Teithiau cerdded i weld golygfeydd Abertawe
Mae pobman yn agos at ei gilydd yng nghanol Abertawe, ac yn agos hefyd at lan y môr. Mae’n lle perffaith felly i’w grwydro ar droed. Mae Llwybr Cerdded Canol Dinas Abertawe yn cynnig tipyn o hanes a diwylliant, gan gynnwys Castell Normanaidd Abertawe, Amgueddfa Abertawe ac Amgueddfa Genedlaethol y Glannau – sy’n eich tywys ar daith drawiadol a hynod ddiddorol drwy bron i 300 mlynedd o hanes diwydiannol Cymru, gan gynnwys twf Copperopolis, fel roedd Abertawe’n cael ei galw ar un adeg.
Taith ychydig yn hirach yw llwybr Dylan Thomas sy’n pasio rhai o’r tirnodau a ddylanwadodd ar fab llenyddol enwocaf Abertawe, gan gynnwys y tŷ lle cafodd ei fagu yn Cwmdonkin Drive, yr Uplands Tavern lle cafodd ei lymaid cyntaf o gwrw, a Chanolfan Dylan Thomas, sydd wedi’i lleoli yn hen Neuadd y Dref ac yn dathlu ei fywyd a’i waith.
Er ei bod hi’n ddigon rhwydd dilyn eich trwyn ar y teithiau cerdded hyn drwy Abertawe, weithiau gall taith dywys eich helpu i ddarganfod mwy fyth o gorneli hudolus y ddinas. Mae Fogo's Swansea Walking Tour a Griffin Guiding ill dau’n cynnig teithiau cerdded wedi’u trefnu i unigolion a grwpiau bach.
Llwybrau cerdded y tu hwnt i’r ddinas
Mae bae chwarter lleuad Abertawe yn ymestyn am 5 milltir (9 km). Dyma’r man cychwyn perffaith i gerdded llwybr arfordir Abertawe a Llwybr Cerdded Prom Abertawe yr holl ffordd i’r Mwmbwls. Ar y ffordd, trowch am Barc Brynmill, y parc trefol cyntaf i’w greu ar gyfer trigolion Abertawe, neu Barc Singleton, sy’n rhan o hen ystad deuluol John Vivian, y meistr copr o Gernyw ac un o arloeswyr diwydiannol mwyaf Abertawe.
Yn y Mwmbwls, mynnwch hoe haeddiannol yn un o’r siopau hufen iâ Eidalaidd enwog, tra bo’r dewis o dafarndai a bwytai hefyd yn helaeth dros ben.


Abertawe yw’r porth i brydferthwch Penrhyn Gŵyr lle mae llwybrau cerdded rif y gwlith. Mae Llwybr Arfordir Gŵyr (sy’n rhan o Lwybr Arfordir Cymru) yn dilyn yr holl benrhyn ac yn cynnig llwybrau drwy fyd natur ger Abertawe a golygfeydd glan môr godidog.

Yn Ne Gŵyr, ymhlith y llwybrau enwocaf mae’r daith hamddenol rhwng Langland a Bae Caswell. Os byddwch chi’n lwcus, efallai y cewch chi gip ar y brain coesgoch sy’n byw yn hafnau ac ogofâu’r creigiau fan hyn. Ymhellach i lawr yr arfordir, dyna i chi Lwybr Cerdded Bae y Tri Chlogwyn, lle byddwch chi’n dod o fewn tafliad carreg i adfeilion Castell Pennard. Yn ôl llên gwerin lleol, roedd y tylwyth teg wedi melltithio’r castell. Mae Llwybr Cerdded Trwyn Oxwich yn arwain o gwmpas trwyn ysblennydd a heibio i un o fannau addoli cynharaf Gŵyr – Eglwys Illtud Sant o’r chweched ganrif. Mae’r llwybr rhwng Rhosili a Bae Mewslade, wedyn, yn rhoi golygfeydd dramatig o Ben Pyrod ac arfordir Sir Gâr.



Ar arfordir Gogledd Gŵyr, bydd Taith Gylchol Llanmadog yn eich tywys heibio i gaer o’r Oes Haearn ac i Dwyni Whiteford. Ac ar lwybrau cerdded Llanrhidian Uchaf, fe gewch chi’ch arwain ar draws morfa heli sy’n ganolog i ddiwylliant cocos Cymru.
I ffwrdd o’r arfordir, llwybr heicio heriol 35 milltir (56km) yw Llwybr Gŵyr ger Abertawe, sy’n anelu am y tir ond hefyd yn mynd yn ôl drwy hanes wrth ymweld â Charreg Arthur. Cromlech tua 4,000 o flynyddoedd oed o’r oes Neolithig yw hon, ac i'w chanfod ger copa uchaf Gŵyr.
Llwybrau drwy’r coed ger Abertawe
Mae cyfle i ymgolli mewn coetiroedd hyfryd wrth gerdded ym mro Abertawe hefyd. I’r gorllewin o ganol y ddinas fe ddewch chi ar draws Parc Gwledig Dyffryn Clun, sy’n hafan 700 erw i fyd natur. Roedd rhan o’r parc yn dir diwydiannol ar un adeg, ac roedd yma linell reilffordd bwysig hefyd. Mae’r lle bellach yn gartref i goed bedw, ffawydd a derw hynafol.
I’r gogledd o Abertawe, mae Coed Cwm Penllergare. Ystad Fictoraidd fawreddog oedd hon ar un adeg, a chartref Dillwyn Llewelyn, o’r teulu cyfoethog a oedd yn berchen ar Cambrian Pottery. Roedd yn arddwr enwog ac yn arloeswr ym myd ffotograffiaeth. Heddiw, fe allwch chi grwydro’r tir a fu’n ei ysbrydoli, gan gynnwys can hectar o goetir, dau lyn a 7 milltir o lwybrau tawel drwy’r coed.
Uwchben canol y ddinas mae un o lwybrau cerdded mwyaf difyr Abertawe. Mynydd Cilfái yw’r lle hwn, darn cymharol ifanc o goetir a blannwyd i helpu’r bryn i adfer ar ôl canrif o lygru’r aer a’r dŵr wrth gynhyrchu copr, haearn a glo yma. Gwta drigain mlynedd yn ôl, roedd y tir hwn yn noeth, ond heddiw mae’n doreithiog o fioamrywiaeth ac yn gartref i ymerawdwyr, mursennod tinlas cyffredin, madfallod a bwncathod, hyd yn oed. Mae fan hyn wedi dod yn ffefryn ymhlith trigolion Abertawe ac ymwelwyr sydd â’u bryd ar grwydro – ac mae’r golygfeydd o Fae Abertawe’n ddigon i gipio’ch anadl.