn ddigon i roi gwefr i rywun, ond mae profi’r awyr dywyll yn dod â llu o fuddion iechyd a llesiant i bobol a bywyd gwyllt. Mae 98% o boblogaeth y Deyrnas Unedig yn byw dan lygredd golau, a phrin yn gallu gweld y sêr, os o gwbl. Wrth ei gwaith fel Swyddog Awyr Dywyll gyda Pharc Cenedlaethol Eryri, mae Danielle Robertson, serydd amatur o Ynys Môn, yn gwarchod yr awyr dywyll ac yn ceisio lleihau effaith llygredd aer.

Merch yn sefyll wrth ymyl fan yng nghefn gwlad wrth iddi nosi.

Dani Robertson, Swyddog Awyr Dywyll gyda Pharc Cenedlaethol Eryri

'Mae profi’r awyr dywyll yn eithriadol o bwysig i iechyd pobol, ac mae’n rhan fawr o ddiwylliant a hunaniaeth Cymru. Rydyn ni’n lwcus iawn yng Nghymru bod yna gymaint o lefydd y gallwn ni fynd a gweld miloedd o sêr,' medd Danielle.

Rhan arall o’i swydd yw teithio i fannau anghysbell yng Nghymru mewn fan Arsyllfa Symudol â nifer o delesgopau. Mae hi hefyd yn mynd â phobol sydd ddim fel arfer yn gweld y tywyllwch allan i arsylwi’r awyr dywyll a’u helpu i weld sêr.

'Mae hi’n bwysig bod pobol yn gallu profi tywyllwch fel eu bod nhw’n rhoi egwyl i’w hymennydd rhag golau artiffisial. Mae e fel edrych yn ôl i’n cartref ehangach, rhywbeth nad ydy nifer o bobol yn gallu’i brofi mwyach.'


Darllen mwy: Y cyrchfannau awyr dywyll gorau yng Nghymru

Copaon mynyddoedd Eryri yn erbyn awyr dywyll gyda sêr a golau oren machlud haul ar y gorwel.

Awyr dywyll Parc Cenedlaethol Eryri

Llys-y-Frân, Sir Benfro

Ar lethrau deheuol Mynyddoedd y Preseli yn Sir Benfro, mae cronfa ddŵr Llys-y-Frân yn hafan i fywyd gwyllt ac yn barod eu croeso i unrhyw un sy’n chwilio am antur. Mae’r safle, sy’n cael ei redeg gan Dŵr Cymru, yn cynnig bob math o gyfleoedd, o chwaraeon dŵr i grwydro o amgylch y parc gwledig ar droed neu feic. Mae’r llwybr sy’n amgylchynu’r parc yn 6.5 milltir, gan basio trwy goedwig dlos, a thros fryniau ac afon hardd Syfni.

Gall pysgotwyr geisio’u lwc yn dal brithyll seithliw neu frithyll llwyd yng nghronfa Llys-y-Frân hefyd. Mae Millie Wilson yn gweithio fel ceidwad ar y safle, ac un o brif heriau’r swydd ydy cydbwyso’r gwaith o amddiffyn bywyd gwyllt yr ardal a chynnal atyniad twristiaeth. O blannu coed i drwsio beics, mae Millie yn gwneud gwaith caib a rhaw er mwyn sicrhau bod y safle’n gweithio er budd pobol a natur.

'Ein prif orchwyl yw sicrhau bod y safle’n edrych yn dda a’i fod yn ddiogel i bawb, a gall hynny olygu unrhyw waith o strimio i dorri coed â chainsaw,' eglura Millie.

'Mae’n lle reit arbennig, mae’n ddiarffordd iawn. Mae’n lle braf i adael popeth a chael llonydd, rydyn ni’n gwneud ein gorau i’w gadw mor dawel â phosib.'

Adeilad pren ger llyn gydag arwydd Croeso i Llys y Fran
Person mewn dillad gwaith yn Llys y Fran.

Canolfan Ymwelwyr Llys-y-Frân a'r Millie Wilson 

Mae nifer o Anturiaethau Dŵr Cymru eraill i’w cael ar draws y wlad. Yng nghefndir prydferth Dyffryn Wysg ar y ffin rhwng Sir Fynwy a Thorfaen, mae Llyn Llandegfedd. Mae'r ganolfan chwaraeon dŵr modern yn cynnig chwaraeon rhwyfo a hwylio i bobl o bob oedran a gallu ynghyd â sesiynau nofio dŵr agored.

Mae canolfan Llyn Brenig ar safle 2,500 erw o goedwigoedd, rhostiroedd a llynnoedd bendigedig. Mae canolfan ymwelwyr, caffi, arddangosfeydd gweilch, cyfleusterau llogi beics a sesiynau hwylio a physgota o safon ryngwladol i’w darganfod.

Ynys Enlli

Ers canrifoedd, mae pobol wedi bod yn dianc o brysurdeb y tir mawr dros y swnt i dawelwch Ynys Enlli. Yn gyrchfan i bererinion ers dyddiau cynnar Cristnogaeth, mae’r ynys, sydd tua dwy filltir o arfordir Llŷn, yn gartref i forloi, palod, a dros 300 rhywogaeth o adar. Dim ond un cwpwl sy’n byw yn llawn amser ar yr ynys – y wardeiniaid Mari Huws ac Emyr Owen.

Er bod y gwaith o gynnal a gwarchod Enlli yn ddiddiwedd, a’r gorchwylion yn amrywio gyda’r tymhorau, mae’n fraint i Mari gael rhoi ei hegni at warchod a gwella lle mor arbennig. O gynnal adeiladau, gerddi a llwybrau cyhoeddus yr ynys, i blannu coed, hel defaid a gosod giatiau, mae bywyd ar Enlli’n fywyd prysur. Gyda’r gwanwyn, daw ymwelwyr am hoe o lonyddwch o’r byd modern a’r her bennaf yw dal fyny â’r holl fwrlwm wrth i’r ynys ddod yn fyw.

'Mae'r ynys yn ffrwydro ym mis Ebrill, bob gardd, bob llwybr a'r berllan afalau yr un pryd, a hyn ar ôl ein cyfnod prysuraf ar yr ynys yn paratoi tuag at y tymor gwyliau, felly ti ar dy liniau rhywsut!' meddai Mari.

O Ebrill tan Medi, mae’r ynys yn croesawu ymwelwyr am y dydd ar Fordaith Llŷn.

'Does dim llawer o lefydd ar ôl yn y byd sydd fel Enlli. Am le mor fach, mae hi'n ynys hynod. Mae yna ryw hud yn perthyn i'r lle sydd yn anodd ei ddisgrifio. Mae’n lle gwych i weld bywyd gwyllt, i weld y sêr ac i gael digital detox hefyd.'

A lady sat down crossed-legged in a polytunnel full of plants.
A lit lighthouse at night as seen from below.

Mari Huws yn y twnnel tyfu a goleudy Ynys Enlli

Yn ôl ar y tir mawr, gwnewch yn siŵr eich bod yn treulio amser yn crwydro pentre' bach Aberdaron. Galwch draw i ganolfan ddehongli’r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, Porth y Swnt, i ddysgu mwy am dreftadaeth arbennig Llŷn.

Mae Caffi Siop Plas a'i fwydlen leol dymhorol yn le braf am ginio. Mae’r caffi yn rhan o brosiect cymunedol i adfer ac adfywio capel a siop y pentref gan greu canolbwynt diwylliannol cynaliadwy i'r ardal. Becws Islyn yw’r lle am baned a chacen prynhawn, ac ar gyfer swper, ni allwch guro’r olygfa o fwyty a gwesty Tŷ Newydd.

Darllen mwy: Grym eithriadol Enlli

Aerial view of a seaside village.

Aberdaron

Cadw Cymru'n Daclus

Gwaith y cyflwynydd radio a’r artist Aleighcia Scott fel llysgennad ieuenctid i Cadwch Gymru’n Daclus ydi annog pobol ifanc i ddefnyddio eu lleisiau er mwyn gwneud gwahaniaeth. Elusen sy’n gweithio ledled Cymru i warchod yr amgylchedd ydi Cadwch Gymru’n Daclus, a sefydlwyd yn 1972, ac ers dros hanner cam mlynedd eu nod yw sicrhau bod pawb yn cydweithio i ofalu – a mwynhau – Cymru ar ei gorau.

Aleighcia yw eu llysgennad ieuenctid cyntaf, ac mae hi’n gweithio gyda sefydliadau ac elusennau i ledaenu’r neges a helpu pobol ifanc i gyfrannu at yr ymdrechion yn eu cymunedau nhw.

'Pobol ifanc yw’r genhedlaeth nesaf sydd angen helpu i ofalu am Gymru – mae eu mewnbwn nhw’n hollbwysig oherwydd hebddyn nhw, be fyddai’n digwydd?' gofynna.

'Dw i’n mwynhau cyfarfod pobol o bob math o gefndiroedd a gwybod fy mod i’n helpu i wneud newidiadau cadarnhaol yng Nghymru. Dw i wrth fy modd hefyd yn gwneud i bobol ifanc deimlo fel bod ganddyn nhw’r pŵer i rannu eu syniadau.'

Mae gwaith Cadwch Gymru’n Daclus yn amrywio o amddiffyn gwrychoedd a chreu gerddi newydd i annog bioamrywiaeth, yn ogystal â gweithio gydag awdurdodau lleol i gael gwared ar sbwriel. Mae ystyried ein heffaith ar y blaned yn dylanwadu ar bob rhan o’u gwaith, ac mae nhw’n annog ymwelwyr a phobol Cymru fel ei gilydd i fod yn garedig â’r wlad a’n cymunedau.

'Deall y gall y pethau lleiaf wneud gwahaniaeth yw’r peth pwysig. Weithiau, mae’n hawdd meddwl bod yr argyfwng yn rhy fawr ac nad oes dim allwn ni wneud i helpu, ond mae yna gamau y gallwn eu cymryd,' meddai Aleighcia.

'Mae hyd yn oed helpu’n lleol, ailgylchu, a gwneud y peth iawn yn y gwaith neu adref yn gwneud gwahaniaeth mawr pan rydyn ni i gyd yn eu gwneud hyn gyda’n gilydd.'

Straeon cysylltiedig