Cynnau goleuadau Nadolig Caerdydd

Dewch i Gaerdydd unrhyw dro ar ôl nos Iau 14 Tachwedd 2024 i weld yr addurniadau godidog a’r llwybrau goleuadau o amgylch canol y brifddinas. Mae llwybr Goleuni’r Gaeaf yn llawn goleuadau a gosodiadau sain rhyfeddol, a’r cyfan ar gael i’w fwynhau yn rhad ac am ddim. Codwch fap y llwybr er mwyn mynd i’w gweld nhw i gyd. Mae’r cyfan yma tan ddechrau mis Ionawr.

Addurn golau 3D mewn siâp carw Siôn Corn, wrth ymyl wal castell.
Coeden ac arni oleuadau porffor gyda’r nos.

Goleuadau’r Nadolig yng Nghaerdydd

Gŵyl y Gaeaf Caerdydd

Dewch i fwynhau asbri’r ŵyl yng Ngŵyl y Gaeaf Caerdydd. Gŵyl yw hon sydd wedi’i lleoli ar lawnt Neuadd y Ddinas ac yng ngerddi Castell Caerdydd. Fe gewch chi sglefrio yn yr awyr agored, mwynhau cyffro’r ffair, a swatio yn y Pentref Alpaidd gyda llymaid i’ch cynhesu a thamaid bach i’w fwyta. Bydd Gŵyl y Gaeaf ar agor o 14 Tachwedd tan 5 Ionawr, a hynny rhwng 12yp a 10yp yn ystod yr wythnos a rhwng 10yb a 10yp ar benwythnosau.

Marchnad Nadolig Caerdydd

Yn y cyfnod cyn y Nadolig, bydd canol dinas Caerdydd yn gweddnewid wrth i gytiau pren Marchnad Nadolig Caerdydd ymddangos. Mae gan y farchnad dros 200 o stondinau sy’n gwerthu crefftau, anrhegion a bwyd a diod unigryw. Mae yma bopeth o emwaith, serameg, canhwyllau a thecstiliau wedi’u creu â llaw i gaws, mêl, jin a siocled lleol. Bydd y stondinau ar agor bob dydd o 14 Tachwedd tan 23 Rhagfyr 2024, a hynny rhwng 10yb a 6yp. 

Llun o stondinau marchnad Nadolig gyda’r nos.
Stondinau marchnad ar stryd, gyda ffenestri siopau a goleuadau Nadolig.
Tair menyw yn sgwrsio mewn marchnad Nadolig.

Marchnad Nadolig Caerdydd, Caerdydd

Siopa Nadolig yng Nghaerdydd

Yn ogystal â chrwydro’r Farchnad Nadolig, mae Caerdydd ei hun yn lle perffaith i wneud eich siopa Nadolig , boed chi’n chwilio am y brandiau mawr, am siopau bwtîg annibynnol, neu am drysorau o’r oes a fu. Mae popeth yn agos at ei gilydd yng nghanol y ddinas, felly mae’n hwylus iawn mynd o siop i siop yng Nghanolfan Siopa Dewi Sant, ym Marchnad Dan Do Caerdydd, yn yr Aes ac ar Heol y Frenhines. Anelwch am yr arcedau lle cewch chi amrywiaeth hynod o gaffis a siopau annibynnol bach a hudolus.

Mynedfa i neuadd farchnad Caerdydd yn y nos wedi'i goleuo gan oleuadau Nadolig glas a gwyrdd.
Arcêd Morgan yn ystod y Nadolig.

Marchnad Caerdydd ac Arcêd Morgan, Caerdydd

Y Nadolig ym Mharc Bute

Er mwyn camu i ganol byd natur, ewch i Barc Bute. Yn ystod y dydd, crwydrwch drwy’r gerddi prydferth, drwy’r coetiroedd tawel, ac ar hyd glannau’r afon. Liw nos, mwynhewch yr addurniadau a’r goleuadau tymhorol ar hyd y llwybr goleuni anhygoel. Yn wir, gyda cherddoriaeth wych yn gyfeiliant, mae’r Nadolig ym Mharc Bute yn wledd i’r llygad ac i’r glust. Ymunwch ag un o’r teithiau tywys, gweithdai neu weithgareddau i’r teulu sy’n cael eu cynnal rhwng 22 Tachwedd a 31 Rhagfyr 2024.

Gŵyl Nadolig Caerdydd 2024

Dathlwch ysbryd y Nadolig yng Ngŵyl Nadolig Caerdydd, sy’n cael ei chynnal yn stadiwm Gerddi Sophia. Dyma ŵyl yn llawn cerddoriaeth, comedi, theatr a pherfformiadau dawns byw, yn ogystal â phob math o stondinau, tryciau bwyd a bariau. Bydd arddangosfa dân gwyllt odidog ar y noson olaf. Mae’r ŵyl yn cael ei chynnal rhwng 18 a 23 Rhagfyr 2024, a’r drysau ar agor rhwng 12yp ac 11yp bob dydd. Bydd y tocynnau ar gael ar-lein neu wrth y giât.

Pantomeimiau a sioeau yn theatrau Caerdydd

Os mai am ychydig o adloniant a difyrrwch rydych chi’n chwilio, mae gan theatrau Caerdydd sioeau a phantomeimiau niferus i’w cynnig i chi.

Byddwch yn barod am gliter godidog yn y Vaguely Deviant Not Quite Christmas, Christmas Show, a fydd yn rhoi dechrau ychydig yn wahanol i’r tymor wrth agor ar 30 Tachwedd yng Nghanolfan Mileniwm Cymru. Ar 19 Rhagfyr bydd cyngerdd Dathliadau Nadolig, gyda Cherddorfa Genedlaethol Gymreig y BBC, yn noson hyfryd o alawon Nadoligaidd wedi’u plethu ag ychydig o jazz.

Ymhlith sioeau’r Nadolig yn Theatr y Sherman, a’r rheini’n dechrau yn gynnar ym mis Tachwedd, mae’r sioe deuluol wych A Christmas Carol. I blant bach, ewch i weld Yr Hugan Fach Goch (yn Gymraeg) a Little Red Riding Hood (yn Saesneg).

Yn y Theatr Newydd, bydd tymor y Nadolig yn dechrau ar 13 Tachwedd gyda So This Is Christmas – sioe a fydd yn orlawn o ganeuon yr ŵyl a honno’n addo noson hwyliog tu hwnt i chi. Y clasur Cinderella fydd pantomeim 2024, a hwnnw i’w weld rhwng 7 Rhagfyr a 5 Ionawr. Ewch â’r holl deulu i gael profiad gwefreiddiol ac i chwerthin lond eich boliau yng nghwmni’r sêr Gethin Jones, Owain Wyn Evans, Mike Doyle, Denquar Chupak a Stephanie Webber.

Digwyddiadau Nadoligaidd ger Caerdydd

Yn ogystal â’r holl ddigwyddiadau Nadoligaidd yng nghanol y ddinas, mae rhai o’n ffefrynnau ni o fewn tafliad carreg i Gaerdydd hefyd.

Mae Cadw’n wych am drefnu digwyddiadau a llwybrau teuluol yn ystod mis Rhagfyr. Ymhlith y digwyddiadau yn y de mae Penwythnosau Nadolig Caerffili, dathlu Saturnalia – Gŵyl Rufeinig yng Nghaerllion, Marchnad Aeaf Tretŵr, a Gweithdy Addurniadau Nadolig Canoloesol a Llwybr Goleuadau'r Ceirw yng Nghastell Cas-gwent. Mae rhagor o ddigwyddiadau ar dudalen Cadw sy’n rhestru digwyddiadau.

Mae Siôn Corn a’i goblynnod wrthi’n cael trefn ar eu gweithdy hudol ym Mhrofiad y Bathdy Brenhinol yn Llantrisant. Mae modd ymweld â’r Groto rhwng 23 Tachwedd a 23 Rhagfyr. I gael rhagor o fanylion ac i gadw lle, ewch i wefan y Bathdy Brenhinol.

Darllenwch fwy: Digwyddiadau a diwrnodau i’w mwynhau ym mis Rhagfyr ledled Cymru

Aros yng Nghaerdydd

Os ydych chi’n bwriadu trefnu taith i Gaerdydd dros yr ŵyl, cymerwch gip a gwyliau byr yng Nghaerdydd i gael rhagor o ysbrydoliaeth. Mae ein canllaw gan arbenigwr lleol i lefydd bwyta Caerdydd yn sôn am rai o’r bwytai gorau, ac mae yma ddigonedd o lefydd annibynnol sy’n gwneud bwydydd figan hefyd.

Straeon cysylltiedig