Mae teithio ar feic yn rhoi'r cydbwysedd perffaith rhwng gweld tipyn mewn cyfnod byr o amser a dod i adnabod llefydd yn dda, o gymharu â ffyrdd eraill o deithio.
Mae hyn yn bendant yn wir am deithiau hirach, lle gallwch brofi llif y tirlun ar gyflymder i’ch plesio chi, a threulio sawl orig mewn caffi pleserus. Dyma rai syniadau am lefydd i fynd.
Marchlyn Mawr
Uwchben Deiniolen a chwarel Dinorwig, mae ffordd na ellir ond ei chyrraedd ar droed neu ar feic, sy’n fforchio’n ddwy ddringfa gyda’r gorau yng Nghymru. Mae’r gyntaf tua’r dde yn arwain at olygfeydd rhyfeddol dros Lyn Padarn; mae’r ail yn arwain at Farchlyn Mawr, y fangre uchaf y gellir ei chyrraedd ar feic ffordd yng Nghymru, dros 2,000 troedfedd (650 medr). Er gofyn tipyn o ymdrech, mae’r profiad yn ddi-guro.
Caffi: Dewisiadau lu yn Llanberis; Pantri yn un da.
Dyffryn Clwyd
Mae nodweddion daearyddol dyffryn Clwyd wedi hen apelio at seiclwyr ers tro byd. Mae Bwlch yr Oernant yn hen ffefryn gan rai ddaw am ddiwrnod o’r tu hwnt i Glawdd Offa; felly hefyd yr elltydd byrion, caled i Fwlch Pen Barras, Moel Arthur, a’r ‘Silff’. I’r rhai sy’n llai hoff o elltydd, ceir profiad dymunol yn y ddrysfa o lonydd cefn, gwledig ac ar y llwybr di-draffig rhwng Llanelwy a thref glan môr nodedig y Rhyl.
Caffi: Caffi R yng Nghanolfan Grefft Rhuthun yn ddewis dibynadwy.
Y Mawddach
Tra môr, tra Meirion... ac ar hyd yr afon Mawddach sy’n cynnal y berthynas oesol honno. Ceir diwrnod perffaith i’r teulu ar y llwybr rhwng Dolgellau a bwrlwm y Bermo. Gan esgyn o’i glan i lynnoedd Cregennan, fe geir cylchdaith werth chweil i’r rhai fynn fentro i’r bryniau. I’r rhai ddaw ar ofyn diwrnod caletach, gellir parhau i Dal y Llyn, neu hyd yn oed i ddringfa ddrwgenwog Bwlch y Groes o Ddinas Mawddwy, sydd â’i throed arall ar lan Llyn Tegid.
Caffi: Hyni byns eiconig Popty’r Dref, Dolgellau.
Elenydd
Gellir profi tirwedd anghysbell a llonyddwch yr Elenydd hyd yn oed ar yr ffyrdd, ymhell o frys y byd, yn enwedig ar y daith o gwm Elan heibio i weithfeydd mwyn Cwmystwyth. Ceir cyfleon lu am gylchdeithiau gwerth chweil; dringo i lynnoedd Teifi o Abaty Ystrad Fflur, dringo i fyny o gomin Abergwesyn, neu oddiweddyd gwartheg ar y ffordd i gronfa ddŵr Nant y Moch.
Caffi: Paned a thamed yn aros yn Tŷ Morgans, Rhaeadr Gwy.
Ar hyd afon Tywi
Mae perlau i’w canfod ar feic yr holl ffordd ar hyd afon hiraf Cymru. Mae ei thardd yn Llyn Brianne, dafliad carreg o’r capel pellennig hwnnw, Soar y Mynydd – symbol o’r Gymru sanctaidd a’r Gymru wledig. Rhwng trefi marchnad Llanymddyfri a Llandeilo, byddai gwerth mentro ychydig pellach am y Mynydd Du a Thro’r Gwcw neu Gastell Garreg Cennen. O Gaerfyrddin, awn naill ochr i’r aber dan ganu un ai ‘Hen Fenyw Fach Cydweli’ neu ‘Dros y Dŵr i Draeth Llansteffan’...
Caffi: Lluniaeth a llawenydd drwy’r dydd, bob dydd yn Diod, Llandeilo.
Bwlch a Rhigos
Bwrodd sawl un o’n seiclwyr mwyaf eu prentisiaeth ar y ddeuawd yma o ddringfeydd - Bwlch a Rhigos. Ar daith o Gaerdydd, Abertawe neu unrhywle yn yr hen Forgannwg, mae’r ddwy ddringfa’n gosod her debyg, a golygfeydd eang dros gymoedd y Rhondda a’r Cynon a thu hwnt. Efallai y bydd rhannau di-draffig Llwybr y Taf rhwng Caerdydd ac Aberhonddu yn apelio hefyd.
Caffi: Beth am gaffi’r elusen seiclo Pedal Power ar gyrion Caeau Pontcanna yn y brifddinas?
Y Fenni
O fewn cyrraedd i ganol y Fenni, y dref fyrlymus sy’n hawdd ei chyrraedd ar drên, mae’r Tymbl, un o’r ffyrdd mwyaf poblogaidd gan seiclwyr o bell ac agos. Mae bwlch uchaf Cymru, Bwlch yr Efengyl, hefyd o fewn pymtheng milltir (25km), a disgyniad i’r Gelli’n ymaros yn wobr. Os mai edmygu golygfeydd o’r Bannau ar dempo mwy hamddenol sy’n mynd â’ch bryd, mae ’na lwybrau ar hen reilffyrdd o Lanfoist i Frynmawr, ac o Bontypŵl i Safle Treftadaeth y Byd Blaenafon.
Caffi: Cynnyrch tymhorol a choffi arbenigol yn Latte-da, Crughywel.
Môn, Llŷn a Phenfro
Anwybyddwch unrhyw un sy’n dweud bod ffyrdd y parthau hyn yn wastad; y gwir yw eich bod yn mynd i fyny ac i lawr dragywydd, ochr yn ochr â’r arfordir trawiadol. Ar ddwy olwyn, ceir blas o fywyd Cymreig unigryw sydd bellach ar drai. Ewch i ben draw’r byd i Uwchmynydd am gip o Enlli, neu i Borth Dafarch ar Ynys Cybi i deimlo sblash y tonnau. Os am daith wedi’i threfnu ar eich cyfer, mae un i’w chael yn Sir Benfro yn y gwanwyn, a chynhelir y Tour de Môn yn yr haf.
Caffi: Mae seiclwyr Aberteifi’n destun eiddigedd a hwythau mor agos i Crwst.