Cymryd saib gyda Ceri Lloyd
Syniadau i’ch ysbrydoli i deimlo’n egnïol, tawel eich meddwl a hapus dros gyfnod yr hydref a’r gaeaf…
Ryseitiau traddodiadol Cymreig i chi eu gwneud a’u profi. Blaswch flas o Gymru lle bynnag yr ydych.
Trefnu
Syniadau i’ch ysbrydoli i deimlo’n egnïol, tawel eich meddwl a hapus dros gyfnod yr hydref a’r gaeaf…
Cawl neu Lobsgows? Beth bynnag rydych yn ei alw, mae pawb yn cytuno ei fod yn well y diwrnod ar ôl ei baratoi pan fydd yr holl flas wedi datblygu. Mae'n fendigedig gyda thalp o fara cartref a chaws Cymreig.
Picau ar y maen, pice bach, cacennau cri, teisennau gradell - beth bynnag fyddi di’n eu galw, maen nhw’n dda. Dyma rysáit draddodiadol i'w dilyn.
Pryd wedi'i wneud â chaws Cymreig, mwstard a chwrw lleol. Roedd y pryd yn cael ei galw’n ‘caws wedi’i rostio’ yn y canol oesoedd ac mae’n defnyddio caws wedi’i gratio wedi’i gymysgu â llefrith neu gwrw a mwstard i’w roi ar dost neu datws trwy’u crwyn.
Rysáit amser te poblogaidd yng Nghymru. Mae’n cael ei wneud gan ddefnyddio ffrwythau sych, sbeisys a the. Dyma fersiwn ychydig yn wahanol i'r rysáit draddodiadol.
Mae Selsig Morgannwg yn selsig lysieuol Gymreig traddodiadol a'r prif gynhwysion yw caws, cennin a briwsion bara. Mae sawl fersiwn erbyn hyn yn defnyddio gwahanol berlysiau a sbeisys, a gwahanol fathau o gaws - yn ogystal â fersiwn fegan.
Gall y rysáit yma gael ei weini fel byrbryd ysgafn unrhyw bryd o'r dydd neu ei weini ar dost trwchus am frecwast iachus a blasus! Mae'n cyfuno bwyd môr lleol o'r Gŵyr gan gynnwys cocos Penclawdd a bara lawr - math o wymon sy'n cael ei gasglu ar hyd yr arfordir.
By answering a few questions, we'll give you the chance to win £500. By doing so you will also help us improve this website and help with your holiday planning and travel needs.
Good for you. Good for us. Teamwork!