Dyma eich cyfle i ddarganfod ein gwlad o’r newydd, ac i ganfod rhannau newydd o’n gwlad. Dewch o hyd i’ch Cymru chi eleni.
Os ydych chi’n awchu am dirweddau mawr, agored; am gyffro mewn gŵyl; I gyffwrdd darn o hanes; neu am antur newydd sbon – mae digon i’w brofi. Dilynwch eich trywydd eich hun, neu dilynwch ‘Ffordd Cymru’ – casgliad o dri llwybr cenedlaethol sy’n eich helpu i deithio hyd a lled y wlad, o Fae Caerdydd I Landudno; o Fôn at y gororau. Archwiliwch rannau newydd o Lwybr Arfordir Cymru. Teimlwch wefr ar wifren wib hiraf Ewrop. Ac ewch yn ôl mewn amser yn un o 600 o gestyll ein gwlad. Ar y daith, blaswch fwyd a diod lleol mewn caffis pentrefol, tafarndai hynafol a bwytai Michelin, gan gwrdd â chynhyrchwyr i brofi gin neu chwisgi; halen neu gaws.
A trowch 2019 yn flwyddyn o ddarganfod Cymru, ac o ganfyddiadau personol. Cynlluniwch deithiau diwrnod; neu defnyddiwch Ffordd Cymru i fapio gwyliau i galon y genedl.
Dyma Gymru. A dyma eich cyfle chi i ddarganfod pob math o brofiadau newydd.
Croesawodd Cymru Ras Cefnfor Volvo i Fae Caerdydd eleni. Dyma flas o’r hwylio, y rasio a’r amodau eithafol roedd yr hwylwyr yn eu hwynebu.